Skip page header and navigation
Date(s)
-

Dyddiadau Graddio

Students throwing their caps at their graduation

Dydd Iau, 27ain Mehefin 2024

Bydd gwahoddiadau personol yn cael eu e-bostio at raddedigion cymwys yn ystod gwyliau’r Pasg.

Gwybodaeth Graddio

Os dymunwch fynychu Seremoni Raddio, y mae gofyn ichi wisgo’r wisg academaidd lawn sy’n briodol i’r dyfarniad y’ch derbynnir iddo. Eich cyfrifoldeb chi yw archebu hon eich hun ar Ede & Ravenscroft.

Dylech archebu o leiaf 21 diwrnod cyn y seremoni gan na fydd Ede and Ravenscroft yn gwarantu’r archeb os daw i law yn hwyrach na hynny.  Peidiwch ag aros am ganlyniadau’r asesu terfynol.  Mae ad-daliadau ar gael os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ond rhaid rhoi gwybod i Ede & Ravenscroft o fewn 7 diwrnod cyn y seremoni. Gellir dod o hyd i’w polisi canslo ar eu gwefan. Fe fydd Ede & Ravenscroft yn cydnabod eich archeb pan fydd wedi ei phrosesu ond mae’n bosib na fyddwch yn ei dderbyn tan 10 diwrnod cyn eich seremoni.

Rhowch UWTSD pan ofynnir ichi nodi enw eich sefydliad. Fe fydd angen i chi wybod cylchedd eich pen a mesuriadau eich brest a’ch taldra.

Bydd eich gwisg yn barod i chi i’w chasglu o’r lleoliad ar Ddiwrnod Graddio. Dychwelwch eich gwisg yma wedi eich seremoni.

Caniateir dau docyn gwestai i bob myfyriwr ond gallwch ofyn am docynnau ychwanegol os ydych yn dymuno. Unwaith y bydd nifer y myfyrwyr sy’n graddio wedi ei gadarnhau fe benderfynir a oes modd dyrannu tocynnau ychwanegol. Ni wneir y penderfyniad hwn tan wythnos cyn y seremonïau felly peidiwch â ffonio campws Birmingham os gwelwch yn dda i ofyn am argaeledd tocynnau ychwanegol. Bydd y tocynnau ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni ond cewch e-bost o flaen llaw yn cadarnhau faint o docynnau y byddwch yn eu derbyn. Nid yw’r seremonïau yn addas ar gyfer plant o dan 16 oed oherwydd natur ffurfiol y gweithrediadau.

Rydym yn cydnabod y gall cyfyngu ar docynnau i westeion fel hyn beri rhywfaint o siom, ond fe fyddwch yn gwerthfawrogi bod nifer y seddau yn y prif leoliad yn gyfyngedig.

Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd / ofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, rhowch fanylion yn adran berthnasol ar y dudalen Cofrestru ar gyfer Graddio ar MyTSD.

Dylid gwneud archebion am ffotograffau ffurfiol o flaen llaw yn uniongyrchol trwy Ede & Ravenscroft.  

Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu y gallant wylio’r seremoniau’n fyw! Bydd y seremoniau yn cael eu ffrydio’n fyw ar sianel YouTube y Brifysgol.  

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

  • Bydd y seremonï a gynhelir ar 27ain Mehefin yn cael eu cynnal yn yr Eastside Rooms, Stryd Woodcock, Birmingham B7 4BL. 

  • Cysylltwch â birminghamgraduation@uwtsd.ac.uk ar unwaith. Bydd y tîm yn gwirio eich cofnod ac yn ail-anfon eich gwahoddiad os yn briodol. 

  • Mewn gofnodwch i MyTSD a rhowch eich rhif myfyriwr a’ch cyfrinair. Ewch i ‘Student Graduation’ar y sgrin cartref a dilynwch y cyfarwyddiadau.

  • Does dim lle parcio yn y lleoliad, fodd bynnag mae Millennium Point multi-storey car parkyn daith fer o ryw 5 munud i ffwrdd. 

  • Oes, mae modd cyrraedd Eastside Rooms ar fws, trên a thram.

    Mae Eastside Rooms yn daith gerdded fer o orsafoedd Birmingham New Street, Birmingham Moor Street, a Birmingham Snowhill. Gwiriwch eich taith ymlaen llaw. 

    Mae bysiau 66 a 14 o a thuag at ganol y ddinas yn aros gerllaw Eastside Rooms.

    Mae Eastside Rooms yn daith gerdded fer o’r rhan fwyaf o arosfannau bysiau canolog. Gwiriwch eich taith ymlaen llaw.  

    Mae Eastside Rooms yn daith gerdded fer o rhan fwyaf o arosfannau tram canolog. Gwiriwch eich taith ymlaen llaw.  

