Skip page header and navigation

Cysylltu â’r Wifi

Rhwydwaith Diwifr Eduroam

Eduroam yw’r rhwydwaith diwifr at ddefnydd staff a myfyrwyr ar draws pob campws. Bydd eduroam hefyd yn rhoi mynediad i rwydweithiau diwifr unrhyw sefydliad arall ar draws y byd sy’n defnyddio eduroam.

Gwelwch ble arall y cewch fynediad i eduroam ar wefan eduroam.

Logo rhwydwaith ddiwifr eduroam.

Cysylltu’ch Dyfais Windows

Windows 10, 8/8.1, 7

 Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am y rhwydweithiau diwifr ar eich dyfais, cliciwch ar eduroam a chlicio ar y botwm i gysylltu.

Cysylltu’ch Dyfais Apple

Apple iMac, MacBook, iPad, iPhone ac iPod

 Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch eduroam a chlicio i gysylltu.

Cysylltu’ch Dyfais Android

Os byddwch yn newid eich cyfrinair PCYDDS rywbryd, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn rhoi eich cyfrinair newydd ar gysylltiad diwifr Eduroam eich dyfais. Agorwch ‘cysylltiadau di-wifr’, dewiswch Eduroam, a golygwch eich cyfrinair.

Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch eduroam a chlicio i gysylltu.

Cysylltu’ch Dyfais Chromebook

Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch eduroam a chlicio i gysylltu.

Dyfeisiadau Eraill

Os nad yw eich dyfais wedi ei rhestru neu fod angen i chi osod eich dyfais â llaw;

Gwasanaeth Di-wifr i Westeion

Ymwelydd â’r Drindod Dewi Sant yn siarad ag un o staff yr Hwb.

Rhwydwaith diwifr Gwesteion Y Drindod Dewi Sant yw’r prif rwydwaith diwifr ar gyfer Gwesteion Y Drindod Dewi Sant ac ymwelwyr. 

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?

Gwesteion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ymwelwyr. 

Sut y gallaf gysylltu â chyswllt Gwesteion Y Drindod Dewi Sant?

Nid oes angen gwybodaeth flaenorol gan TaSG er mwyn manteisio ar y gwasanaeth hwn, mae’n darparu mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer cyfnod o 24 awr.

I gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  1. Ar eich dyfais o dan rwydwaith diwifr, dewiswch “UWTSD Guest” (nid oes angen unrhyw allwedd diogelwch).
  2. Ar ôl ei gysylltu, cliciwch “Get Online”.

Gosodiad Eduroam i Ymwelwyr

Mae modd i ymwelwyr ddefnyddio eduroam ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Fodd bynnag, bydd angen i chi gysylltu â gwasanaeth cymorth TG eich sefydliad i gael eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair. Sylwer: tra byddwch yn cysylltu ag eduroam ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fod Polisi Defnydd Derbyniol yn berthnasol i bob defnyddiwr westai.