Skip page header and navigation

Sgiliau Cyflogadwyedd (Llawn-amser) (CertHE)

Abertawe
1 Blwyddyn Llawn amser
Cyfweliad a Phrofion Cymhwysedd

Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfle unigryw i wella’ch cyfleoedd gyrfa a rhoi hwb i’ch taith academaidd. Mae’r rhaglen gynhwysfawr hon yn eich darparu â’r sgiliau proffesiynol a digidol hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle deinamig sydd ohoni heddiw. Yn wahanol i raglenni traddodiadol, rydym yn rhoi gwerth ar eich profiadau bywyd a gwaith, gan wneud addysg uwch yn hygyrch ac yn gynhwysol. 

Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddatblygu set sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, gan gynnwys datrys problemau, gwaith tîm, rheolaeth menter a llythrennedd digidol. Mae’r sgiliau hyn sy’n berthnasol i’r diwydiant wedi’u teilwra ar gyfer meysydd amrywiol gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i ragori mewn unrhyw amgylchedd proffesiynol. 

P’un a ydych am ddatblygu’ch gyrfa neu gymryd y cam cyntaf i addysg uwch, mae ein rhaglen yn llwybr perffaith. Ymunwch â ni i wella’ch cyflogadwyedd, datgloi cyfleoedd gyrfa newydd, ac i baratoi’r ffordd ar gyfer gweithgareddau academaidd pellach.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
1 Blwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
Cyfweliad a Phrofion Cymhwysedd

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hon?

01
Yn agored i’r rhai sydd â phrofiad bywyd a gwaith, nid cymwysterau ffurfiol yn unig.
02
Mynediad perffaith i addysg uwch a datblygiad gyrfa.
03
Ennill sgiliau academaidd, proffesiynol a digidol hanfodol wedi’u teilwra ar gyfer y gweithle heddiw.

Beth fyddwch yn dysgu?

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyfleoedd uwchsgilio a phrofiad dysgu sy’n canolbwyntio ar y gweithle, sy’n sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial ac yn ei dro yn trawsnewid y cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.

Bydd graddedigion yn gwella eu sgiliau ac yn ehangu eu cyfleoedd gyrfa, gan eu gwneud yn addas iawn ar gyfer rolau ar draws amrywiol ddiwydiannau, gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat.

Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i gwrdd â safonau’r diwydiant, gan ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd hanfodol a datblygu cymwyseddau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus trwy gydol y cwrs.

Defnyddir strategaethau dysgu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr drwy gydol y rhaglen i sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer sy’n bersonol ac yn gydweithredol. Bydd dysgwyr yn ennill sgiliau trosglwyddadwy sy’n defnyddio technoleg ar gyfer dysgu yn ogystal â sgiliau academaidd, proffesiynol a llythrennedd sy’n ymwneud ag astudio ar y lefel hwn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i’r BA Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn dilyn cyfweliad llwyddiannus.  

Gorfodol

Datblygiad Gyrfa Proffesiynol

(20 credydau)

Gwaith Tîm a Chyfathrebu Effeithiol

(20 credydau)

Sgiliau Digidol ar gyfer Datblygiad Personol a Thwf Busnes

(20 credydau)

Rheoli Menter

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd ar gyfer yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Datrys Problemau ac Arloesi

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

testimonial

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon yn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiad o ran cyflogadwyedd a chymwysterau academaidd. 

    Nid yw’r rhaglen hon yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau ffurfiol; asesir derbyniadau addasrwydd ymgeiswyr drwy gyfweliad trylwyr a phrawf ysgrifenedig.

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.  

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Gosodir gwaith cwrs a thasgau ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Ymarferion gosod ymarferol yn y dosbarth. 

    • Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau) 

    • Cyflwyniadau (e.e. cynlluniau busnes) 

    • Portffolios o waith 

    • Prosiectau Ymchwil. 

    • Traethodau 

    • Adroddiadau 

    Gan fod y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad gwaith a phersonol, mewn llawer o achosion mae asesiadau yn rhoi hyblygrwydd i’r myfyrwyr ddefnyddio eu cefndir a’u profiad i wneud dysgu yn berthnasol i’w profiad gwaith blaenorol; bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu prosiectau sy’n berthnasol i’w dyheadau gyrfa.  

  • Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Ddwyieithog

    Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac mae modiwlau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg naill ai’n llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Os byddwch yn dewis astudio’ch cwrs naill ai’n llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Mae argaeledd modiwlau cyfrwng Cymraeg yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gall amrywio bob blwyddyn yn dibynnu ar staffio, diddordebau ymchwil, amserlenni, galw myfyrwyr, ac isafswm niferoedd cofrestru, felly ni ellir gwarantu modiwlau penodol bob amser, cysylltwch â ni i drafod mwy.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

  • Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol.

    Costau Angenrheidiol:

    Bydd angen i ddysgwyr gael mynediad at galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas; tua £500. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau