Skip page header and navigation

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Llawn amser) (DipAU)

Caerfyrddin
2 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen DipAU mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn gwrs dwy flynedd ran-amser sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i weithio ym myd chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.

Bydd gweithgareddau’r sesiynau a addysgir yn caniatáu i ddysgwyr drafod sut mae cymhwyso theori i arfer, a hynny mewn amrywiaeth o gyd-destunau sy’n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer corff. Bydd y pynciau hyn a sut y cânt eu defnyddio mewn sefyllfaoedd ymarferol yn cael eu hymchwilio ymhellach gydag astudiaethau achos ac adnoddau ar-lein.

Bydd dysgu a deall yn digwydd trwy wneud gweithgareddau sy’n rhoi pwyslais ar ymgysylltu ag adnoddau sy’n seiliedig ar waith ymchwil, ac ar gynnal deialog gyda chyd-fyfyrwyr ac â thiwtoriaid. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SES5
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i gael eich cofrestru ar Gyfeirlyfr Ymarfer Corff a Ffitrwydd CIMSPA.
02
Defnydd o gyfleusterau hyfforddi ffitrwydd pwrpasol a labordai gwyddor ymarfer corff.
03
Cyfleoedd i weithio gyda chleientiaid mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
04
Cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â staff yr Academi Chwaraeon sy'n darparu sesiynau hyfforddi, sesiynau cryfder a chyflyru a phrofion ffitrwydd.
05
Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd.
06
Yn y 10 cwrs Gwyddor Chwaraeon gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Blwyddyn Un

Nod y flwyddyn astudio gyntaf yw sefydlu sylfaen mewn ymarfer corff yn gysylltiedig ag iechyd, ynghyd â chyfle i ennill profiad a chymwysterau galwedigaethol gwerthfawr.

Yn ogystal â dysgu am theori anatomeg, ffisioleg, seicoleg a maetheg, gall myfyrwyr gyflawni dyfarniadau Hyfforddwr Campfa lefel 2 a Hyfforddwr Personol lefel 3. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddechrau cael gwaith rhan-amser o fewn y sector chwaraeon a ffitrwydd ochr yn ochr â’u hastudiaethau, yn ogystal â lleoliadau gwaith ymarferol.

Fel arfer mae darlithoedd yn cynnwys cyfuniad o theori ynghyd â sesiynau ymarferol yn ein labordai gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff a’n cyfleusterau hyfforddi, sydd â set dda o gyfarpar. Mae hyn yn sicrhau y caiff sgiliau ymarferol eu datblygu ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol.

Hefyd datblygir sgiliau academaidd a digidol er mwyn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynnal ymchwil ac i weithio mewn byd digidol sy’n newid yn barhaus.

Blwyddyn Dau

Yn yr ail flwyddyn mae’r ffocws yn symud yn fwy tuag at berfformiad mewn chwaraeon ac ymarfer corff, gyda modylau’n archwilio ffisioleg, biomecaneg, seicoleg a maetheg mewn cysylltiad â pherfformiad mewn chwaraeon.  

Caiff technegau uwch ar gyfer profi a dadansoddi eu datblygu, gan ddefnyddio cyfarpar o’r radd flaenaf megis dadansoddwyr nwyon ar-lein, gatiau golau a meddalwedd dadansoddiad fideo. 

Datblygir sgiliau ymchwil ynghyd â’r gallu i greu proffil proffesiynol, ar-lein ac yn rhyng-bersonol. 

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Hyfforddiant Personol

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Iechyd

(20 credydau)

Cinesioleg

(20 credydau)

Gorfodol 

Maetheg ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Asesiad Biomecanyddol o Berfformiad ac Anafiadau

(20 credydau)

Ymchwil mewn Iechyd, Ymarfer Corff ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Datblygu eich Proffil Proffesiynol (Lleoliad)

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, byddai disgwyl i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 96 o bwyntiau UCAS (Tariff 2017) gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau a/neu addysg gorfforol. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried ar eu rhinweddau eraill drwy broses gyfweld.

  • Caiff y radd ei hasesu’n bennaf drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth o astudiaethau achos.

  • Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.

    Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymhwyster ychwanegol, galwedigaethol yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cyrsiau hyn.

    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1.

    Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae 90% o’n graddedigion yn y maes hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis i raddio. Yn gyffredinol, mae graddau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau fel:

    • Ymchwil academaidd
    • Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
    • Ffisiolegydd ymarfer corff clinigol GIG
    • Hyfforddwr personol
    • Gwyddonydd chwaraeon (yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, cyrff llywodraethu, ayb)
    • Hyfforddwr cryfder a chyflyru
    • Addysgu
    • Chwaraeon ieuenctid