Skip page header and navigation

Peirianneg Fecanyddol (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am Beirianneg Fecanyddol.

Gall fod gan fyfyrwyr amrywiaeth o gymwysterau graddau israddedig o gefndir peirianneg fecanyddol, dylunio, sifil neu weithgynhyrchu. Yn ogystal, mae hefyd yn helpu rheolwyr profiadol iawn i ychwanegu cymwysterau addysgol at eu gwybodaeth.

Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar y sgiliau y mae peirianwyr mecanyddol yn gofyn amdanyn nhw. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys: methodolegau darbodus ac ystwyth, technegau six sigma, rheoli ansawdd, rheoli cadwyni cyflenwi a chaffael.

Caiff myfyrwyr set o sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi bri mawr arni.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r diwydiant.
02
Astudiwch ar ein campws o’r radd flaenaf gwerth £350m yng Nglannau Abertawe.
03
Cysylltiadau helaeth â’r diwydiant a phrosiectau diwydiannol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu’r galw cynyddol am arbenigwyr peirianneg fecanyddol. Mae’r rhaglen yn archwilio meysydd pwnc allweddol oddi mewn i amgylchedd peirianneg fecanyddol.

Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau myfyrwyr mewn rheolaeth gweithrediadau ym maes gweithgynhyrchu, cydosod ac amgylcheddau gwasanaethau wrth ddatblygu’n gynhwysfawr sgiliau six sigma a sgiliau rheoli prosiectau.

Mae’r ddisgyblaeth yn cofleidio meysydd allweddol megis rheoli ansawdd a rheoli cadwyni cyflenwi ynghyd â’r sgiliau dylunio y mae eu hangen ar beirianwyr diwydiannol.

Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu

(20 credydau)

Systemau Darbodus ac Ystwyth

(20 credydau)

Mecanweithiau Methiant Deunyddiau

(20 credydau)

Rheoli Ansawdd mewn Amgylchedd Gweithredol

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Uniondeb Strwythurol a Gwerthuso Deunyddiau

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

    • Gradd anrhydedd dosbarth 2.2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Sgôr GPA o 2.5 neu’n uwch.
    • Mae natur y rhaglen o’r fath fel y caiff ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd eu hystyried.

    Cymwysterau cyfwerth

    • Ystyrir cymwysterau cyfwerth ar gyfer mynediad ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai’r brifysgol yn ystyried ymgeisydd sydd â HND da, ynghyd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol. Byddai disgwyl i ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais.

    Sgiliau eraill a ystyrir

    • Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd; rydym yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd.
    • Ceisir tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol, i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.
  • Mae asesu ar y rhaglen feistr yn gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gallai asesiad arferol ofyn i chi ymchwilio i broblem yn y diwydiant a gwneud awgrymiadau am welliannau gan ddefnyddio’r dulliau a’r technegau a ddysgwyd gennych mewn modwl arbennig neu ar draws y rhaglen.

    Mae’r modwl Prosiect Meistr 60 credyd yn gofyn i chi gyflwyno traethawd hir neu bortffolio o hyd at 15,000 o eiriau. Mae’n adeiladu ar y gwaith a’r sgiliau rydych chi wedi eu cael trwy gwblhau’r modylau blaenorol ar y cwrs.

    Cewch chi eich cefnogi trwy eich aseiniadau gan eich tiwtoriaid cwrs. Mae rhagor o help ar gael o raglen Sgiliau Academaidd a Gwybodaeth y Llyfrgell. 

  • Mae’n bosibl llenwi’r cwrs hwn heb greu unrhyw gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl talu’r costau a ddaeth i’w rhan trwy gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan y DU brinder peirianwyr; bydd graddedigion y rhaglen hon mewn sefyllfa dda i lwyddo ym marchnad swyddi’r DU.

    Mae’r rhaglen hon yn rhoi ystod eang o sgiliau proffesiynol a chymwyseddau sy’n drosglwyddadwy mewn sectorau busnes ac o’r naill sector i’r llall. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i dyfu mewn hyder trwy’r rhaglen astudio.

    Y cyfleoedd gyrfa arferol yw rheolwr sifftiau, goruchwyliwr cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, cynllunio ac amserlenni, rheolwr/cyfarwyddwr gweithrediadau.

    Mae ein holl raddedigion sydd wedi astudio cyrsiau meistr rhan-amser tebyg wedi cael dyrchafiad wrth astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, y maen nhw wedi’u priodoli i’w cymhwyster.

    Elwodd graddedigion iau o well posibiliadau cyflogaeth a chanfuwyd eu bod yn gallu cael swydd yn beiriannwr llinell, peiriannwr ansawdd ac arbenigwr cadwyni cyflenwi.

    Bellach mae nifer o gwmnïau wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn ofyniad allweddol er mwyn sicrhau dyrchafiad neu sydd â swydd benodol.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau