Skip page header and navigation

Llety i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Gall ein Tîm Llety eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r llety mwyaf addas tra byddwch yn astudio yn PCYDDS. 


Unwaith y byddwch chi wedi derbyn eich cynnig gan PCYDDS yn gadarn, mae’n bryd i chi ystyried ble byddwch yn byw tra byddwch yn astudio. 


Yng Nghaerfyrddin a Llambed mae ein myfyrwyr Rhyngwladol yn cael eu cartrefu yn neuaddau preswyl y brifysgol. Gwnewch eich cais gan ddefnyddio’r ddolen Hallpad. Bydd angen i chi fod wedi derbyn eich rhif myfyriwr i gael mynediad i’r porth. 


Ar gyfer Abertawe, Caerdydd, Birmingham a Llundain, lle mae llety myfyrwyr preifat ar gael, mae cymorth pellach ar gael trwy gysylltu â’r tîm llety.

Accordions

  • I wneud cais am lety ar ein campws yng Nghaerfyrddin neu yn Llambed defnyddiwch y ddolen isod, bydd angen i chi fod wedi derbyn eich rhif myfyriwr i gael mynediad i’r porth. 

contact

Myfyrwyr Caerfyrddin yn gwenu gyda phâr o gadeiriau plygu wedi'i brandio.

Cysylltu â'r Tîm Llety

Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.