Addysg Antur Awyr Agored (CertHE)
Mae’r rhaglen Tyst AU Addysg Antur Awyr Agored yn rhaglen academaidd drylwyr, berthnasol i’r alwedigaeth, sy’n cynnig llwybr mynediad at y radd BA llawn.
Yn bennaf, mae’r rhaglen wedi’i dylunio i integreiddio’r sgiliau ymarferol a galwedigaethol y bydd arnoch eu hangen i weithio yn y sector awyr agored gyda dealltwriaeth academaidd gref a gwerthfawrogiad o’r egwyddorion ehangach sy’n perthyn i feysydd addysgeg, seicoleg, cymdeithaseg, llesiant ac athroniaeth.
Mae’r rhaglen yn gosod sylfaen wych ar gyfer gyrfa ym maes antur awyr agored, ond mae hefyd yn addas ar gyfer nifer o swyddi eraill sy’n dod i’r amlwg ym meysydd iechyd, addysg a gweithgarwch corfforol yn fwy cyffredinol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod y rhaglen hon yw creu ymarferwyr sy’n fyfyriol, yn annibynnol ac sy’n parhau i ddysgu drwy gydol eu hoes. Mae’n rhoi amrywiaeth o brofiadau dysgu sy’n annog gwerthfawrogiad o arferion cynaliadwy a’r gallu i’w datblygu.
Ei nod yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y mae gweithgareddau addysg antur awyr agored yn cael eu datblygu a’u cyflwyno, a hwyluso datblygiad y sgiliau a’r agweddau y bydd arnoch eu hangen er mwyn dilyn gyrfa yn y sector addysg antur awyr agored. Nod arall y rhaglen yw datblygu sgiliau a chymwyseddau sy’n gyson â gofynion y cyrff llywodraethu perthnasol, fel sy’n briodol i lefel 4
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
Gwybodaeth allweddol
-
96 pwynt UCAS neu’n amodol ar gyfweliad. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21 neu hŷn) sydd â phrofiad awyr agored perthnasol.
-
Nod yr asesiadau yw galluogi myfyrwyr i ddangos eu bod wedi bodloni gofynion y rhaglen a chyflawni deilliannau dysgu pob modiwl.
Gan ystyried natur ymarferol y rhaglen, mae asesiadau wedi’u dyfeisio i wneud yn fawr ar y cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain.
Defnyddir amrywiaeth o fformatau ar gyfer gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol, yn cynnwys:
Portffolios
Addysgu/hyfforddi ymarferol
Traethodau
Cyfnodolion
Cyflwyniadau
Cyfryngau digidol
Blogiau
Cyfweliadau academaidd. -
Ar wahân i ddarparu pecyn cymorth cyntaf personol, cyllell afon, a rhai dillad awyr agored sylfaenol, nid oes costau ychwanegol gorfodol gyda’r rhaglen hon ar hyn o bryd.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau
-
Mae’r rhaglen Addysg Antur Awyr Agored wedi’i chyfoethogi gan ein partneriaeth sefydledig gyda phrifysgol De-ddwyrain Norwy sy’n cynnig cyfle rhagorol i astudio Sgïo Gwledig Llychlynnaidd ac Arweinyddiaeth Awyr Agored am semester yn yr ail flwyddyn.
-
Ceir nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o wahanol rolau cyflogaeth yn y sector.
Mae yna gysylltiadau agos rhwng y rhaglen a’r cyrff proffesiynol a rheolaethol perthnasol, gyda nifer o bartneriaethau cryf gyda busnesau lleol a sefydliadau trydydd sector. Fel y cyfryw, mae myfyrwyr mewn sefyllfa dda i gysylltu eu hastudiaethau gyda’r cymunedau arfer ehangach.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr ennill nifer o ddyfarniadau gan gyrff llywodraethol ar wahanol lefelau, mewn amrywiaeth o weithgareddau. Mae’r dyfarniadau hyn yn gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda’r cyrff llywodraethol perthnasol a chynnal llyfrau log o brofiad.