Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Peirianneg Systemau Electronig Mewnblanedig (BEng Anrh)

Abertawe
4 blynedd
Lefel 3

Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ganolbwyntio ar gymhwyso theori’n ymarferol wrth gynnal trylwyredd academaidd.

Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu’r wybodaeth am beirianneg drydanol ac electronig sydd ei hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern. 

Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel MATLAB, Xilinx, Mentor Graphics a Visual Development Studio Microsoft.

Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf, a fu’n bosibl drwy roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments.  Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol gyda’r dechnoleg orau sy’n cael ei defnyddio mewn diwydiant ar hyn o bryd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs Systemau Electronig Mewnblanedig hwn yn datblygu gwybodaeth am y systemau caledwedd a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer cyfrifiaduron modern. Hefyd, mae’n canolbwyntio ar electroneg analog, electroneg ddigidol, microbroseswyr a phrosesu signalau digidol a chyfathrebu. 

Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab , Xilinx, Mentor Graphics a Visual Development Studio Microsoft. 

Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a systemau datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf, a wnaed yn bosibl drwy roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o’r dechnoleg orau a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn diwydiant. 

Nod gyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r sgiliau i weithio yn y diwydiannau systemau cyfrifiadurol ac electroneg. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon. 

Mae gan gyflogwyr feddwl mawr o’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy greu a rheoli datrysiadau meddalwedd a chaledwedd yn rhan o dîm.

Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol

(10 credydau)

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Signalau a Systemau

(10 credydau)

C Mewnblanedig

(20 credydau)

Sgiliau Astudio

(10 credydau)

Micros Perifferolion a Rhyngwynebau

(20 credydau)

Sgiliau Gweithdy ar gyfer Electroneg

(10 Credydau)

Peirianneg Drydanol

(20 credydau)

Electroneg I

(20 credydau)

Trawsddygiaduron a Chyflyru Signalau

(20 credydau)

Ymbelydredd Electromagnetig

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Dosbarthedig

(20 credydau)

Peirianneg a Rheoli Prosiectau

(20 Credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy Cymhwysol

(20 credydau)

Electroneg II

(20 credydau)

Dylunio Systemau Electronig

(20 credydau)

Electroneg a Gyriannau Ynni

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau labordy a sesiynau ymarferol. Asesir cynnydd drwy gyfuniad o waith ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, arholiadau a phrosiectau unigol. 

    Yn aml asesir modylau drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gallai marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modwl. Asesir gwaith prosiect drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad. 

    Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd y prosiect blwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a adeiladwyd drwy’r cwrs i ddatrys problem beirianneg go iawn yn y gweithle. 

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau