Skip page header and navigation

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Llawn amser) (CertHE)

Caerfyrddin
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Cwrs blwyddyn yw’r rhaglen Tyst AU mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff sy’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i weithio ym myd chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.

Bydd gweithgareddau’r sesiynau a addysgir yn caniatáu i ddysgwyr drafod sut mae cymhwyso theori i arfer, a hynny mewn amrywiaeth o gyd-destunau sy’n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer corff. Bydd y pynciau hyn a sut y cânt eu defnyddio mewn sefyllfaoedd ymarferol yn cael eu hymchwilio ymhellach drwy astudiaethau achos ac adnoddau ar-lein.

Bydd dysgu a deall yn digwydd trwy wneud gweithgareddau sy’n rhoi pwyslais ar ymgysylltu ag adnoddau sy’n seiliedig ar waith ymchwil, ac ar gynnal deialog gyda chyd-fyfyrwyr ac â thiwtoriaid.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SES6
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i gael eich cofrestru ar Gyfeirlyfr Ymarfer Corff a Ffitrwydd CIMSPA.
02
Defnydd o gyfleusterau hyfforddi ffitrwydd pwrpasol a labordai gwyddor ymarfer corff.
03
Cyfleoedd i weithio gyda chleientiaid mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
04
Cyfleoedd i weithio ochr yn ochr â staff yr Academi Chwaraeon sy'n darparu sesiynau hyfforddi, sesiynau cryfder a chyflyru a phrofion ffitrwydd.
05
Mynediad am ddim i’r ystafell iechyd, neuadd chwaraeon a phwll nofio i gefnogi diddordebau gradd.
06
Yn y 10 cwrs Gwyddor Chwaraeon gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Blwyddyn Un

Nod y flwyddyn astudio gyntaf yw sefydlu sylfaen mewn ymarfer corff yn gysylltiedig ag iechyd, ynghyd â chyfle i ennill profiad a chymwysterau galwedigaethol gwerthfawr. 

Yn ogystal â dysgu am theori anatomeg, ffisioleg, seicoleg a maetheg, gall myfyrwyr gyflawni dyfarniadau Hyfforddwr Campfa lefel 2 a Hyfforddwr Personol lefel 3.  Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddechrau cael gwaith rhan-amser o fewn y sector chwaraeon a ffitrwydd ochr yn ochr â’u hastudiaethau, yn ogystal â lleoliadau gwaith ymarferol.

Fel arfer mae darlithoedd yn cynnwys cyfuniad o theori ynghyd â sesiynau ymarferol yn ein labordai gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff a’n cyfleusterau hyfforddi, sydd â set dda o gyfarpar.  Mae hyn yn sicrhau y caiff sgiliau ymarferol eu datblygu ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol.

Hefyd datblygir sgiliau academaidd a digidol er mwyn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynnal ymchwil ac i weithio mewn byd digidol sy’n newid yn barhaus. 


 

Gorfodol
 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Hyfforddiant Personol

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Iechyd

(20 credydau)

Cinesioleg

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, byddai disgwyl i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 96 o bwyntiau UCAS (Tariff 2017) gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau a/neu addysg gorfforol. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried ar eu rhinweddau eraill drwy broses gyfweld.

  • Caiff y radd ei hasesu’n bennaf drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth o astudiaethau achos.

  • Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.

    Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymhwyster ychwanegol, galwedigaethol yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cyrsiau hyn.

    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1.

    Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae 90% o’n graddedigion yn y maes hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis i raddio. Yn gyffredinol, mae graddau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau fel:

    • Ymchwil academaidd
    • Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
    • Ffisiolegydd ymarfer corff clinigol GIG
    • Hyfforddwr personol
    • Gwyddonydd chwaraeon (yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, cyrff llywodraethu, ayb)
    • Hyfforddwr cryfder a chyflyru
    • Addysgu
    • Chwaraeon ieuenctid