Skip page header and navigation

Wneud y gorau o’ch profiad o fod yn fyfyriwr

Helo, Undeb Myfyrwyr PCyDDS ydyn ni, Ni yw’r bobl sydd yma i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch profiad o fod yn fyfyriwr, waeth beth neu ble rydych chi’n astudio yn PCyDDS.

Rydym yn annibynnol o’r brifysgol ac yn elusen dan arweiniad myfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Fel myfyriwr, rydych chi’n un o’n haelodau - mae aelodaeth o’r undeb am ddim, ac mae’n awtomatig.

Bywyd Myfyrwyr a’r Gymuned

Tri aelod o staff Undeb y Myfyrwyr

Llias Myfyrwyr

Ein nod yw sicrhau bod meddyliau a syniadau myfyrwyr yn cael eu clywed gan y Brifysgol. Mae gennym rwydwaith o gynrychiolwyr myfyrwyr i’n helpu i wneud hyn - wnewch chi’n cymryd rhan?

Myfyrwyr yn chwarae rygbi

Cyfleoedd Myfyrwyr

Rydyn ni eisiau gwneud pob campws yn hwyl ac yn ddeniadol. Mae eich amser yn y brifysgol yn fwy na darlithoedd yn unig - gyda ni, gallwch redeg eich clybiau chwaraeon a chymdeithasau eich hun, cymryd rhan mewn digwyddiadau, a datblygu eich sgiliau.

Myfyrwyr yn edrych i fyny

Gwasanaeth Cynghori

Mae ein Gwasanaeth Cynghori am ddim; mae’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Rydym am eich grymuso i wneud y penderfyniadau sy’n iawn i chi. Byddwn hefyd yn helpu gyda phrosesau’r brifysgol 
a’ch atgyfeirio.

Grŵp o fyfyrwyr yn gwenu ac yn gwisgo sbectolau lliwgar

Digwyddiadau a Bariau

Rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod yr Wythnosau Croeso swyddogol. Mae gennym ni leoliadau ar gampysau Caerfyrddin a Llambed hefyd.   Perffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n byw ar y campws neu er mwyn ymlacio ar ôl darlithoedd.