Prentisiaeth mewn Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) (BSc Anrh)
Systemau cronfa ddata sydd wrth wraidd systemau gwybodaeth modern.
Bydd graddedigion y rhaglen hon yn defnyddio eu harbenigedd i ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw datrysiadau arloesol seiliedig ar gyfrifiaduron i gefnogi isadeiledd technolegol sefydliadau cyfoes.
Mae’r cwrs yn ffocysu ar ddylunio, gweithredu, profi a chynnal a chadw systemau gwybodaeth o ansawdd uchel a chymwysiadau a yrrir gan ddata.
Byddwch yn ffocysu ar gaffael a defnyddio’r arbenigedd sydd ei angen ar ddatblygwr a rhaglennydd systemau gwybodaeth i greu atebion i broblemau mawr a chymhleth. Mae’r arbenigedd a sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy ddatrysiadau peirianneg feddalwedd yn rhan o dîm yn ddymunol iawn gan gyflogwyr.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd graddedigion y rhaglen hon yn dysgu i ddylunio, creu a gweinyddu cronfeydd data a datblygu rhaglenni i ddatblygu cymwysiadau a yrrir gan ddata. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod eang o bynciau sy’n gyffredin i nifer o gyrsiau yn y Portffolio Cyfrifiadura. Mae’r rhain yn darparu’r seilwaith sydd ei angen ar gyfer blynyddoedd diweddarach a chaniatáu hyblygrwydd i drosglwyddo dros lwybrau ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modylau sy’n darparu rhagor o fanylion ar gyfer eich dewis raglen. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr sy’n rhoi ffocws ar gyfer eich astudiaethau.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.