Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio wedi’i chynllunio i feithrin dealltwriaeth ddofn ohonoch chi eich hun, eich safle a’ch canfyddiad o fyd Celf a Dylunio yn ei holl ffurfiau a’i gynrychiolaethau.
I wneud hyn, byddwch angen rhywfaint o brofiad sylfaenol o weithio yn y diwydiant — rydym yn meddwl bod rhwng 2 a 5 mlynedd o weithio yn fan cychwyn da.
Bydd y cyfnod hwn yn sylfaen i’ch myfyrio. Byddwn yn gofyn i chi fyfyrio ar feysydd o’ch bywyd hyd yn hyn, gan ofyn cwestiynau fel ‘sut ydych chi’n dysgu?’ a ‘beth sy’n cyfrif fel gwybodaeth yn eich barn chi?’
Rydym hefyd yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol fethodolegau ymchwil ansoddol er mwyn canfod beth sy’n gweithio orau i chi.
Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol hon wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddefnyddio popeth rydych wedi’i ddysgu yn eich bywyd. Mae’n eich helpu i fyfyrio ar brofiadau’r gorffennol, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Rydym yn edrych ar ddylunio o safbwynt byd-eang, felly rydym yn croesawu meysydd dylunio o Tsieina a De-ddwyrain Asia, India a De America fel testun myfyrio ac ymchwil.
Rydym yn angerddol dros ail-ddychmygu sut mae cyfathrebu, y cyfryngau, celf a dylunio yn gweithio o fewn eich ymarfer proffesiynol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn ystod y rhan o’r rhaglen sy’n cael ei addysgu (Rhan 1, Blwyddyn 1), mae’r myfyriwr yn astudio chwe modiwl.
Mae pob modiwl yn werth 30 credyd (cyfanswm o 180 credyd) ac yn cael eu hasesu drwy aseiniadau gwaith cwrs.
Mae Rhan 2 o’r rhaglen (sydd werth 360 credyd) yn gyfnod o ymchwil uwch dan oruchwyliaeth (Blynyddoedd 2 a 3) sy’n arwain at gyflwyno portffolio ymchwil, gan gynnwys traethawd ymchwil o 60,000 o eiriau ar ddiwedd Blwyddyn 3.
Gorfodol
(360 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer, y gofyniad mynediad sylfaenol arferol ar gyfer ymgeiswyr Doethuriaeth Broffesiynol yw:
Gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch
neu
Radd Meistr mewn maes sy’n berthnasol i’r rhaglen arfaethedig (wedi’i dyfarnu gan brifysgol neu sefydliad addysg uwch cydnabyddedig arall yn y DU, neu gan y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol (CNAA)).Byddai o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol yn ddiweddar yn ddymunol. Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl ei rinweddau ei hun.
-
Asesir pob modiwl drwy amrywiaeth o aseiniadau gwaith cwrs, a all gynnwys traethodau, cyflwyniadau, ymarferion a dadansoddiadau testunol, adolygiadau o lyfrau, astudiaethau achos ac aseiniadau eraill.
-
Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdy a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu hymarfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio eu hunain gyda nhw pan fyddan nhw’n dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor o ran yr offer y byddwch ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio, a’ch cyfeirio at gyflenwyr addas os ydych yn awyddus i brynu offer angenrheidiol yn ystod y cwrs neu cyn i chi ddechrau.
Bydd ‘pecyn celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100, ond mae’n ddigon posibl bod llawer o’r eitemau gennych yn barod, felly gwiriwch gyda ni yn gyntaf. Hefyd, er bod stiwdios dylunio digidol (PC a MAC) helaeth ar gael i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch eisiau dod â’ch dyfeisiau digidol eich hun hefyd. Gwiriwch gyda ni yn gyntaf cyn prynu.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r ymwneud hwn ag agweddau allweddol ar arfer proffesiynol yn atgyfnerthu’r ffaith mai nod y rhaglen yw datblygu ymarferwyr addysg medrus iawn sydd hefyd â’r wybodaeth, a’r sgiliau dadansoddi ac ymchwil sydd gan raddedigion Doethurol llwyddiannus.