Rheolaeth Chwaraeon Moduro with Year in Industry(Llawn amser) (BSc Anrh)
Ydych chi’n angerddol am fyd deinamig chwaraeon moduro - nid dim ond ar y trac, ond tu ôl i’r llen hefyd? Os ydych chi’n ffynnu mewn amgylcheddau sy’n symud yn gyflym ac mae gennych awydd i siapio dyfodol chwaraeon trwy strategaeth ac arweinyddiaeth ddoeth, gall ein BSc Rheolaeth Chwaraeon Moduro eich gweddu i’r dim.
Mae’r rhaglen hon yn eich gwahodd i archwilio calon chwaraeon moduro – o ddiwylliant tîm a llywodraethu byd-eang i’r grymoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy’n siapio’r chwaraeon. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae sefydliadau chwaraeon moduro yn gweithredu, a sut mae arweinyddiaeth – wrth ei arfer yn gyfrifol – yn gallu bod yn effeithiol ac yn gynhwysol.
P’un a oes gennych uchelgais i sbarduno newid o fewn timau chwaraeon moduro, llunio strategaethau ar gyfer digwyddiadau cynaliadwy, neu gerfio lle i’ch hun ym maes rheoli ar draws sectorau, mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd ar draws y diwydiant chwaraeon moduro.
Yn fyfyriwr Rheolaeth Chwaraeon Moduro yn PCYDDS, cewch y cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda’n timau rasio mewnol, gan ennill profiad ymarferol wrth ochr y trac o reolaeth tîm.
Course details
- Saesneg
Undergraduate Fees
Home (Full-time): £9,535 per year
Overseas (Full-time): £15,525 per year
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Trwy gydol y radd, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn busnes, rheolaeth a thechnoleg, gan gymhwyso’r rhain yn uniongyrchol i’r diwydiant chwaraeon moduro. Bydd pob blwyddyn yn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a hyder, gan eich paratoi ar gyfer arfer proffesiynol ac astudio ymhellach.
Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a dadansoddi data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.
Gorfodol
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel a’u gofynion reidio a thrin. Byddwch yn astudio dynameg cerbydau, perfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, ac aerodynameg. Defnyddir offer efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) i ymchwilio a gwella dylunio cerbydau.
Gorfodol
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i feysydd arbenigol fel dylunio trenau pŵer, a rheolaeth drydanol. Byddwch yn gweithio ar brosiectau annibynnol a grŵp, gan gymhwyso’ch gwybodaeth i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn ym myd Chwaraeon Moduro. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Gorfodol
Course Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit us at an Open Day or Open Evening
Find out more about your course, meet current students, the teaching team, and explore our campus and industry-grade facilities.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
80-96 o bwyntiau tariff UCAS
-
e.g.Safon Uwch: A/B, BTEC: DDM, IB: 30
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
Uwch Dystysgrif Genedlaethol (HNC). Mae hwn yn gwrs un flwyddyn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor amser llawn tair blynedd.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau HNC yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen am y ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Mae gan y cwrs ystod o strategaethau asesu o arholiadau traddodiadol, adroddiadau technegol, cyflwyniadau a thraethodau
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae graddedigion y radd hon mewn sefyllfa dda i adeiladu gyrfaoedd mewn meysydd fel llywodraethu, rheolaeth pencampwriaethau a digwyddiadau, marchnata a strategaeth chwaraeon moduro.