Beth yw Llythrennedd Corfforol?
Mae Llythrennedd Corfforol yn daith gydol oes sy’n dechrau yn ystod plentyndod cynnar, wrth i ni ddechrau darganfod sut mae ein cyrff yn symud ac yn rhyngweithio â’r byd o’n cwmpas. Trwy chwarae, archwilio, ac amrywiaeth o brofiadau corfforol, mae plant ifanc yn adeiladu’r sylfaen ar gyfer symud, hyder, a mwynhad o weithgarwch corfforol.
Ond nid yw Llythrennedd Corfforol yn gorffen gyda phlentyndod—ac nid yw’n ymwneud â chwaraeon yn unig. Mae’n cwmpasu pob math o symudiad, ar draws pob cyfnod o fywyd. Mae’n ymwneud â datblygu’r wybodaeth, y sgiliau, y cymhelliant, a’r hyder i fod yn egnïol mewn sawl ffordd wahanol, mewn sawl amgylchedd gwahanol.
Mae Llythrennedd Corfforol yn fwy na sgiliau corfforol. Mae’n ddull cyfannol o symud sy’n cefnogi iechyd, lles, a chyfranogiad gydol oes mewn gweithgaredd corfforol.
Diffiniadau o Lythrennedd Corfforol
Diffiniadau o Lythrennedd Corfforol
“Y cymhelliant, yr hyder, y cymhwysedd corfforol, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i werthfawrogi a chymryd cyfrifoldeb dros ymgysylltu â gweithgareddau corfforol am oes.” (Whitehead, 2016)
“Dysgu cyfannol gydol oes a gafwyd a’i gymhwyso mewn cyd-destunau symud a gweithgaredd corfforol. Mae’n adlewyrchu newidiadau parhaus sy’n integreiddio galluoedd corfforol, seicolegol, gwybyddol a chymdeithasol. Mae’n hanfodol i’n helpu i fyw bywydau iach a boddhaus trwy symud a gweithgaredd corfforol.” (Comisiwn Chwaraeon Awstralia)
Gweld Cyrsiau Cysylltiedig
Darllenwch fwy am Lythrennedd Corfforol ar wefan Cymdeithas Llythrennedd Corfforol Ryngwladol.
Dolenni Allweddol
Ein nod yw gosod y sylfeini ar gyfer gweithgarwch corfforol, iechyd, llesiant a deilliannau academaidd yn ystod plentyndod cynnar. Dysgwch ragor am yr hyfforddiant seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael i bobl sy’n gweithio gyda phlant.

Mae ein holl ymchwil wedi ei chymhwyso i ymarfer. Gallwch ddarllen sut mae ein hymchwil yn effeithio ar ganlyniadau i blant ifanc, rhieni, oedolion hŷn a chleifion, ac yn gwella iechyd a lles yn ein cymunedau.
