Myfyrwyr cyfnewid a myfyrwyr ar ymweliad
Astudio yn y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth i Ymgeiswyr Cyfnewid, Astudio Dramor, a Rhaglenni Haf
Gall myfyrwyr o bob cwr o’r byd wneud cais i astudio yng Nghymru am brofiad bythgofiadwy. Rydym yn cynnig rhaglen astudio dramor sydd wedi hen ennill ei phlwyf, yn ogystal â chyfleoedd cyfnewid cilyddol drwy ein sefydliadau partner.
Mae dewis ble i astudio dramor yn benderfyniad arwyddocaol – un a allai siapio eich dyfodol! Tu hwnt i gael safbwynt rhyngwladol ar eich astudiaethau, byddwch yn ymdrochi mewn diwylliant newydd, yn archwilio hanes cyfoethog, ac yn profi ffordd unigryw o fyw.
Canllaw ar gyfer Myfyrwyr Astudio Dramor a Chyfnewid sy’n dod i Gymru
Rydym yn ymdrechu i wneud y broses ymgeisio mor ddi-dor â phosibl i fyfyrwyr sy’n dod i Gymru sy’n dechrau ar eu taith Astudio Dramor yn PCYDDS.
Yn achos myfyrwyr Cyfnewid, mae arnom angen enwebiad gan ein sefydliadau partner tramor. Rhaid i bartneriaid gyflwyno manylion y myfyrwyr a enwebir i Dîm Go Global, gan gynnwys eu henwau llawn, eu maes astudio cyfredol a’r maes pwnc arfaethedig yn PCYDDS. Pan fyddant wedi’u henwebu, bydd myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais drwy’r cais cyfnewid rhyngwladol.
Mae myfyrwyr sy’n gwneud cais fel myfyrwyr astudio dramor sy’n talu ffioedd, tu allan i gytundeb cyfnewid, yn gallu gwneud cais yn uniongyrchol cyn y dyddiad cau.
Mae Cymru’n lle gwych i dreulio’r amser gwerthfawr hwn yn eich gyrfa addysgol.
Pam Cymru?
Mae Cymru yn cynnig cyrchfan sy’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ar gyfer y cam allweddol hwn ar eich taith academaidd. Nid yn unig y mae’r rhaglen Astudio Dramor yn darparu sylfaen academaidd gref mae hefyd wedi’i llunio i’ch trochi ym mhrofiadau diwylliannol a chymdeithasol bywiog Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Rhaglen Academaidd a Throsglwyddo Credydau
Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gallwch ddewis o ystod eang o gyrsiau. Bydd
manylion llawn y rhaglenni sydd ar gael yn cael eu cadarnhau gan y Tîm Symudedd Rhyngwladol.
Ar ddechrau’r rhaglen, bydd ein hathrawon yn cyflwyno pob cwrs, gan eich helpu i benderfynu
pa un sy’n cyd-fynd orau â’ch diddordebau. Ar ôl cofrestru, bydd gennych rhwng 12 a 17 awr o
ddosbarthiadau’r wythnos, gan ennill 60 credyd y DU (30 credyd ECTS) y semester.
Yn Y Drindod Dewi Sant, mae pob modiwl astudio dramor a chyfnewid yn cael eu
cydnabod yn llawn drwy’r System Trosglwyddo a Chronni Credydau Ewropeaidd
(ECTS).
- Credydau ECTS: Mae gan bob modiwl werth credyd yn unol â’r safon Ewropeaidd, lle mae 60
credyd ECTS yn cynrychioli blwyddyn academaidd lawn a 30 credyd ECTS yn cynrychioli un
semester. Mae ECTS yn sicrhau bod llwyth gwaith a chanlyniadau dysgu eich modiwlau wedi’u
diffinio’n glir ac yn drosglwyddadwy rhwng sefydliadau. - Oriau Credyd yr Unol Daleithiau / Canada: I fyfyrwyr o sefydliadau Gogledd America, mae
modiwlau’r Drindod Dewi Sant wedi’u mapio i oriau credyd yr Unol Daleithiau neu Canada. Mae
hyn yn helpu i sicrhau bod modiwlau astudio dramor yn cael eu cydnabod gan eich sefydliad
cartref yn unol â gofynion eich gradd. - Graddio’r Drindod Dewi Sant: Bydd myfyrwyr yn derbyn graddau yn unol â graddfa raddio’r
Drindod Dewi Sant. Cofnodir graddau ar drawsgrifiadau swyddogol a, lle bo’n berthnasol, eu
cyfieithu i system raddio eich sefydliad cartref drwy’r cytundeb dysgu.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Astudio Dramor, byddwch chi a’ch sefydliad cartref yn derbyn
trawsgrifiad swyddogol.