Skip page header and navigation

Rheolaeth Chwaraeon (Rhan amser) (BA Anrh)

Abertawe
6 Blynedd Rhan amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglenni Rheolaeth Chwaraeon yn canolbwyntio ar y datblygiadau diweddar yn y byd chwaraeon lleol, rhanbarthol a rhyngwladol a byddant yn rhoi i chi ystod o sgiliau – Hyfforddi, Mentora, Arweinyddiaeth a Rheolaeth – felly gallwch ddilyn ystod eang o yrfaoedd o fewn y maes.

Mae chwaraeon yn debygol o chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu adfywiad ôl-Covid trwy’r effaith gymdeithasol a gaiff gweithgarwch corfforol, gan wella iechyd y genedl, y cynnydd mewn athletau hamdden, a manteision economaidd cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr. Mae’r datblygiadau hyn yn argoeli’n dda i ragolygon gwaith hir dymor ein graddedigion, o ymyraethau hyfforddi ac iechyd i arwain prosiectau a rheoli timau datblygu.

Mae’r rhaglen Rheolaeth Chwaraeon yn gofyn i chi ddod yn ddysgwr annibynnol fel bod gennych yr aeddfedrwydd i gasglu gwybodaeth, dadansoddi cynnwys ac adnabod argymhellion allweddol ar gyfer gwahanol randdeiliaid. Mae’r rhain yn nodweddion hanfodol ar gyfer gweithio yn y sector a chânt eu datblygu yn ystod eich astudiaethau.

Rydym yn darparu amrywiaeth o brofiadau sy’n hyrwyddo eich gallu i gaffael, dehongli, darparu, cyflwyno ac adfyfyrio ar eich profiadau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
O ganlyniad i ymagwedd gyfeillgar y Brifysgol, gellir nodi anghenion dysgu yn gynnar a threfnu cymorth i wella sgiliau. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth i anghenion arbenigol.
02
Ceir tîm cymorth dysgu sy’n cynnal gweithdai a thiwtorialau rheolaidd mewn datblygu sgiliau sylfaenol ac uwch.
03
Mae’r perthnasoedd gweithio agos rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr, a myfyrwyr a’u cyd-fyfyrwyr yn meithrin amgylchedd cadarnhaol ar gyfer dysgu gweithredol.
04
Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol.
05
Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i'w datblygu eu hunain.
06
Mae persbectif rhyngwladol y Brifysgol a’i hintegreiddiad gyda chyflogwyr a chymdeithasau proffesiynol yn gwarantu cynnwys perthnasol a chyfredol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ffocws cyffredinol y llwybr hwn yw darparu rhaglen astudio hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth helaeth am faterion a chysyniadau rheolaeth chwaraeon. Gwneir hyn yng nghyd-destun yr amgylchedd diwydiant chwaraeon ehangach ac i gynhyrchu graddedigion a chanddynt y sgiliau a’r galluoedd perthnasol i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.

Bydd y rhaglen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes rheolaeth chwaraeon a hamdden yn y dyfodol. Datblygir sgiliau a gwybodaeth gyrfa gynnar drwy astudio caffael sgiliau, prosesau hyfforddi a chyfarwyddo wrth gyflwyno damcaniaethau a materion allweddol sy’n effeithio ar y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Bydd y rhaglen yn datblygu fesul cam gan adeiladu ar fodylau sylfaen. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am reolaeth trwy fodylau cymhwysol a seiliedig ar waith maes sy’n gysylltiedig â rheolaeth o safbwynt chwaraeon.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cymhwyso'r Broses Hyfforddi

(20 credydau)

Rheoli Ffitrwydd a Llesiant

(20 credydau)

Chwaraeon, Gweithgaredd Corfforol a Chymdeithas

(20 credydau)

Strwythurau a Chyflenwi Chwaraeon

(20 credydau)

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Cymhwyso'r Broses Hyfforddi a Mentora Uwch

(20 credydau)

Cynllunio a Darparu Chwaraeon Cymunedol

(20 credydau)

Rheoli'r Amgylchedd Chwaraeon Proffesiynol ac Elît

(20 credydau)

Seilwaith, Dylunio a Gweithredu Chwaraeon

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Rheoli ac Arwain Sefydliadau Chwaraeon

(20 credydau)

Polisi Chwaraeon, Llywodraethu a Gwneud Penderfyniadau Tactegol

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol Digwyddiadau Chwaraeon

(20 credydau)

Yr Entrepreneur Datblygu Chwaraeon

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • BA - 80 o bwyntiau UCAS
    HND - 32 o bwyntiau UCAS gan gynnwys 60 o bwyntiau ar gyfer Safon Uwch neu gyfwerth


    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Nod y strategaeth asesu fydd cynorthwyo â datblygiad cytbwys cymwyseddau a gwybodaeth allweddol y diwydiant. Bydd yr asesiadau hefyd yn ceisio cynnal datblygiad mewn rheoli TGCh, cyfathrebu, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth ac arweinyddiaeth. Bydd y strategaethau’n cynnwys cydbwysedd o aseiniadau, astudiaethau gwaith maes, asesiadau ymarferol a, lle bo’n briodol, arholiadau.

  • £150 ar gyfer cit i fyfyrwyr Rheolaeth Chwaraeon a thaith addysg..

  • Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.

  • Mae gan y rhaglen gyfradd gyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd, gan gynnwys ym meysydd:

    • Datblygu Chwaraeon Cymunedol
    • Sefydliadau Chwaraeon Cenedlaethol
    • Rheolaeth Chwaraeon / Cyfleusterau Hamdden
    • Atyniadau Hamdden 
    • Timau Chwaraeon Proffesiynol 
    • Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol 
    • Swyddogion Ysgolion a Chlybiau 
    • Rheolaeth Iechyd a Ffitrwydd 
    • Y Cyfryngau Chwaraeon 
    • Diwydiannau cysylltiedig eraill (gwasanaethau cyhoeddus)

    Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.