CIPD - Rheoli Pobl (Prentisiaeth) (Diploma Cyswllt Lefel 5 CIPD, Prentisiaeth)
Mae’r cymhwyster Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl (Prentisiaeth) wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd eisiau datblygu sylfaen gref mewn rheolaeth pobl a chymryd eu gyrfa i’r lefel nesaf.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi reoli pobl, gwella perfformiad sefydliadol, a datblygu datrysiadau i ystod o heriau yn y gweithle. Byddwch hefyd yn cael dealltwriaeth o sut mae AD (Adnoddau Dynol) a L&D (Dysgu a Datblygu) yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi nodau sefydliad.
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn i ddatblygu eich ymddygiad a datblygu sgiliau. Byddwch yn ennill dealltwriaeth glir o sut i gymhwyso’ch gwybodaeth i’r gweithle, gan feithrin yr arbenigedd angenrheidiol i lwyddo fel rheolwr pobl. Mae’r cymhwyster yn cynnig cyfle gwerthfawr i drosglwyddo i swydd mewn rôl rheoli pobl, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i siapio gwerth sefydliadol unrhyw fusnes.
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau eu gyrfa ym maes rheolaeth pobl, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn gweithio mewn rôl arfer pobl ac sydd eisiau datblygu eu gyrfaoedd. Os ydych yn awyddus i gyfrannu at werth sefydliadol a datblygu eich arbenigedd mewn arfer pobl, bydd y cymhwyster hwn yn eich helpu i gyflawni eich nodau.
Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth ag ail flwyddyn gradd prifysgol yn y DU ac mae’n agored i weithwyr sy’n gweithio mewn rolau AD ar hyn o bryd neu’n ymgymryd â dyletswyddau AD ar unrhyw lefel.
Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu cofrestru ar y Brentisiaeth Uwch mewn HRM gyda Choleg Sir Gâr ac yn ymgymryd â’r gymhwyster trwy Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o’r rhaglen Brentisiaeth.
Gellir cwblhau’r rhaglen naill ai fel prentisiaeth neu fel cwrs hunan-ariannu.
Course details
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn PCYDDS, credwn mewn meithrin amgylchedd dysgu cefnogol ac ymarferol, lle byddwch yn datblygu’r wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes rheolaeth pobl. Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog meddwl beirniadol, profiad ymarferol, a datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau eich bod yn barod i gael effaith wirioneddol yn eich sefydliad.
Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai dros 18 mis, i gwblhau’r Diploma. Ar ôl cwblhau’r Diploma yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn dod yn aelodau Cyswllt o’r CIPD. Mae aelodaeth gyswllt yn cael ei chydnabod yn aelodaeth ar lefel broffesiynol ac mae gan ymgeiswyr llwyddiannus hawl i ddefnyddio’r dynodiad AssocCIPD ar ôl eu henw.
Yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau blaenorol, efallai y bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau gwaith ychwanegol hefyd, yn rhan o ofynion sgiliau hanfodol y brentisiaeth — esbonnir hyn i chi yn rhan o’r broses ymgeisio.
Yn ystod y cwrs byddwch yn meithrin eich dealltwriaeth o reolaeth pobl trwy fodylau fel Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol ar Waith ac Arfer seiliedig ar Dystiolaeth. Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol drwy Ymddygiadau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl, ac yn dysgu sut i reoli Perthnasoedd Cyflogaeth,Talent a Gwobrwyo ar gyfer Perfformiad. Bydd modylau fel Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol yn rhoi i chi’r wybodaeth ymarferol i ymgyfarwyddo â fframweithiau cyfreithiol a chefnogi llesiant gweithwyr, gan eich paratoi i gyfrannu at werth sefydliadol.
(7 credydau)
(6 credydau)
(5 credydau)
(6 credydau)
(6 credydau)
(6 credydau)
Dewisol
(6 credydau)
(6 credydau)
Ymwrthodiad
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18 oed neu’n hŷn sydd eisiau dysgu am arfer pobl neu arfer L&D. Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i ymgeiswyr ddangos y gallu i astudio ar lefel 5, naill ai drwy feddu ar gymwysterau ffurfiol, meddu ar brofiad perthnasol neu ddangos cymhwysedd mewn ffyrdd eraill.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae asesiadau Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl CIPD yn cael ei yrru gan gyflogwyr ac wedi’i anelu at senarios go iawn y gall dysgwyr ddod ar eu traws yn eu gyrfa yn y dyfodol. Bydd y CIPD yn gosod aseiniadau ar gyfer pob uned craidd. Ar gyfer unedau eraill, bydd y Brifysgol yn dyfeisio eu hasesiadau eu hun, wedi’u seilio ar ganllawiau a ddarperir gan CIPD. Gallai’r rhain gynnwys astudiaethau achos, sioeau sleidiau, portffolios a dulliau asesu eraill. Ni fydd dim arholiadau.
Nid oes gradd ar gyfer y cymhwyster hwn. Bydd dysgwyr naill ai’n cael Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu i gyflawni Pas.
-
Ariennir y cymhwyster hwn ar gyfer myfyrwyr cymwys. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y cyllid, rhaid i fyfyrwyr wneud cais i Goleg Sir Gâr a chwblhau’r broses ymgeisio am brentisiaeth. Mae manylion llawn ar gael ar gais.
Gall myfyrwyr ddewis cofrestru ar y cwrs heb gyllid – y ffi gyfredol yw £1700 (2024-2025).
Mae Aelodaeth Myfyriwr o’r CIPD yn costio £109 y flwyddyn, ynghyd â ffi ymuno o £40. (Chwefror 2024-2025).
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Bydd llwyddo i gyflawni Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD yn caniatáu dilyniant i’r Diploma Ôl-raddedig/MA lefel 7.
Bydd y cymhwyster yn galluogi i fyfyrwyr wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws Lefel 5 CIPD.