Skip page header and navigation

Addysg Gorfforol (Llawn amser) (CertHE)

Caerfyrddin
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Byddwch yn rhan o ddyfodol Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid gyda’r Drindod Dewi Sant

Cynlluniwyd y radd Addysg Gorfforol i ddatblygu eich sgiliau addysgu addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon ieuenctid. Yn rhan o’ch astudiaethau, bydd gennych gyfle i gymhwyso’r cynnwys academaidd a gyflwynir o fewn ystod o weithgareddau ymarferol gan gynnwys gemau, athletau, iechyd a ffitrwydd, dawns, nofio, gymnasteg a gweithgareddau anturus.

Cewch eich cefnogi gyda’ch astudiaethau gan dîm o staff academaidd ysbrydoledig sydd â phrofiad helaeth o weithio ac ymchwilio ym meysydd addysg gorfforol a chwaraeon.

Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu mewn cydweithrediad ag ymarferwyr o faes addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid gan sicrhau ei bod mor berthnasol â phosibl i’r maes. Mae astudio’r radd yn baratoad delfrydol ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig mewn addysg (AddGorff Cynradd neu Uwchradd) neu ar gyfer gyrfa ym maes hyrwyddo chwaraeon ieuenctid a gweithgarwch corfforol. Fodd bynnag, nid yn unig y bydd astudio’r cwrs dystysgrif (un flwyddyn) yn darparu’r wybodaeth i’ch helpu i benderfynu os yw’r rhaglen radd (ychwanegu un flwyddyn) neu opsiynau gyrfa’r dyfodol sy’n eich gweddu ond hefyd bydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer gweithio mewn swyddi hyfforddi a chynorthwyo addysgu. Bydd y dystysgrif hefyd yn rhoi profiadau i chi o weithio gyda phlant, gan arwain at gyfleoedd i ddilyn meysydd gwaith ieuenctid, rolau mewn gwersylloedd rhyngwladol neu fel gweithiwr chwarae.

Mae darparu addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant pobl ifanc. Mae cwrs mewn Addysg Gorfforol yn darparu cefndir delfrydol ar gyfer datblygu’r wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc i fyw bywydau iach a gweithgar.”

Ydych chi’n siarad Cymraeg? 
Os hoffech chi astudio peth o’r cwrs hwn yn y Gymraeg, mae 40 credyd ar gael yn y Gymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth ar fersiwn Cymraeg y dudalen hon.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CX66
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd rhagorol gyda hanes o ddilyniant i addysgu cynradd neu uwchradd.
02
Cwrs unigryw yng Nghymru sydd â phrofiad addysgu ymarferol gyda phlant ym mhob un o dair blynedd yr astudiaethau.
03
Cyfleoedd i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yng Nghaliffornia neu Ogledd Carolina.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ffocws sylfaenol y radd Addysg Gorfforol yw materion dysgu ac addysgu ac mae llawer o’r modylau’n cynnig profiadau addysgu ymarferol gyda phlant.

Caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu gosod yn llawer o’r modylau, ac mae nifer o asesiadau’n gofyn i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill.

Mae ffocws gweithgareddau iechyd ac antur awyr agored presennol addysg gorfforol wedi’i gynrychioli’n gryf yng nghynnwys cyffredinol y radd. Y radd hon yw’r unig un o’i math yn yr ardal ac mae’n wahanol i raddau gwyddor chwaraeon neu astudiaethau chwaraeon am mai ei phrif ffocws yw rhoi i fyfyrwyr strategaethau dysgu ac addysgu cynhwysol er mwyn gallu darparu profiadau positif i bobl ifanc mewn addysg gorfforol.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Hwyluso Gweithgareddau Anturus

(20 credydau)

Addysg Greadigol trwy Symud

(20 credydau)

Addysg Gorfforol a Gweithgareddau Dŵr

(20 credydau)

Dewisol

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 32 pwynt UCAS neu’n amodol ar gyfweliad anffurfiol.

    Mae croeso arbennig i fyfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn cyd-destun chwaraeon.

  • Yn unol â’r athroniaeth sy’n tanategu’r radd, rhoddir pwyslais cryf ar ddulliau dysgu ac addysgu wrth asesu modylau.

    Er bod perfformiad personol o ansawdd da yn cael ei annog, nid yw’n ffocws asesiadau’r modylau ymarferol eu natur. Yn lle hyn, caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod yn llawer o’r asesiadau, a bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill.

    Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno dadl gytbwys â thystiolaeth trwy eu gwaith ysgrifenedig ffurfiol, yn ogystal â thrwy cyflwyniadau unigol a grŵp.

    Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil neu bortffolio beirniadol eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis.

    Ymhlith y mathau penodol o asesiad mae:

    • traethodau;
    • adroddiad labordy;
    • cyflwyniadau (grŵp ac unigol);
    • tasgau ymarferol; a,
    • arholiadau (papurau a welwyd ac na welwyd).
  • Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.
    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn 1af.

  • Ewch i’n adran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth. Mae myfyrwyr sy’n dewis astudio rhan o’r cwrs drwy’r Gymraeg hefyd yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

  • Gwnewch yn fawr o’r cyfle i dreulio semestr dramor mewn prifysgolion yn yr UD neu Ganada.

    Mae gennym gysylltiadau cyfnewid gyda’r sefydliadau a ganlyn:

    California State University, Fullerton
    Prifysgol Gogledd Carolina, Greensboro

  • Mae myfyrwyr sy’n graddio o’r rhagle radd hon yn debygol o fynd ymlaen i gwrs TAR cynradd neu gwrs Addysg Gorfforol uwchradd neu i’r rhaglen MA Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol mewnol.

    Ymhlith y llwybrau gyrfaol poblogaidd eraill mae:

    • Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (PESS) neu Swyddog Campau’r Ddraig;
    • Datblygu Chwaraeon;
    • Gwaith Ieuenctid;
    • Graddau uwch eraill; a,
    • Y gwasanaethau lifrai.