Skip page header and navigation

Peirianneg Fodurol (Llawn amser) (BEng Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
112 o Bwyntiau UCAS

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes Peirianneg Fecanyddol - Complete University Guide 2023

Mae’r ddegawd nesaf yn addo bod yn eithriadol o gyffrous a disgwylir newidiadau sylweddol yn y diwydiant modurol. Golyga’r symud o foduron tanio mewnol tuag at bwerwaith hybrid a thrydanol sy’n golygu bod angen sgiliau peirianneg newydd. Mae’r brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant Modurol i roi i fyfyrwyr y wybodaeth a’r brwdfrydedd dros gerbydau modurol perfformio a phrif ffrwd, ymarferol.

Yn ddiweddar, mae’r Brifysgol wedi buddsoddi’n drwm yn ei chyfleusterau peirianneg a champws newydd. Yn fyfyriwr yn y rhaglen Peirianneg Fodurol, bydd gennych fynediad i’n gweithdai modurol penodol, labordai diagnostig peiriannau, dynamometrau siasi, cyfleusterau pwerwaith hybrid/trydan a’n cyfleusterau ffabrigadu a pheiriannu.

Bydd y cwrs yn datblygu ffiseg sylfaenol a sgiliau peirianneg mewn ffordd cyd-destunol trwy ddatblygu’r car, ei grogiant, reid, dull trin ac NVH (Sŵn, Dirgryniad ac Aflafarwch). Rhoddir pwysigrwydd i ddatblygiad y pwerwaith wrth i ni symud tuag at danwydd cynaliadwy ac uwch dechnolegau batri.

Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgwyd yn y modylau i gymwysiadau modurol yn y byd go iawn.

Mae’r graddau Baglor a ganlyn wedi’u hachredu i nodi eu bod yn bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, i gofrestru ar gyfer Peiriannwr Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer carfanau derbyn myfyrwyr o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023: BEng (Anrh) Peirianneg Fodurol (Llawn Amser, 3 Blynedd; EngC cyf 15956)

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
H330
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dulliau addysgu o’r radd flaenaf mewn hylosgiad a dylunio peiriannau.
02
Labordy cerbydau trydan pwrpasol.
03
Wedi’i leoli ar gampws o’r radd flaenaf a adeiladwyd yn unswydd.
04
Cyflogadwyedd o 85%
05
Mae 85% o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio a/neu i astudio 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21)
06
2il Am Fodlonrwydd Myfyrwyr mewn Peirianneg Fecanyddol Complete University Guide 2023

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae diwydiant Modurol y DU a’r holl fyd wedi gweld datblygiadau technolegol enfawr yn y blynyddoedd diweddar ac er gwaethaf y pwysau economaidd y mae’r diwydiant wedi’u hwynebu, mae’n dal i dyfu.

Mae’r heriau technolegol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu wrth gyflawni buddion o ran effeithlonrwydd ym mhob math o gerbyd, yn sgil deddfwriaethau fwyfwy caeth ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, wedi arwain at gynnydd yn y galw am Beirianwyr Modurol uchel eu sgil.

Dros y degawdau, mae ein graddedigion wedi dangos y gallu i ymateb i anghenion cyflogwyr ac yn cael eu cydnabod yn raddedigion sy’n gallu bwrw iddi’n syth a chyflawni’r dasg, wedi’u tanategu gan wyddor peirianneg fecanyddol craidd a’i gymhwysiad i ddylunio a datrys ystod o broblemau peirianneg yng nghyd-destun y diwydiant peirianneg chwaraeon moduro.

Mae’r rhaglenni Peirianneg Modurol wedi’i datblygu i baratoi myfyrwyr ar gyfer anghenion penodol y diwydiant hwn, gan gynnwys dylunio, gweithgynhyrchu, ansawdd a pheirianneg systemau - sydd i gyd yn hanfodol i weithrediad peirianneg cerbydau modern.

Bydd meysydd astudio arbenigol, yn cynnwys uwch ddylunio injans a deinameg cerbydau, yn eich galluogi i ffocysu ar feysydd o ddiddordeb arbenigol y gellir eu datblygu yn y modylau Grŵp a Phrosiect Mawr.

Mewn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau allgyrsiol sy’n darparu profiad rhagorol ar gyfer pob math o yrfa ym maes peirianneg modurol y gellir eu cysylltu â’ch gwaith prosiect ac aseiniad.

Caiff ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol (Llawn amser 3 Blynedd; EngC cyf 15956) ei hachredu i nodi ei bod yn bodloni gofynion academaidd, yn rhannol, i gofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reolydd y DU, sef y Cyngor Peirianneg.

Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng).

Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn fwy tebygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Gorfodol

Dulliau Dadansoddol

(20 credydau)

Dylunio a Deunyddiau Peirianneg

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Technoleg Cerbydau

(20 credydau)

Systemau Rheoli Trydanol

(20 credydau)

Gweithdy ac Arfer

(20 credydau)

Gorfodol 

Systemau Gyriant Amgen

(20 credydau)

Thermodynameg a Hylosgi

(20 credydau)

Rheoli Peirianneg

(20 credydau)

Systemau Siasis Modurol

(20 credydau)

Prosiect Dylunio Grŵp

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAE)

(20 credydau)

Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Reid, dull trin ac NVH

(20 credydau)

Dylunio Pwerwaith Cyfoes

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Deunyddiau Modurol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 112 pwynt (280 cynt) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

    Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus.

    Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

  • Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau papur.

  • Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae’r galw uchel cyfredol am raddedigion peirianneg modurol wedi’i adlewyrchu yn y canran uchel o’n myfyrwyr sy’n cael eu drafftio i swyddi llawn amser neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis o orffen eu hastudiaethau.

    Mae gweithgynhyrchwyr mawr y DU a chyflenwyr Haen 1 yn amsugno’r rhan fwyaf o’n graddedigion, sydd hefyd yn wir am gwmnïau ymchwil ac ymgynghori.

    Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fael gyrfaoedd llwyddiannus iawn mewn cwmnïau fel Jaguar Land Rover, Ford, McLaren Automotive, Mahle Powertrain, JCB yn ogystal â chwmnïau chwaraeon moduro fel AMG Mercedes, Williams F1 a Force India.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau