Mae’r rhaglen hon yn cynnig y sgiliau ymarferol a’r sgiliau academaidd sy’n allweddol i ddatblygu a myfyrio ar sgiliau a chymwyseddau rheoli marchnata a fydd yn ddefnyddiol ar draws ystod eang o sefyllfaoedd, sectorau a sefydliadau. Bydd marchnata digidol a marchnata rhyngwladol yn cael sylw manwl yma, a bydd graddedigion mewn sefyllfa wych i fanteisio ar y galw am weithwyr proffesiynol sy’n arbenigo yn y meysydd hyn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio mewn ymateb i’r galw yn y farchnad am raddedigion sydd â sgiliau trosglwyddadwy ac sydd â’r gallu i gwrdd â her newidiadau o fewn ecosystemau busnes, patrymau gweithio, datblygiadau mawr mewn technoleg gwybodaeth, a data mawr. Bydd rhan gyntaf y cwrs yn eich paratoi gyda gwybodaeth eang am feysydd gan gynnwys cyllid, adnoddau dynol a rheolaeth strategol, ac yna byddwch yn symud ymlaen i astudio modiwlau arbenigol a fydd yn eich cyflwyno i ystod o dechnolegau a chysyniadau newydd.
Byddwch yn astudio theori, ond bydd llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i hennill o’ch profiad ymarferol hefyd. Daw’n myfyrwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd: gall yr MBA hwn addasu ar gyfer ei anghenion a’ch diddordebau chi, p’un ai yw eich profiad rheoli mewn cwmni mawr neu o weithio mewn busnes bach.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, mae croeso i fyfyrwyr barhau i astudio gyda ni trwy ymuno â’r rhaglen Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes.
*Sylwch, yn ddibynnol ar faint y garfan, gallai’r Brifysgol ofyn i chi ddewis llwybr arall.
Compulsory
- Traethawd Hir, NEU Astudiaeth Achos Integredig, NEU Gynnig Datblygiad Busnes (60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
tysteb
Llety
Llety Birmingham
Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.
Ymgeiswyr Cartref:
Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.
Ymgeiswyr rhyngwladol:
Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.
Fel arfer, bydd angen sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 neu uwch (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall), heb unrhyw sgôr is na 5.5 mewn unrhyw gydran o’r prawf.
-
Mae modiwlau’n cael eu hasesu drwy waith cwrs. Mae sawl gwahanol fath o waith cwrs, gan gynnwys prosiectau seiliedig ar waith, prosiectau ymchwil bach, cyflwyniadau, dadansoddiadau o astudiaethau achos a’r prosiect ymchwil / traethawd hir terfynol. Efallai y bydd myfyrwyr sydd ddim mewn cyflogaeth ar hyn o bryd yn gallu seilio eu prosiectau ar astudiaethau achos.
-
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r MBA hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr a allai fod yn awyddus i weithio mewn swyddi fel rheolwr marchnata, rheolwr brand, dadansoddwr ymchwil i’r farchnad, neu reolwr cynnyrch newydd yn y DU neu dramor.
Gallai’r rhai sydd â sgiliau ariannol cryf fynd am yrfa ym meysydd cynllunio strategol neu gynllunio marchnadoedd, ac mae cyfleoedd hefyd i weithio fel rheolwyr gwerthu, rheolwyr hysbysebu, cyfarwyddwyr cysylltiadau cyhoeddus, a rheolwyr cyfathrebiadau marchnata.
Yn aml, bydd gan asiantaethau marchnata a hysbysebu gyfleoedd i ddeiliaid MBA Marchnata ym meysydd hysbysebu, marchnata uniongyrchol, a chyfathrebu, ac mae cwmnïau ymgynghori hefyd yn eu cyflogi fel datblygwyr marchnadoedd newydd, strategwyr ac fel arbenigwyr segmentu cwsmeriaid.