Prentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol (BEng Anrh)
Bwriad y rhaglen BEng Peirianneg Fecanyddol yw rhoi sylfaen drylwyr i fyfyrwyr mewn gwyddor peirianneg fecanyddol a’i chymhwyso wrth ddylunio a datrys amrywiaeth o broblemau peirianyddol.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a deunyddiau gweithgynhyrchu.
Mae ein BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol wedi’i hachredu’n un sy’n bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestriad Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reoleiddydd y DU, sef y Cyngor Peirianneg.
Mae achredu yn arwydd o sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennwyd gan y Cyngor Peirianneg yn Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol i chi ar gyfer cofrestru yn y pen draw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Beiriannydd Siartredig (CEng).
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn dysgu dylunio a deall y gofynion ynghylch y deunyddiau gorau ar gyfer cynhyrchion newydd ynghyd â datblygu deunyddiau newydd, i fodloni gofynion technoleg fodern.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg a bydd yn galluogi myfyrwyr i ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Rydym wedi paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth mewn cwmnïau bach a mawr. Enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi cyflogi graddedigion blaenorol yw Corus, Ford, Schaeffler, Robert Bosch a Visteon.