Yn ddiweddar, dathlodd Jonathan Smart, Prif Swyddog Gweithredu Banc Data SAIL a Phennaeth Rhaglenni Adran Gwyddor Data Prifysgol Abertawe, gwblhau ei MA mewn Ymarfer Proffesiynol yn llwyddiannus trwy ddysgu o bell ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Jonathan yn clodfori'r cwrs am wella ei sgiliau myfyrio a chyfrannu'n sylweddol at ei ddatblygiad proffesiynol.