Skip page header and navigation

Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Rhan amser) (MSc)

Caerfyrddin
3 Blynedd Rhan amser

Mae’r radd meistr hon wedi’i dylunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno gweithio fel Ymarferwyr Maetheg Chwaraeon / Maethegwyr Chwaraeon.

Mae Maetheg Chwaraeon yn faes sy’n tyfu ac mae’r rhaglen wedi’i dylunio i fodloni anghenion y rheiny sy’n dymuno gweithio yn y maes hwn. Ar hyn o bryd, mae yna alw mawr am ymarferwyr sy’n meddu ar y sgiliau i weithio ym maes chwaraeon.

Bydd y rhaglen yn rhoi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen o fod yn Ymarferydd Maetheg Chwaraeon / Maethegydd Chwaraeon.

Mae’r cwrs newydd hon wedi’i dylunio i ganiatáu i’r myfyrwyr fynychu ar benwythnosau gyda chymysgedd o ddysgu a addysgir a chyfunol, sy’n galluogi i fyfyrwyr gydbwyso gwaith ac astudio.

Mae’r rhaglen wedi’i mapio i alluoedd y Gofrestr Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SENr) ac mae ganddo achrediad.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser
Achrededig:
Sport and Exercise Nutrition Register logo

Pam dewis y cwrs hwn

01
x
02
x
03
x

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bellach, ystyrir bod rôl maetheg mewn perfformiad chwaraeon yn rhan bwysig o waith paratoi a rhaglen hyfforddiant pob athletwr.

Byddwch yn dysgu am egwyddorion maetheg chwaraeon a ffitrwydd sydd wedi’u seilio ar ddamcaniaethau a thystiolaeth gyfoes. Bydd hyn yn eich galluogi i droi damcaniaeth yn arfer a rhoi cyngor i athletwyr o bob chwaraeon er mwyn iddynt berfformio hyd eithaf eu gallu.

Defnyddir meddalwedd arbenigol i ymgymryd â dadansoddiad dietegol a chynllunio prydau. Bydd myfyrwyr hefyd yn defnyddio’r labordy perfformio dynol i asesu lefelau iechyd a ffitrwydd unigolion.

Gorfodol

Dulliau Ymchwil mewn Iechyd, Addysg Awyr Agored a Llythrennedd Corfforol

(30 credydau)

Traethawd Hir Meistr mewn Iechyd, Addysg Awyr Agored a Llythrennedd Corfforol

(60 credydau)

Arfer Maetheg Chwaraeon Uwch

(30 credydau)

Maetheg Chwaraeon Gymhwysol

(30 credydau)

Maetheg a Metabolaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer dylai bod darpar fyfyrwyr wedi cwblhau gradd gyntaf mewn Maetheg, Dieteteg,

    Gwyddor Chwaraeon aac Ymarfer Corff, Bioleg Dynol, Ffisioleg Ymarfer Corff neu debyg, gan gael o leiaf dosbarth 2:2. Mae hon yn ystyriaeth bwysig os yw myfyrwyr yn dymuno dod yn ‘Registrant of the Sport and Exercise Nutrition Register Practitioner’.

    Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae’n rhaid i’r gofynion mynediad fod yn gyfwerth yn ei hanfod â’r rheiny a ddisgwylir gan fyfyrwyr y DU. Wrth gael eich derbyn, rhaid i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu mamiaith feddu ar ofynion Iaith Saesneg addas ar gyfer rhaglen Achrededig AfN, na chaiff fod yn llai na 6.5 IELTS (neu gyfwerth), heb un adran yn llai na 6.0.

  • Bydd amrywiaeth o asesiadau’n cael eu defnyddio i herio myfyrwyr ond hefyd ymestyn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio ym maes maetheg chwaraeon. Mae yna ffocws academaidd cryf yn y rhaglen ochr yn ochr â datblygiad sgiliau ymarferol.

    Bydd yr asesiadau’n cynnwys traethodau, adroddiadau labordy, astudiaethau achos, profion ymarferol a chyflwyniadau (unigol a grŵp).

    • Llety – fel arfer ar gael ar gampws Caerfyrddin
    • Gwiriad DBS
    • Tystysgrif Hylendid Bwyd.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion yn mynd ymlaen i weithio gydag athletwyr elit a hamdden ar draws ystod o chwaraeon. Mae llawer o Gyrff Llywodraethu Chwaraeon yn gofyn am o leiaf statws Ymarferydd i weithio gyda nhw.

    Mae yna fwy a mwy o gyfleoedd i weithio mewn amrywiaeth o chwaraeon neu i sefydlu busnes i weithio gydag athletwyr elit a hamdden. Mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw.
    Hefyd, mae ein darlithwyr yn ymarferwyr eu hunain a chanddynt gyfoeth o brofiad sy’n helpu i lywio eich gyrfa.