Skip page header and navigation

Llety

Ydych chi’n bwriadu byw i ffwrdd o gartref wrth astudio? Beth am greu’r profiad prifysgol rydych chi wedi breuddwydio amdano? Mae ein holl lety yn ddiogel ac yn annibynnol.

Neuaddau Preswyl - Caerfyrddin

Mae ein lleoliad yng Nghaerfyrddin yn cynnig llety myfyrwyr ar y safle, gyda llawer o’r ystafelloedd hyn yn cael blaenoriaeth i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Gwnewch y campws yn gartref i chi, trwy fyw ychydig funudau o’ch dosbarthiadau, y llyfrgell a phopeth sy’n ymwneud â’r brifysgol.

Oddi ar y Campws - Abertawe, Caerdydd, Birmingham a Llundain

Dewiswch rhwng llety rhent preifat neu, yn y rhan fwyaf o’n lleoliadau, neuaddau myfyrwyr a redir yn breifat.

I gael gwybod mwy am eich opsiynau, dilynwch y ddolen ar gyfer y campws penodol isod.

Rankings

1st in UK for University Halls (WhatUni 2026)
1af yn y DU am Neuaddau a Llety Myfyrwyr (WhatUni 2026)

Universities UK - Cod Ymarfer

The Student Accommodation Code

Universities UK - Cod Ymarfer

Lluniwyd y Cod Ymarfer Llety fel datganiad o arfer da sy’n gallu newid a chael ei fireinio yn sgil profiad ac sy’n annog rheoli llety’n well.  Mae’r cod yn sicrhau bod preswylwyr yn elwa ar bolisïau a gweithdrefnau clir sy’n ymwneud â’r canlynol: 

  • Iechyd a Diogelwch 
  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio 
  • Lles Myfyrwyr 
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion disgyblu 
  • Ansawdd amgylcheddol 

Archwiliwch beth yw Byw fel myfyriwr yn PCYDDS

I gael gwell syniad o sut beth yw bywyd yn PCYDDS, edrychwch ar y fideo Byw fel Myfyriwr yn Abertawe. Mae’r fideo hwn yn rhoi mewnwelediad i’r gymuned fywiog o fyfyrwyr, gan arddangos amrywiol opsiynau llety myfyrwyr a phrofiadau go iawn myfyrwyr.

Os ydych chi’n barod i ddechrau ar eich taith, mae Tîm Llety PCYDDS yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r llety myfyrwyr gorau i chi. Allwn ni ddim aros i’ch croesawu i PCYDDS.

Crown Place Kitchen

Crown Place, Abertawe

“Dewisais fyw mewn Neuaddau Preifat i Fyfyrwyr oherwydd ei fod yn gyfleus iawn gyda’r holl filiau wedi’u cynnwys, gwahanol opsiynau ystafell a mynediad at gyfleusterau gwych. Mae fy llety wedi’i leoli mewn lleoliad hyfryd, yn agos i’r afon ac yn agos at fy narlithoedd. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys mannau cegin/bwyta cymunedol, campfa, cyfleusterau adloniant gydag ystafelloedd gemau a charaoce, sinema, lolfeydd a mannau astudio preifat. Mae parcio ar gael a darperir cyfleusterau golchi dillad hefyd.”

Aelod o staff yn helpu myfyriwr

Angen cymorth?

Mae’r Tîm Llety yma i’ch helpu chi i lywio’ch opsiynau a dod o hyd i’r hyn sy’n gweddu orau i’ch anghenion. P’un a oes gennych gwestiynau am letyau gosod i fyfyrwyr, mathau o ystafelloedd, prisiau, neu weithdrefnau ymgeisio, bydd ein tîm yn eich cefnogi chi drwy’r broses Glirio.