  • Yn nes at ddyddiad graddio, byddwch yn cael amser penodedig i gyrraedd. Mae’n bwysig eich bod yn cyrraedd eich slot dynodedig fel y gallwn reoli torfeydd. 

    Bydd angen i chi fod yn eistedd 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau ac yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn eistedd yn eich sedd a neilltuwyd ac yn cael eich briffio gan y Prif Farsial. 

    Parcio aml-lawr Millennium Point Maes | Cyngor Dinas Birmingham

    Manylion maes parcio, costau ac oriau agor

  • Os oes gennych chi neu unrhyw un o’ch gwesteion anabledd / gofynion mynediad penodol mae angen i ni wybod amdanynt neu nam ar y clyw, rhowch fanylion yn yr adran berthnasol ar MyTSD a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.  

    Rhowch wybod i’r staff fel y gellir darparu cymorth. 

  • Byddwch yn gallu casglu tocynnau eich gwestai o’r ddesg Gofrestru pan fyddwch yn cyrraedd yr yr Eastside Rooms. Ni neilltuir seddi penodol i westeion a gall gwesteion eistedd unrhyw le yn y lleoliad ac eithrio’r seddi sydd wedi’u cadw ar gyfer Darpar Raddedigion, gwesteion yr Is-Ganghellor neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd y seddi cadw wedi’u marcio’n glir. Ceir mynediad i’r lleoliad trwy docyn yn unig a rhaid rhoi’r tocynnau i’r Stiwardiaid wrth y drysau. Bydd y drysau’n agor i westeion ryw hanner awr cyn dechrau’r seremoni.

  • Anfonir e-bost cyn bo hir i gadarnhau sawl tocyn a neilltuwyd ichi ar gyfer eich seremoni. Yn y cyfamser, peidiwch â chysylltu â champws Birmingham yn holi am argaeledd tocynnau gwesteion. Bydd y tocynnau gwesteion i gyd ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni o’r Ddesg Gofrestru.   

  • Rhaid i Ddarpar Raddedigion wisgo gwisg academaidd ar gyfer cael eu cyflwyno yn y seremoni. Rhaid hefyd wisgo’n eithaf ffurfiol. Mae angen i’r cwfl (hood) gael ei ddal yn ddiogel yn ei le wrth siaced, crys neu flows.

  • Ar ddechrau’r seremoni, bydd y graddedigion a’r gwesteion yn sefyll wrth i’r staff academaidd ymdeithio i mewn i’r awditoriwm. Yn dilyn gair o groeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.

    Wedi darlleniad o’r Proclamasiwn, cyflwynir y graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu’r sawl a enwebwyd ganddi). Cewch eich annog gan dywyswyr i godi o’ch sedd ac aros mewn rhes yn barod i gael eich cyflwyno ar yr amser priodol. 

    Bydd eich enw yn cael ei ddarllen ac ar y pwynt hwnnw byddwch chi’n esgyn i’r llwyfan, yn cerdded at yr Is-Ganghellor ac yn codi eich cap. Wedyn byddwch yn gadael y llwyfan a bydd aelod o staff yn eich tywys yn ôl i’ch sedd.

    Wedyn bydd yr Is-Ganghellor yn gofyn i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn yr un dyfarniad i sefyll a bydd yn eich cyflwyno’n ffurfiol i’ch dyfarniad. Dylech godi eich cap mewn ymateb a pharhau i sefyll er mwyn derbyn Cyfarchion y Brifysgol.

  • Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig.

  • Bydd pob seremoni yn para tua 90 munud. Heblaw pan fyddwch yn cael eich cyflwyno, mae’n ofynnol i chi aros yn eich sedd gydol y seremoni.

  • Bydd y seremonïau yn cael eu ffrydio fan hyn.

  • Mae’n RHAID i chi sicrhau eich bod chi wedi talu unrhyw ddyledion academaidd i’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid ar unwaith i drafod eich opsiynau. 

    Os oes gennych unrhyw ddyledion academaidd heb eu talu ac os nad ydych wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i’w clirio, gallech chi gael eich eithrio o’r seremonïau graddio.

  • Wrth raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn dod yn aelod o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn awtomatig. 

    Yn aelod o’r Gymdeithas hon, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am newyddion a datblygiadau yn y Brifysgol – mae’n ffordd wych i ni gadw mewn cysylltiad â’n gilydd!

  • Mae tystysgrifau yn cael eu postio tua 8 wythnos wedi i’ch dyfarniad gael ei gadarnhau gan y Bwrdd Dyfarnu. 

    Ni fydd tystysgrifau yn cael eu rhyddhau i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud trefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i dalu eu dyledion. 

    Os bydd gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’ch tystysgrif, cysylltwch â cofrestrfa@ydds.ac.uk

Lleoliad

Eastside Rooms
Stryd Woodcock
Birmingham
B7 4BL
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn

Tagiau