Skip page header and navigation

Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Bydd y cwrs hwn yn apelio at unigolion sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am weithrediadau darbodus ac ystwyth.  

Wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd â gradd gyntaf mewn peirianneg, gweithgynhyrchu, logisteg a rheoli’r gadwyn gyflenwi, mae hefyd yn helpu rheolwyr profiadol i ategu eu gwybodaeth.

Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar reoli gweithrediadau, yn y sectorau diwydiannol a’r sector gwasanaethu. Mae’r rhaglen meistr yn canolbwyntio’n gryf ar gymhwyso syniadau a gwelliant parhaus, gydag asesiadau’n seiliedig ar faterion go iawn. Bydd myfyrwyr hefyd yn caffael y wybodaeth a ddisgwylir gan arbenigwr â thystysgrif ‘Six Sigma Black Belt’.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Y rhaglen wedi’i datblygu mewn partneriaeth â’r diwydiant.
02
Cyfle i astudio ar ein campws tra modern gwerth £350m yng Nglannau Abertawe (SA1).
03
Mae gan yr adran beirianneg dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu’r cyrsiau hyn yn llawn amser ac yn rhan amser.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Adlewyrcha’r MSc Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth y galw cyfredol yn y diwydiant am arbenigedd mewn technegau gweithgynhyrchu darbodus ac ystwyth.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys gweithgareddau sy’n chwarae rhan allweddol mewn rheoli’r fenter estynedig. Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ddylunio cynhyrchion a phrosesau ar gyfer gweithgynhyrchu, gan reoli’r risg adeg y cam dylunio o ddatblygu cynhyrchion a chynllunio prosesau.  

Cwmpasa’r ddisgyblaeth feysydd megis rheoli’r gadwyn gyflenwi a logisteg, sydd yn allweddol i gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang a darparu gwasanaeth o safon fyd-eang. Nod y rhaglen yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am weithdrefnau allweddol mewn masnach ryngwladol a sut y gall sefydliadau leihau eu heffaith amgylcheddol trwy gydol y gadwyn gyflenwi a gweithrediadau gweithgynhyrchu.  Mae meysydd allweddol ansawdd a phrynu yn rhan ganolog o’r cwrs, a bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau yn gysylltiedig ag amrywiaeth o offer a thechnegau y gellir eu defnyddio i wella perfformiad a mantais gystadleuol.

Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu

(20 credydau)

Arweinyddiaeth Rheoli Peirianneg

(20 credydau)

Systemau Darbodus ac Ystwyth

(20 credydau)

Rheoli Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi

(20 credydau)

Rheoli Ansawdd mewn Amgylchedd Gweithredol

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd dosbarth 2:2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Sgôr GPA o 2.5 neu uwch.

    Golyga natur y rhaglen y rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Cymwysterau cyfwerth

    Ystyrir cymwysterau cyfwerth ar gyfer derbyn ymgeiswyr ar y rhaglen.  Er enghraifft, byddai’r brifysgol yn ystyried ymgeisydd â HND da, ynghyd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol. Byddai angen tystiolaeth i gefnogi’r cais.

    Sgiliau eraill a ystyrir

    Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd, byddwn hefyd yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd.

    Ceisir tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol, i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.

  • Mae’r asesu ar y rhaglen meistr yn cynnwys cymysgedd o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau.  Gallai asesiad nodweddiadol ofyn i chi ymchwilio i broblem a gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella gan ddefnyddio offer a thechnegau a ddysgwyd gennych mewn modwl penodol neu ar draws y rhaglen.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs hwn heb fynd i gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl gorfod talu am gostau sy’n codi o gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn rhoi i raddedigion amrywiaeth eang o sgiliau a chymwyseddau proffesiynol sy’n drosglwyddadwy o fewn sectorau busnes ac o sector i sector. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i fagu hyder trwy’r rhaglen astudio.

    Ymhlith y cyfleoedd gyrfa nodweddiadol mae rheolwr shifft, goruchwyliwr cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, rheolwr cynllunio ac amserlennu, rheolwr / cyfarwyddwr gweithrediadau.  

    Mae pob un o’n graddedigion sydd wedi astudio’n rhan amser wedi cael dyrchafiad tra roeddent yn astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac maent wedi priodoli hynny i’w cymhwyster.

    Mae graddedigion iau wedi elwa o well rhagolygon cyflogaeth ac wedi canfod eu bod yn gallu cael gwaith fel peiriannydd llinell, peiriannydd ansawdd ac arbenigwr y gadwyn gyflenwi.  

    Mae nifer o gwmnïau mawr bellach wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn ofyniad allweddol er mwyn cael dyrchafiad neu ddal swydd benodol.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau