Skip page header and navigation

Yma i'ch helpu chi i wireddu gyrfa

Ydych chi’n barod i fynd amdani er mwyn ceisio cyrraedd eich nod? P’un ai a ydych wedi gosod eich bryd ar astudiaeth bellach, gyrfa lwyddiannus neu sefydlu eich busnes eich hun hyd yn oed, byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddilyn eich breuddwydion.​ 

Ac os nad ydych chi’n siŵr beth rydych am ei wneud eto, bydd ein Cynghorwyr Gyrfa profiadol a chyfeillgar yn rhoi’r cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i lwybr sy’n addas i chi. 

Trwy apwyntiadau un-i-un, neu sesiynau galw heibio, cewch gyfle i nodi eich cryfderau naturiol a’ch sgiliau, dysgu mwy am chwilio am swydd yn effeithiol, dysgu sut i ysgrifennu CVs effeithiol, gwella eich sgiliau cyfweliad a gwneud cais am swyddi i raddedigion.​ Byddwn hefyd yn eich helpu gyda datganiadau personol a cheisiadau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. 

Yn ogystal â’n Cynghorwyr Gyrfa, bydd gennych fynediad i MyCareer, platfform gyrfaoedd ar-lein y Brifysgol, sydd ar gael i chi mewn partneriaeth ag Abintegro. Gydag offer arbenigol fel bwrdd swyddi, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV360 awtomataidd, Cyfweliad 360 a mwy, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer eich dyfodol ar eich telerau eich hun. 

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf? Byddwn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i brofiad gwaith, lleoliadau gwaith â thâl neu swydd ran-amser - felly byddwch chi’n graddio gyda’r sgiliau a’r hyder i greu’r dyfodol rydych chi wedi breuddwydio amdano erioed. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn trefnu gweminarau i gyflogwyr a ffeiriau gyrfaoedd ar bob campws trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Magu Profiad

Yn dibynnu ar eich cwrs, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ennill cymwysterau yn y diwydiant, ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau yn ystod eich cwrs gradd.

Os ydych chi’n astudio gradd mewn peirianneg neu radd fodurol, er enghraifft, fe allech chi fod yn treulio blwyddyn ar leoliad yn y diwydiant modurol gyda chwmnïau fel Aston Martin, Jaguar neu Rolls Royce. 

Ydych chi’n astudio’r gyfraith, plismona neu droseddeg? Mae ein cyrsiau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn disgyblaeth academaidd plentyndod, ieuenctid ac addysg? Byddwn yn cynnig lleoliadau gwaith i chi mewn amrywiaeth o leoliadau yn ystod eich cwrs gradd.

Ydych chi’n chwilio am radd mewn lletygarwch, twristiaeth neu reoli gwestai rhyngwladol? Cewch y profiad sydd ei angen arnoch gyda lleoliadau yng ngwestai’r Marriott.

Efallai eich bod chi eisiau gwella eich sgiliau coginio? Wrth astudio Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol, fe allech chi gael lleoliad gwaith gyda bwytai Marco Pierre White. Ac os ydych chi’n ystyried dyfodol yn y diwydiannau creadigol, mae gennym gysylltiadau â Tinopolis, H&M, M&S a Hallmark.

Prosiectau sy’n seiliedig ar waith

Lle bo’n berthnasol, byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau byw, seiliedig ar waith gyda chwmnïau lleol a sefydliadau cenedlaethol yn ystod eich cwrs gradd.  Mireiniwch eich sgiliau byd go iawn, dechreuwch greu rhwydwaith proffesiynol a graddio yn barod i wneud argraff ar gyflogwyr. 

Eich Llwybr Gyrfa

O’r Campws i Yrfa: Mae Eich Taith yn Dechrau Yma

Yn PCYDDS, rydym yn deall y gall rwystrau weithiau eich atal rhag ennill y profiad
sydd ei angen arnoch i ddilyn eich nodau gyrfa. Dyna pam, gyda chymorth MEDR,
rydym yn cynnig y rhaglen Eich Llwybr Gyrfa - menter a ariennir sydd wedi’i chynllunio
i’ch helpu i oresgyn y rhwystrau hyn.


