Skip page header and navigation
Busnes a Rheolaeth - Cadwa Le Ar Ddiwrnod Agored 


Dewiswch lwybr o’n hystod eang o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth. Rydym ni’n pontio’r bwlch rhwng theori ac arfer, gan sicrhau eich bod chi’n deall y byd gwaith fel ag y mae go iawn.

Dyma raglen astudio ragweithiol sydd wedi’i dylunio i feithrin y sgiliau a’r meddylfryd y byddwch eu hangen er mwyn llwyddo. 
 
Mae ein Hysgol Fusnes yng Nghaerfyrddin yn cynnig amrywiaeth o raglenni sy’n annog agwedd foesegol, gynaliadwy a phroffidiol at fusnes. Cewch herio modelau’r presennol, archwilio syniadau newydd, a thrin a thrafod datrysiadau arloesol.  

Ar Gampws Busnes Abertawe, rydyn ni’n torri’n cwys ein hunain. Rydym wedi ymgynghori ag arbenigwyr o’r diwydiant er mwyn datblygu rhaglenni sy’n meithrin y sgiliau a’r nodweddion y mae cyflogwyr eu heisiau, gan gynnwys arloesedd, creadigrwydd a mentergarwch. Mae llawer o’n cyrsiau yn cynnig achrediad gyda chyrff proffesiynol o fri. 

Mae ein campysau yn Llundain a Birmingham yn cynnig amrywiaeth o raglenni busnes, gyda’r hyblygrwydd i ddysgu yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Cewch ddysgu gan addysgwyr ac academyddion sydd wedi cyfrannu at gwricwlwm sy’n canolbwyntio ar berfformiad ac sy’n cyd-fynd ag anghenion y gweithlu modern. Bydd cyfleoedd hefyd i feithrin cysylltiadau gwerthfawr a chwrdd â gweithwyr proffesiynol ym myd busnes, gan ehangu eich cysylltiadau â’r diwydiant.

Pam astudio Busnes a Rheolaeth gyda PCYDDS?

01
Cefnogaeth bersonol: Sesiynau adborth un-i-un.
02
Academyddion sy’n ymarferwyr: Dysgwch gyda staff sydd â phrofiadau gwirioneddol o’u meysydd.
03
Astudiaeth sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr: Amgylchedd dysgu cymhwysol ac amserlenni sy’n caniatáu hyblygrwydd ar gyrsiau perthnasol.
04
Creu cysylltiadau: Mae Wythnos y Diwydiant yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio a chyflogaeth.
05
Prosiectau byw: Cewch drafod materion y byd go iawn er mwyn datblygu safbwyntiau gwahanol a blaengar, i ddatblygu sgiliau effeithiol ac i fod yn barod ar gyfer gwaith.
06
Meddwl newydd: Cyrsiau sydd wedi’u seilio ar egwyddorion cynaliadwyedd a moesegol ac sy'n herio addysg busnes draddodiadol.

Clearing

Students walking on carmarthen campus

Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored neu Noson Agored

Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol. 

Rankings

Spotlights

Innovation Matrix

Cyfleusterau

Offer digidol uwch dechnoleg. Cyfleusterau llyfrgell yn cynnwys mynediad ar-lein 24/7. Wedi’i wreiddio yn y rhanbarth, cysylltiadau agos ag ardaloedd gwledig a threfol perthnasol

Dau fyfyriwr yn eistedd o flaen y ffynnon ar gampws Llambed

Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?

Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.

Testimonial

“Yn y pen draw, mae gradd mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth wedi dysgu’r sgiliau rheoli pwysicaf i mi ac wedi fy helpu i adnabod fy nodau gyrfa."

Bettina Silsby (wedi graddio o’r rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth)
Bettina Silsby (Leadership and Management graduate)

Straeon Myfyrwyr

Straeon Myfyrwyr Busnes a Rheolaeth

Mae Meghna Balar, un o raddedigion MBA Busnes Rhyngwladol, wedi dathlu ei llwyddiant yng nghampws Llundain y Drindod Dewi Sant ar ôl symud o India i astudio yn y DU. Cyfunodd Meghna ei harbenigedd mewn datblygu gwe, SEO a marchnata digidol â gwybodaeth fusnes uwch, wrth ddatblygu'r hyder, gwytnwch a phersbectif byd-eang a fydd yn ei chefnogi wrth iddi wireddu ei huchelgeisiau ym maes busnes ac entrepreneuriaeth.

