Diwrnod Agored Birmingham
Beth a gewch chi wrth fynychu Diwrnod Agored Birmingham
Y digwyddiad hwn yw eich cyfle anffurfiol perffaith i archwilio, dod i wybod rhagor am eich pwnc dewisol a hyd yn oed godi nwyddau rhad ac am ddim i’ch cael chi’n barod am eich blwyddyn gyntaf. Ydych chi’n barod am eich pennod nesaf?
Cadwch le ar Ddiwrnod Agored Birmingham
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfleoedd i chi weld beth sydd gan leoliadau ein campysau i’w cynnig i chi, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym pan fyddwch yn dewis astudio yn PCYDDS. Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi gael cyfle i ofyn cwestiynau sy’n bwysig i chi. Cadwch le ar ein diwrnod agored nesaf neu cofrestrwch eich manylion fel y gallwn roi gwybod i chi am ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf
Mewn Diwrnod Agored ym Mirmingham, byddwch yn:
Archwilio Pynciau sydd ar gael ym Mirmingham
Busnes a Rheoli
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyfrifiadura
Cyfrifeg a Chyllid
Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar
Teithio i Firmingham
Teithio Gwyrdd
Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.