Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am Beirianneg Fecanyddol.
Gall fod gan fyfyrwyr amrywiaeth o gymwysterau graddau israddedig o gefndir peirianneg fecanyddol, dylunio, sifil neu weithgynhyrchu. Yn ogystal, mae hefyd yn helpu rheolwyr profiadol iawn i ychwanegu cymwysterau addysgol at eu gwybodaeth.
Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar y sgiliau y mae peirianwyr mecanyddol yn gofyn amdanyn nhw. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys: methodolegau darbodus ac ystwyth, technegau six sigma, rheoli ansawdd, rheoli cadwyni cyflenwi a chaffael.
Caiff myfyrwyr set o sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi bri mawr arni.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu’r galw cynyddol am arbenigwyr peirianneg fecanyddol. Mae’r rhaglen yn archwilio meysydd pwnc allweddol oddi mewn i amgylchedd peirianneg fecanyddol.
Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau myfyrwyr mewn rheolaeth gweithrediadau ym maes gweithgynhyrchu, cydosod ac amgylcheddau gwasanaethau wrth ddatblygu’n gynhwysfawr sgiliau six sigma a sgiliau rheoli prosiectau.
Mae’r ddisgyblaeth yn cofleidio meysydd allweddol megis rheoli ansawdd a rheoli cadwyni cyflenwi ynghyd â’r sgiliau dylunio y mae eu hangen ar beirianwyr diwydiannol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
- Gradd anrhydedd dosbarth 2.2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Sgôr GPA o 2.5 neu’n uwch.
- Mae natur y rhaglen o’r fath fel y caiff ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd eu hystyried.
Cymwysterau cyfwerth
- Ystyrir cymwysterau cyfwerth ar gyfer mynediad ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai’r brifysgol yn ystyried ymgeisydd sydd â HND da, ynghyd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol. Byddai disgwyl i ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais.
Sgiliau eraill a ystyrir
- Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd; rydym yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd.
- Ceisir tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol, i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.
-
Mae asesu ar y rhaglen PGDip yn gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gallai asesiad arferol ofyn i chi ymchwilio i broblem yn y diwydiant a gwneud awgrymiadau am welliannau gan ddefnyddio’r dulliau a’r technegau a ddysgwyd gennych mewn modwl arbennig neu ar draws y rhaglen.
Cewch chi eich cefnogi trwy eich aseiniadau gan eich tiwtoriaid cwrs. Mae rhagor o help ar gael o raglen Sgiliau Academaidd a Gwybodaeth y Llyfrgell.
-
Mae’n bosibl llenwi’r cwrs hwn heb greu unrhyw gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl talu’r costau a ddaeth i’w rhan trwy gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae gan y DU brinder peirianwyr; bydd graddedigion y rhaglen hon mewn sefyllfa dda i lwyddo ym marchnad swyddi’r DU.
Mae’r rhaglen hon yn rhoi ystod eang o sgiliau proffesiynol a chymwyseddau sy’n drosglwyddadwy mewn sectorau busnes ac o’r naill sector i’r llall. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i dyfu mewn hyder trwy’r rhaglen astudio.
Y cyfleoedd gyrfa arferol yw rheolwr sifftiau, goruchwyliwr cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, cynllunio ac amserlenni, rheolwr/cyfarwyddwr gweithrediadau.
Elwodd graddedigion iau o well posibiliadau cyflogaeth a chanfuwyd eu bod yn gallu cael swydd yn beiriannwr llinell, peiriannwr ansawdd ac arbenigwr cadwyni cyflenwi.
Bellach mae nifer o gwmnïau wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn ofyniad allweddol er mwyn sicrhau dyrchafiad neu sydd â swydd benodol.