Bywyd Campws Caerdydd
Y Drindod Dewi Sant Yng Nghanol Caerdydd
Astudia ar draws cyrsiau Creadigol, Busnes a Rheolaeth ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wedi’i leoli yn Nhŷ Haywood, mae PCYDDS Caerdydd yn cynnig rhaglenni creadigol o Berfformio Lleisiol i Theatr Gerddorol yn ogystal ag amrywiaeth o gyrsiau Busnes a Rheolaeth gan gynnwys Sgiliau Busnes ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol. Mae’n bosibl hefyd astudio ein cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig.
Mae astudio ym mhrifddinas Cymru yn golygu y byddi di wedi dy amgylchynu gan gyfleoedd. Gyda chysylltiadau cryf â chwmnïau blaenllaw, cyfleusterau diwydiant, a’r byd celfyddydol, byddi di’n cael profiad gwerthfawr yn y byd go iawn ochr yn ochr â dy astudiaethau. P’un a wyt ti’n cydweithio ar brosiectau byw neu’n ymgolli dy hun ym mywyd myfyrwyr, mae ein campws bywiog yng nghanol y ddinas yn darparu’r amgylchedd perffaith i ddysgu, cysylltu a thyfu.
Archwiliwch ein Campws Caerdydd
Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA)
Amgylchedd unigryw sy’n cynnig rhaglenni arbenigol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant ac sy’n datblygu techneg ddiogel ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.
Gan adeiladu ar lwyddiant Academi Llais Ryngwladol Cymru a Chanolfan Berfformio Cymru, mae WAVDA yn ganolfan greadigrwydd, gan ddatblygu actorion, cantorion a chyfarwyddwyr y dyfodol.
Gyda chysylltiadau â Theatr Genedlaethol Cymru, S4C, Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru, BBC Cymru, Opera Canolbarth Cymru a mwy, byddi di hefyd yn dysgu gan arbenigwyr diwydiant o fri a fydd yn mireinio dy dalent ac yn dy baratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.
Ymgollwch ym mwrlwm ac egni prifddinas Cymru.
Ewch am dro ar hyd y glannau sydd newydd gael eu hadfywio, ewch i glybio yn hen warysau diwydiannol Caerdydd, a mwynhewch y diwylliant mewn amgueddfeydd, orielau a theatrau o fri rhyngwladol.
Hefyd, mae castell canoloesol, stadiwm rhyngwladol gyda 76,000 o seddi a’r holl siopau, bwytai a chaffis y gallech fod eu heisiau mewn dinas.
Ac os ydych chi am archwilio canolbwyntiau trefol eraill, rydych chi lai nag awr i ffwrdd o Abertawe a Bryste, a llai na dwy awr o Lundain a Birmingham.
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Teithio i Gaerdydd
Dinas llawn cyfleoedd a photensial di-ben-draw yw Gaerdydd, cartref i’n campws Caerdydd Tŷ Haywood.