Skip page header and navigation

Alison Evans BA gyda SAC, MA, FHEA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cyfarwyddwr yr MA Cenedlaethol mewn Addysg – MA Addysg (Cymru)

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: alison.evans2@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Uwch Ddarlithydd
  • Arweinydd Modwl (Archwilio Addysgeg) – MA Cenedlaethol (Ed)
  • Arweinydd Modwl (Ymchwil) - ECAD 4010, BA(Ed) Blwyddyn 1
  • Arweinydd Modwl (Cyflwyniad i Ymchwil) – EdD, Blwyddyn 1
  • Addysgu ar gyrsiau TAR (Cynradd ac Uwchradd)
  • Arbenigwr busnes ar gyfer TAR Uwchradd
  • Asesu aseiniadau yn cynnwys lefelau 4–7
  • Goruchwylio traethodau hir MA(Ed)

Cefndir

Yn ystod 20 mlynedd o yrfa yn athro Ysgol Uwchradd, ymgymerodd Alison â sawl rôl, megis Pennaeth Adran (Astudiaethau Busnes), Cydlynydd Pontio CA2/CA3 ac Athro-lywodraethwr.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd Alison hefyd yn mwynhau rôl weithgar fel mentor i fyfyrwyr TAR ac fel marciwr allanol ar gyfer arholiadau a gwaith cwrs TGAU a Lefel Uwch. 

Cafodd ei phenodi’n Uwch Ddarlithydd mewn AGA yn 2014, yn arwain y cwrs TAR Astudiaethau Busnes. Ers hynny, mae Alison wedi mwynhau bod yn arweinydd modwl ar gyfer amryw fodylau TAR ac ar hyn o bryd, mae’n arwain modwl Ymchwil ar gyfer myfyrwyr BA Cynradd. Yn ogystal, arweiniodd Alison y tîm Derbyn ar gyfer cyrsiau TAR am bum mlynedd cyn derbyn swydd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Cwricwlwm ac Addysgeg yn yr Athrofa. Roedd y rôl hon yn rhychwantu cyfnod o newidiadau addysgegol arwyddocaol yn ystod Covid-19, a hwylusodd Alison nifer o fentrau i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiadau gorau posibl.

Mae Alison ar hyn o bryd yn arwain y rhaglen ‘Hyfforddi Cymheiriaid’ a lansiwyd ganddi yn 2020. Wedi’i chynllunio i gefnogi a grymuso tiwtoriaid trwy ddulliau cydweithredol o gynllunio darlithoedd a dylunio adnoddau, mae’r rhaglen bellach yn rhan ganolog o ddysgu proffesiynol mewn AGA ac mae’n gweithredu o fewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol. Mae Alison hefyd wedi ymgymryd â dyletswyddau Arholwr Allanol o fewn AGA ac mewn prifysgol yn Lloegr ac wedi derbyn penodiad arall ym Mhrifysgol Dundee yn ddiweddar.

Ym mis Medi 2023, roedd Alison yn falch o dderbyn rôl Cyfarwyddwr yr MA Cenedlaethol mewn Addysg yn y Drindod Dewi Sant ac mae’n edrych ymlaen at yr her. Roedd hi hefyd yn rhan o ddatblygu agweddau ar yr MA newydd yn y cyfnod ysgrifennu. Yn olaf, cyflwynodd Alison ei thraethawd ymchwil Doethurol yn ddiweddar fel rhan o’r cwrs EdD.

Aelod O

  • EBEA
  • HEA

Diddordebau Academaidd

  • Addysgu/arwain ar amrywiaeth o fodylau Ymchwil (Lefelau 4 a 7)
  • Goruchwylio traethodau hir (MA Ed)
  • Addysg fusnes
  • Addysgeg

Meysydd Ymchwil

Roedd fy nhraethawd ymchwil Doethurol yn ceisio deall profiadau a chanfyddiadau cyfranogwyr llencynnaidd o ran y cyfleoedd a’r rhwystrau a wynebir wrth ddatblygu sgiliau penodol gwydnwch a datrys problemau o fewn lleoliadau teuluol, ysgol a chymunedol gan ddefnyddio fframwaith ymchwil cyfranogol.