A graduating student

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ymgorffori'r cysyniad o niwed i weithwyr y gellir ei osgoi yn ei rhaglenni AD a rheoli busnes fel rhan o ymdrech ehangach i baratoi gweithwyr proffesiynol a rheolwyr AD y dyfodol i greu gweithleoedd iachach, gan gynrychioli un o'r enghreifftiau cyntaf o'r dull yn cael ei ymgorffori mewn addysg uwch.

A group of people stood in front of large digital screen posing for a group photo

Mae graddedigion Y Drindod Dewi Sant, Liliia Pakhotina a Ruslan Kysil, yn dathlu llwyddiant academaidd a chydnabyddiaeth fusnes ar ôl i'w cwmni rygiau wedi'u gwneud â llaw, R&L Rugs, ennill gwobr Busnes a Ganmolwyd yn Uchel.

Ruslan and Lily at the awards ceremony holding the award

Cyn-fyfyrwraug MBA yn siarad am ei phrofiad o astudio MBA ym Mhrifysgol Cymru y Dridod Dewi Sant.

a person in a canoe

Enillwyr gwobr Syniadau Busnes Cymru gyfan a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a drefnir gan dim Mentergarwch y Brifysgol.

Winners of UWTSD's All Wales Business Idea Competition

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Arddangosfa Minecraft Drochol, gan ddod â disgyblion, myfyrwyr a staff at ei gilydd i archwilio sut y gall technolegau trochol gefnogi profiadau dysgu cynhwysol a diddorol.

Pupils in a multi-coloured immersive room.

Mae Sioned Raymond, sy’n gweithio i Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi cynnal ymchwil fel rhan o’i hastudiaethau MA Arfer Proffesiynol gyda Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i archwilio sut y gellir cynyddu nifer y graddedigion a phrentisiaid cyfrwng Cymraeg o fewn y Cyngor.

photo  of Sioned Raymond

Mwynhaodd myfyrwyr o Ysgol Fusnes Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) brofiad unigryw y tu ôl i'r llenni ym mhencadlys Au Vodka yn Llansamlet, Abertawe.

A group of students and lecturers standing by a gold colour vehicle.

Mae Sandra Richards‑Davies, alwmones o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi agor canolfan chwarae yn Parc Dewi Sant, Caerfyrddin o’r enw Bubbles Bounce and Sensory Play (Cwmni Buddiannau Cymunedol) - canolfan chwarae arloesol yng Nghymru sy’n cael ei chynllunio o amgylch saith profiad synhwyraidd.

Owner of Bubbles Bounce and Sensory Play CIC, Sandra Richards-Davies

Pan gyrhaeddodd Lily a Ruslan y DU o Wcráin dair blynedd yn ôl, roedd popeth yn newydd ac yn ansicr. Fel llawer o bobl sy’n ailadeiladu eu bywydau mewn gwlad newydd, sylweddolon nhw fod addysg yn allweddol i greu sefydlogrwydd a chyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol.

Bellach wedi’u lleoli yng Nghymru, mae’r cwpl yn astudio’r cwrs CertHE Sgiliau Busnes ym Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD). Ochr yn ochr â’u hastudiaethau, maent yn rhedeg busnes creadigol sy’n tyfu, gan arbenigo mewn cynhyrchu rygiau tuftiedig wedi’u gwneud â llaw. Mae eu taith yn enghraifft ysbrydoledig o wydnwch, entrepreneuraeth a grym addysg gefnogol wrth adeiladu dyfodol llwyddiannus yn y DU.

Lily and Ruslan standing on a cliff with the sea in the background

Ein Staff

Ein Staff

Archwiliwch ein proffiliau staff i ddysgu am arbenigedd, cyflawniadau, a theithiau proffesiynol yr academyddion sy’n llunio ac addysgu ein cyrsiau. Mae’r straeon hyn yn amlygu’r angerdd a’r ymroddiad sy’n helpu i gyfoethogi profiadau ein myfyrwyr ac yn gyrru arloesi yn eu meysydd.