Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth
Troi cysyniadau dylunio yn realiti. Mae ein rhaglenni Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn cynnig profiad galwedigaethol i chi ar draws meysydd sy’n amrywio o Syrfewyr Adeiladu a Meintiau i Reoli Adeiladu, a Phensaernïaeth.
Mae nifer o’n rhaglenni wedi’u hachredu gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain a’r Comisiwn dros Bensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig*, ac mae ein rhaglenni Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu ystod eang o sgiliau wrth ddatblygu’r wybodaeth ddyfnach y mae cyflogwyr yn y diwydiant yn ei dymuno.
Mae ein rhaglenni Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn ymdrin â sgiliau dylunio craidd wedi’u cyfuno â gwybodaeth am ddeunydd a gwybodaeth strwythurol a chânt eu datblygu gyda hyfforddiant ymarferol gan roi ymagwedd gyfannol i’n graddedigion a dealltwriaeth o’r byd deinamig rydym yn gweithredu ynddo.
Rydym yn annog cymryd rhan mewn prosiectau byw i sicrhau eich bod yn rhoi theori ar waith mewn sefyllfaoedd byd go iawn a hynny drwy brosiectau cydweithredol. Cewch brofiad go iawn wrth i chi gydweithio â rhaglenni ar draws y sefydliad er mwyn treiddio’n ddyfnach i bob maes sy’n ymwneud â Pheirianneg Sifil a Phensaernïaeth gan gynnwys yr effeithiau amgylcheddol.
Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i roi sylfaen gref i chi yn hanfodion Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth a’r sgiliau technegol sydd eu hangen i ddod â’r gweledigaethau hynny’n fyw.
*Gweler tudalennau’r rhaglenni am fanylion ac eithriadau.
Pam astudio Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth yn PCYDDS?
Spotlights
Cyfleusterau
Mae mannau stiwdio penodedig ar gael yn ein Hardal Arloesi bwrpasol yng nghanol cymuned llawn addewid SA1 Abertawe. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad i weithfannau pwrpasol â chyfrifiaduron personol o fewn y stiwdio gyda phecynnau meddalwedd fel AutoCAD, Revit, Sketchup a’r casgliad llawn o raglenni Adobe CCS gyda phlotyddion A1 cysylltiedig.
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.