Skip page header and navigation

Mae Dr Nichola Welton, Cyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn Y Drindod Dewi Sant, wedi hyrwyddo a chefnogi gwaith ‘Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin - Dr Mz’ wrth gydweithio gyda’r prosiect Waves of Change, dan arweiniad yr Athro Daniela Schmidt a Dr Camilla Morelli o Brifysgol Bryste a’r animeiddiwr Sophie Marsh.

Plant yn eistedd ac yn edrych ar dafluniad ar sgrin.
Image by Sophie Marsh

Mae’r cydweithio hwn wedi arwain at animeiddiad byr a grëwyd gan y bobl ifanc sy’n mynd i’r afael â’r mater hollbwysig o newid hinsawdd yng Nghaerfyrddin.

Mae ‘Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin - Dr Mz’ yn enwog am ei ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed, gan gynnig sesiynau galw heibio wythnosol sy’n cynnwys sesiynau digidol, coginio, garddio, iechyd a lles, LGBTQ+ a sesiynau gwirfoddoli. Mae’r sefydliad yn gweithredu gyda phum amcan allweddol, gan gynnwys hyrwyddo hawliau pobl ifanc, darparu cyfleuster hamdden diogel, cynnig mynediad at wybodaeth a dysgu, rhoi llais i bobl ifanc yn y gymuned, a’u galluogi i lunio eu cymuned yn weithredol.

Mae’r prosiect Waves of Change, o dan arweiniad yr Athro Daniela Schmidt a Dr Camilla Morelli, wedi chwarae rhan ganolog wrth gyflawni amcanion Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin - Dr MZ. Trwy gynnwys pobl ifanc mewn trafodaethau am eu hawliau o ran yr argyfwng hinsawdd, darparu gweithgaredd animeiddio hygyrch rhad ac am ddim, a hwyluso trafodaethau wyneb yn wyneb â gwyddonwyr hinsawdd, mae’r prosiect wedi grymuso unigolion ifanc i gyfrannu at atal yr achosion gwaethaf posib o senarios newid hinsawdd.

Plentyn yn gweithio ar animeiddiad syml gan ddefnyddio llun ar ddarn o bapur ac iPad.
Image by Sophie Marsh

Amlygodd Christopher Monk, Gweithiwr Ieuenctid Digidol Arweiniol yn Dr Mz, effaith gadarnhaol y prosiect, gan nodi, “Daeth y bobl ifanc a fynychodd y sesiynau i ffwrdd gan deimlo’n llawer mwy hyderus am yr effaith y gallant ei chael ar yr argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.”

Mynegodd y sawl a oedd wedi cymryd rhan hyder newydd wrth gymell oedolion i wrando ar eu safbwyntiau a’u barn, ac maent yn awyddus i rannu eu hanimeiddiadau gyda’r gymuned ehangach trwy bosteri, dangosiadau, a thrafodaethau gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau.”

Pwysleisiodd Chris ymhellach lwyddiant y gweithdai, gan nodi bod 86% o’r rhai a gymerodd ran wedi gweld y gweithdy’n ddefnyddiol iawn. Yn ogystal, nododd dwy ran o dair o’r mynychwyr lefelau uwch o hapusrwydd o ddechrau’r sesiwn galw heibio i ddiwedd y sesiwn. Mynegodd dwy ran o dair o’r cyfranogwyr hefyd barodrwydd i argymell gweithgareddau tebyg i’w cyfoedion pe byddent yn cael eu cynnig gan Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin-Dr Mz yn y dyfodol.

Dywed yr Athro Schmidt, Prifysgol Bryste: “Mae pob llais yn bwysig yn ein trafodaethau ar sut beth yw dyfodol cynaliadwy yn COP28. Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar Gaerfyrddin, a fydd ond yn dod yn bwysicach wrth i law ddwysau a lefel y môr godi. Roedd defnyddio animeiddiad yn galluogi’r bobl ifanc i fynegi eu pryderon.

Dywedodd Dr Nichola Welton, Cyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r cydweithrediad hwn rhwng Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin - Dr Mz a’r prosiect Waves of Change yn cyd-fynd â rhaglen gymhwyso Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol PCYDDS, gan bwysleisio pwysigrwydd galluogi hawliau pobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd yn rhagweithiol.

“Mae gan y Brifysgol berthynas waith agos â Dr MZ, gan ddarparu cyfleoedd lleoliad i fyfyrwyr ennill profiad, gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr mewn gwaith ieuenctid.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon