Coleg Celf Abertawe – Gradd Meistr mewn Athroniaeth (Rhan amser) (MPhil)
Mae Gradd Meistr mewn Athroniaeth yn gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i bwnc sy’n berthnasol i’r meysydd y mae’r Gyfadran yn arbenigo ynddyn nhw, a hynny o dan oruchwyliaeth tîm o staff academaidd cymwys.
Pa effaith y mae gwaith Marcel Proust ar ddulliau blaengar o rendro ffilm yn digodol?
Yng Ngholeg Celf Abertawe, rydym yn cynnig amrywiaeth o astudiaethau M.Phil./PhD ar draws meysydd eang Celf a Dylunio. Ewch i’n tudalen ffioedd i weld cost y cyrsiau.
Mae gennym restr hir o academyddion sydd â doethuriaethau ac arbenigeddau cysylltiedig a all oruchwylio myfyrwyr sy’n gweithio ar lefel gradd ymchwil ar draws y prif ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig ag ysgol gelf o’r radd flaenaf.
Mae addysgeg y pedair ysgol sy’n rhan o Goleg Celf Abertawe yn arloesol ac maen nhw’n cynnal prosiectau ymchwil blaengar yn holl feysydd celf a dylunio:
- Dylunio a Chelfyddydau Cymhwysol
- Ffilm a’r Cyfryngau Digidol
- Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth
- Cyfathrebu Gweledol
Mae academyddion yn gwneud gwaith pwysig mewn amrywiaeth o feysydd, o arferion celf cydweithredol i iechyd a lles, o strategaethau hysbysebu i ddigwyddiad a sefyllfa, o rwydweithiau gwasanaeth i hanes celf, o astudiaethau amgylcheddol i astudiaethau Deleuze, gyda phwyslais cryf ar y traws-ddisgyblaethol ac, wrth gwrs, annog safbwyntiau gwreiddiol - fel ein henghraifft Proustaidd uchod.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd darpar ymgeiswyr yn cyflwyno cynnig ar gyfer prosiect ymchwil. Ar ôl cymeradwyo’r cais, bydd tîm goruchwylio yn cael ei benodi i chi a fydd yn cynnwys dau neu dri aelod priodol o staff dan arweiniad Cyfarwyddwr Astudiaethau. Byddwch chi, ynghyd â’r tîm, yn cynnal ymchwiliad estynedig i’r pwnc dan sylw, ac yn ysgrifennu traethawd ymchwil.
Gallwch ddewis gwneud ymchwil seiliedig ar arfer hefyd, sy’n golygu traethawd ymchwil byrrach ynghyd â chorff sylweddol o waith ymarferol. Mae pob myfyriwr ymchwil yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddiant ymchwil yn ogystal ag Ysgol Haf y Brifysgol.
Mae’r Gyfadran yn arbenigo ym mhob agwedd ar y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth, ffilm a’r cyfryngau. Yn aml, bydd gwaith MPhil yn arwain at gyhoeddi, a gallai arwain at yrfa yn y byd academaidd.
.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Y meincnod ar gyfer mynediad yw gradd israddedig 2:1 neu uwch. Gall myfyrwyr aeddfed wneud cais sy’n ystyried eu portffolio a/neu eu gyrfa academaidd/diwydiannol flaenorol.
Mae gweithdrefn hefyd ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol.
Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol brofi eu bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at y lefel IELTS 6 ofynnol.
-
Caiff MPhil ei asesu drwy gyflwyno traethawd ymchwil ysgrifenedig ynghyd â chorff o waith ymarferol, os yw’n briodol, ac yna bydd dau arholwr, un o’r tu allan i’r Brifysgol, yn cynnal arholiad llafar, neu viva, er mwyn craffu ar y gwaith.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddau ymchwil, fel MPhil, yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ar gyfer amrywiaeth o swyddi academaidd yn y sector Addysg Uwch.
Mae llawer o fyfyrwyr ymchwil yn astudio gan eu bod yn mwynhau ymchwilio i bwnc ar y lefel hon, ond mae graddau ymchwil hefyd yn gyfle i ddatblygu gyrfa mewn llawer o broffesiynau, fel addysg, y cyfryngau a’r celfyddydau.