Llun a Chyflwyniad
Uwch Ddarlithydd
Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)
Ffôn: 01792 482077
E-bost: j.pugh@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Mae Jonathan yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned (BA).
Cefndir
Mae Jonathan wedi bod yn unigolyn pwysig ym maes y celfyddydau perfformio yn Y Drindod Dewi Sant ers sawl blwyddyn – mae ganddo radd gyntaf mewn Theatr, Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth a hoffter o ddulliau dysgu dilys, ac mae’n rhoi dehongliad naratif ar waith, wedi’i ysgogi gan ei MA mewn Astudiaethau Clasurol.
Mae Jonathan wedi cynnwys fformatau digidol a chyfryngau cyfoes mewn cynyrchiadau theatr ymarferol traddodiadol a chyfoes erioed er mwyn creu paradeimau perfformio arloesol. Yn ystod ei amser yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglenni diwydiannau creadigol yn Y Drindod Dewi Sant, mae wedi goruchwylio rhaglenni mewn Perfformio Cyfoes, Theatr Dechnegol, Drama Gymhwysol (Abertawe), Perfformio, Cyfryngau Creadigol, Cerddoriaeth, a Drama Gymhwysol (Caerfyrddin).
Cyn ymuno â’r Drindod Dewi Sant, roedd Jonathan wedi gweithio ag ymarferwyr a chwmnïau allweddol yn y byd celfyddydol Cymreig, gan gynnwys Eddie Ladd, Cliff McLucas, Sera Moore Williams (Cwmni’r Gymraes), Sian Summers (Cwmni Rhiniog) a Spectacle Theatre, ac wedi cefnogi prosiectau myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Jonathan yn parhau i hyfforddi ag ymarferwyr theatr gorfforol a dawns i gyfuno ymarfer ag archwiliad personol. Mae’r arfer ymchwil hwn yn hwyluso sgwrs rhwng hunaniaeth a lleoliad, corff a gofod, ac yn ysgogi ymatebion creadigol i ddoethineb cyffredin ar ein tirwedd gyfoes.
Aelod O
- Cymrawd LEAP 2023-2024
- AU Ymlaen (Uwch Gymrawd)
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Aelod)
- Theatr Genedlaethol Cymru (Cyn-Aelod Bwrdd)
Diddordebau Academaidd
- Perfformiadau sy’n benodol i safle ac sy’n ymateb i safle;
- Ymarfer yn ymchwil, cyd-destun, a’r weithred greadigol – ble mae hyn yn dechrau?
- Theatr fynegiadol gyda diddordeb arbennig yn Buchner, a theatr Brecht;
- Hyfforddiant theatr gorfforol gyfoes (yn deillio o Lecoq, Grotowski), Butoh;
- Mytholeg a natur: Mytholeg Groeg yr Henfyd a chreu mytholeg fodern;
- Perfformio’r hunan: hunaniaeth ar-lein a pherfformio er mwyn cofio mewn amgylchedd cynyddol ddigidol;
- Addysg gorfforol awyr agored ac ymarfer mewn natur ar gyfer gwydnwch ac iechyd meddwl cadarn.
Meysydd Ymchwil
- Perfformio hunaniaeth ymysg Cymry alltud
- ‘Y straeon rydyn ni’n dweud wrthym ni ein hunain’
- Seicoddaearyddiaeth
- Llythrennedd corfforol
- Llythrennedd digidol
Arbenigedd
- Dyfeisio, perfformiadau sy’n ymateb i safle, gwaith perfformio aml-lwyfan
- Cynllunio’r cwricwlwm, cydweithio rhyngddisgyblaethol, dylunio asesiadau annhraddodiadol
- Golygu, recordio sain a fideo, rheoli perfformiadau byw
- Perfformiadau cyfranogol
- Sicrhau ansawdd a gweithredu swyddogaethol
Gwybodaeth bellach
Gwaith diweddar / blaenorol a hyfforddiant gyda:
- Kathryn Campbell Dodd
- Jess Lerner
- Marc Rees + Osian Meilir
- Simon Whitehead
- Henry McGrath
- Phillip Zarrilli (perfformio seicogorfforol)
- Cwmni theatr Pants on Fire (Lecoq: Gareth Taylor + Peter Bramley)
- Cai Tomos
- Eeva-Maria Mutka
Hefyd wedi hyfforddi gyda/mynychu gweithdai gyda:
- Told by an Idiot
- Andy Paget
- Bronwen Preece
- Tetsuro Fukuhara
- Jo Fong
- Ailsa Richardson
- YANC
- Mantel of the Expert Network; Abertawe