Mae’r rhaglen MA Addysg Awyr Agored wedi’i datblygu er mwyn diwallu anghenion ymarferwyr a graddedigion sy’n gweithio ym maes addysg awyr agored yn y DU a thu hwnt. Mae’r rhaglen yn dod â damcaniaethau ac arfer ynghyd er mwyn datblygu dealltwriaeth lefel uwch o addysg awyr agored fel dull amgen o ddysgu.
Mae agwedd gymdeithasol-ddiwylliannol y rhaglen yn ei gwneud yn unigryw yn y DU, ac mae’n arwain at well ddealltwriaeth o ystod o faterion allweddol, gan gynnwys beth yw antur, yr ymdeimlad o le, addysgeg, dysgu anffurfiol, hwyluso dysgu drwy brofiad, perthynas â natur, a chymunedau awyr agored iach. Hefyd, mae’n cefnogi myfyrwyr i wneud darnau bychan o waith ymchwil sy’n buddio arfer seiliedig ar dystiolaeth.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
- Dysgu cyfunol (dau benwythnos ar gyfer pob modiwl yn ogystal â thiwtorialau a chymorth e-ddysgu)
- Dulliau asesu creadigol ac amrywiol
- Gallwch geisio am gymorth benthyciad i fyfyrwyr ôl-raddedig
- Rhwydweithiau helaeth a chysylltiadau proffesiynol â’r sector awyr agored
- Opsiynau astudio hyblyg i ddiwallu anghenion myfyrwyr gyda’r dewis o dair gwobr
- Cewch astudio’n llawn-amser (1-2 flynedd) neu’n rhan-amser (2-3 blynedd)
Siaradwyr gwadd o fri rhyngwladol - Gweithdai awyr agored ar benwythnosau sydd â ffocws ar ddysgu o brofiad a dysgu yn yr awyr agored
- Staff a myfyrwyr sy’n gwneud ac yn cyhoeddi gwaith ymchwil ac sy’n angerddol am addysgeg awyr agored
- Persbectif cymdeithasol-ddiwylliannol ar faterion allweddol
- Cewch ymuno â theithiau am brisiau arbennig
- Cymorth ariannol i gymhwyso â NGB
(30 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Cynefin Green Health Hub
Gwybodaeth allweddol
-
Rhaid i raddedigion sy’n ymgeisio feddu ar radd 2.1 o leiaf.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd heb raddau, ac yn ystyried profiad proffesiynol a phrofiad hamdden, cymwysterau addysg eraill, sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, a’ch dyheadau gyrfa.
Cyn gwneud cais, dylai darpar-ymgeiswyr ystyried y canlynol:
- A yw potensial Dysgu Awyr Agored i gynnig dull amgen o ddysgu ac addysgu yn eich ysbrydoli chi?
- A ydych chi’n awyddus i ddysgu gan ddiwylliannau eraill?
- A ydych chi’n awyddus i wella’ch dealltwriaeth a’ch arbenigedd, a hynny er mwyn datblygu eich gwaith ar hyn o bryd neu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd?
- A ydych chi eisiau newid ffordd eraill o fyw, eu hiechyd a’u lles er gwell?
- A ydych chi’n awyddus i ennill cymhwyster academaidd lefel uwch a fydd yn gwella eich cyfleoedd gyrfa?
Os felly, dyma’r rhaglen Meistr i chi!
-
Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod o dechnegau asesu sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau ar lefel ôl-raddedig. Mae’r rhain yn cynnwys: cyflwyniadau seminar, cynigion gwaith ymchwil, adroddiadau ymchwil, traethodau, dyddiaduron myfyriol, cyfweliadau academaidd a blogiau.
Bydd pob asesiad yn cysylltu damcaniaethau ag arfer, ac yn gofyn i fyfyrwyr i wneud gwaith ymchwil empirig er mwyn datblygu eu sgiliau beirniadol ac er mwyn magu damcaniaeth bersonol tuag at Addysg Awyr Agored sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
-
Nid yw ffioedd y cwrs yn cynnwys:
- Llety yn ystod y gweithdai penwythnosol a chostau byw. (Rhaid i’r rhain gael eu hysgwyddo gan y myfyriwr.)
- Mae amrywiaeth o westai rhesymol, llety gwely a brecwast a bwytai ar gael ar y safle ac yn yr ardal leol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd y radd yn arbennig o werthfawr i ymarferwyr awyr agored sydd yn:
- Awyddus i ddatblygu eu gyrfaoedd fel athrawon, rheolwyr canolfannau, gweithwyr ieuenctid, swyddogion datblygu cymunedol, swyddogion addysg amgylcheddol, tywyswyr antur, hyfforddwyr awyr agored a graddedigion diweddar.
- Dymuno ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Ystyried astudiaeth bellach ar lefel PhD
Bydd o ddiddordeb i ymarferwyr awyr agored sydd:
- Yn chwilfrydus ac ag agwedd feirniadol
- Yn cael eu hysbrydoli gan botensial Dysgu Awyr Agored i gynnig dull amgen o ddysgu ac addysgu
- Yn awyddus i herio eu credoau eu hunain ac i ddysgu gan ddiwylliannau eraill