Mae’r Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol yn cefnogi cyflwyno’r canlynol mewn partneriaeth:
- Rhaglenni PCYDDS
- Rhaglenni Prifysgol Cymru (tan eu cwblhau).
Mae’n goruchwylio prosesau cymeradwyo a monitro ac yn cynnig cyngor ynghylch materion sy’n gysylltiedig â darpariaeth gydweithredol i staff yn y sefydliadau partner cydweithredol a’r Brifysgol.
Mae'r swyddfa wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn:
Adeilad Cofrestrfa'r Prifysgol Cymru
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NS
Mae darpariaeth gydweithredol yn bwysig i’r Brifysgol am ei bod yn ffordd o drefnu bod ei rhaglenni ar gael i fyfyrwyr o ystod eang o ardaloedd daearyddol ac yn cynnig iddynt brofiad addysg byd-eang o’r iawn ryw.
Mae hefyd o fudd i sefydliadau partner y Brifysgol, a’r myfyrwyr sy’n astudio yno, trwy gynnig:
- Cysylltiadau gwerthfawr ag addysg uwch yn y DU,
- Cyfleoedd ymchwil a datblygiad staff,
- Cyfleoedd ar gyfer dilyniant myfyrwyr
- Manteision sydd ar gael i holl gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Gweld ein Cofrestr o Bartneriaethau Cydweithredol
Pan fydd myfyrwyr yn cofrestru ar un o raglenni’r Drindod Dewi Sant maent yn cytuno i dderbyn y telerau a’r amodau a nodir gan y sefydliad partner pan fyddwch yn derbyn lle ar y rhaglen. Maent hefyd yn cytuno i gydymffurfio â rheoliadau a phrosesau'r Brifysgol, sydd wedi eu crynhoi yn y Cytundeb Cofrestru Partner.
Ysgrifennwyd llawlyfr Gweithrediadau Partneriaid yn bennaf er mwyn rhoi arweiniad i sefydliadau partner, er bod llawer o’r wybodaeth a geir ynddo hefyd yn berthnasol i staff y Brifysgol sy’n rhan o bartneriaethau cydweithredol.
Nod y Llawlyfr yw rhoi canllawiau cyffredinol ynghylch gweithredu rhaglen gydweithredol, a chadarnhau ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu gwasanaeth o ansawdd ar gyfer ei sefydliadau, er mwyn eu galluogi i weithredu’n effeithiol.
Yn y llawlyfr ceir cynnwys o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd a chyfeirir at y penodau a’r atodiadau priodol ar gyfer manylion pellach, fel y bo’n berthnasol.
Cewch ddarllen y llawlyfr yma:-
Mae’r Brifysgol hefyd wedi diweddaru ei chanllawiau mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer amgylchiadau esgusodol. Gellir dod o hyd i gopi o’r canllawiau newydd isod:
Er y darperir adnoddau dysgu craidd ar gyfer myfyrwyr gan bob sefydliad partner, gall y Brifysgol ddarparu rhai adnoddau ychwanegol ar gyfer ei myfyrwyr mewn sefydliadau partner. Gweler ein Llyfrgell Ar-lein i Bartneriaethau
Mae Undeb Myfyrwyr PCYDDS wedi darparu rhai defnyddiau generig y gall sefydliadau partner eu defnyddio mewn perthynas â Chynrychiolwyr Cwrs.
Dylid addasu’r dogfennau ar gyfer cyd-destun y sefydliad unigol. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at Steve Ralph, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr PCYDDS yn steve.ralph@uwtsd.ac.uk
Mae’r Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol wedi gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a chyfarwyddyd ynghylch Pwyllgorau Staff Myfyrwyr. Mae modd dod o hyd iddynt drwy’r ddolen ganlynol:
Pwyllgorau Staff Myfyrwyr - Gwybodaeth a Chyfarwyddyd i Bartneriaid Cydweithredol
Cynhaliwyd nawfed gynhadledd PCYDDS ar gyfer partneriaid cydweithredol ar 2 Rhagfyr 2022 ar-lein.
Mae’r agenda a sleidiau’r cyflwyniadau ar gael isod:
- Agenda
- Cyd-greu asesiadau gyda myfyrwyr
- Diweddariadau a gwybodaeth am PCYDDS a Sector AU y DU
- Diweddariad ar Adroddiadau Rhaglen Blynyddol
- Adroddiadau Rhaglen Blynyddol - defnyddio data
- Diweddariad gan Undeb Myfyrwyr PCYDDS
- Diogelu a Risg
Gallwch hefyd wylio’r recordiad o’r Gynhadledd Partneriaid Cydweithredol – 2 Rhagfyr 2022.
Arweinir y Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol gan:
- Dr Stuart Robb, Pennaeth Partneriaethau Cydweithredol (Cysylltiadau Partneriaeth)
- Elisa Tavares Llewellyn, Pennaeth Partneriaethau Cydweithredol (Gweithrediadau)
ac mae’n cynnwys saith cydweithiwr arall:
- Joanna Clark
- Mary Dent
- Sian James
- Adam Kalies
- Deemah Obaid
- Nia Thomas
- Andrew Warner
- Lucy (Lan) Ye
Gyda’n gilydd rydym yn cefnogi partneriaethau cydweithredol sy’n cyflwyno rhaglenni Prifysgol Cymru (tan iddynt ddod i ben) a rhaglenni PCYDDS, gan oruchwylio prosesau cymeradwyo a monitro, a chynnig cyngor i staff sefydliadau partneriaethau cydweithredol a’r Brifysgol ar faterion sy’n ymwneud â darpariaeth gydweithredol.
Sylwch fod gennym ddau dîm o Swyddogion sy’n cefnogi ein partneriaid cydweithredol:
- Tîm A, sy’n cefnogi ac yn delio â’n partneriaid yn Tsieina a’r Dwyrain Pell.
- Tîm B, sy’n cefnogi ein partneriaid yn Ewrop.
Rhennir partneriaethau’r DU rhyngddynt. Mae gan y timau fewnflychau e-bost a rennir sy’n golygu y caiff unrhyw ymholiadau eu codi bob amser, hyd yn oed os nad yw person cyswllt y partner ar gael.
Manylion cyswllt:
Dr Stuart Robb
Stuart.Robb@wales.ac.uk
Elisa Tavares Llewellyn
elisa.tavares.llewellyn@uwtsd.ac.uk
Tîm A
Deemah Obaid, Andrew Warner a Lucy (Lan) Ye
AOProvisionA@wales.ac.uk
Tîm B
Adam Kalies a Nia Thomas
AOProvisionB@wales.ac.uk
Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol
Joanna Clark, Mary Dent & Sian James
collaborativepartnerships@uwtsd.ac.uk