Os ydych yn bodloni’n meini prawf cymhwysedd, gall ein tîm eich cefnogi i gael
mynediad at brofiad gwaith, mentora, neu fynychu diwrnodau mewnwelediad i’ch
helpu i wneud cynnydd yn eich taith yrfa.

    • Help i ddod o hyd i brofiad gwaith di-dâl wedi’i alinio â’ch diddordebau gyrfa i’ch helpu i archwilio ac adeiladu eich sgiliau yn y gweithle. Gallwch gael mynediad at gyllid i gefnogi costau teithio a chynhaliaeth, neu eich helpu i baratoi ar gyfer eich profiad gwaith.
       
    • Apwyntiadau gyda’n Swyddogion Prosiect i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael.
       
    • Mynediad i’n Cynghorwyr Gyrfaoedd ar gyfer ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a chyngor gyrfa wedi’i bersonoli.
       
    • Bwrsarïau Datblygu Gyrfa i dalu costau hyfforddiant, datblygiad personol neu gyrsiau seiliedig ar sgiliau.
       
    • Cyfleoedd mentora i gysylltu â gweithwyr proffesiynol sy’n gallu cynnig mewnwelediadau ac arweiniad gyrfa.
       
    • Digwyddiadau cyflogadwyedd wedi’u teilwra, megis sesiynau
      rhwydweithio a sgyrsiau “Cwrdd â’r Gweithwyr Proffesiynol”, lle gallwch glywed gan gyn-fyfyrwyr a chyflogwyr a chael gwybodaeth fewnol am y sectorau y maent yn gweithio ynddynt.
       
    • Mynediad i adnoddau cyflogadwyedd ar-lein, gan gynnwys ein Hwb Fy Ngyrfaoedd ac Eich Tywysydd Gyrfa.
  • Os ydych yn ymwneud ag unrhyw un o’r canlynol, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cymorth pwrpasol drwy’r rhaglen Eich Llwybr Gyrfa:

    • Rwy’n ystyried fy hun yn anabl
    • Rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl
    • Mae gennyf gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol
    • Rwy’n niwroamrywiol (e.e. awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, ADHD, ADD)
    • Rwyf wedi ymddieithrio oddi wrth fy nheulu
    • Rwy’n ymadawr gofal a/neu mae gennyf brofiad o’r system ofal
    • Rwy’n dod o gymuned Du, Asiaidd, neu Leiafrif Ethnig (BAME) yn y DU
    • Mae gennyf gyfrifoldebau gofal a/neu riant
    • Rwy’n ffoadur neu geisiwr lloches
    • Rwy’n dod o gefndir incwm isel
    • Fi yw’r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol
    • Rwy’n rhan o’r gymuned LGBTQ+
    • Rwy’n dod o gymuned Sipsiwn neu Deithwyr
    • Rwy’n teithio i’r brifysgol o’m cartref teuluol
    • Rwy’n fyfyriwr yng Nghymru sy’n astudio mewn prifysgol yng Nghymru.
Cymryd Rhan

Os hoffech gymryd rhan yn y rhaglen Eich Llwybr Gyrfa, anfonwch e-bost atom: llwybrgyrfa@uwtsd.ac.uk
 

Adnoddau Gyrfa sydd ar gael

Ap cymorth myfyrwyr ar ffôn

MyCareer

Mae gan fyfyrwyr PCYDDS fynediad llawn 24/7 i blatfform Gyrfaoedd blaenllaw’r brifysgol. Trwy’r platfform hwn mae gennych fynediad i wybodaeth am yrfaoedd, hunanasesu, cynlluniwr gyrfa, gwiriwr CV360 a LLAWER mwy. 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Image of graduates

Cefnogaeth i raddedigion

Rydym yn cefnogi graddedigion am hyd at 2 flynedd ar ôl graddio. Fel myfyriwr graddedig o’r Prifysgol y Drindod Drindod Dewi Sant mae gennych hefyd fynediad i’r platfform gyrfaoedd am 2 flynedd. Anfonwch e-bost i wneud ymholiad.

Beth Sydd Ymlaen