Cefnogi’r Drindod Dewi Sant
Cefnogi’r Drindod Dewi Sant
Efallai y byddech chi’n disgrifio eich amser yma fel rhai o flynyddoedd gorau eich bywyd, felly beth am wneud hynny’n realiti i eraill drwy roi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol.
Rydym ni’n credu’n gryf mai cyn-fyfyrwyr yw ein cefnogwyr a’n llysgenhadon gorau. Mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy wrth ein helpu i ddarparu’r profiadau gorau posibl ar gyfer ein dysgwyr presennol ac yn y dyfodol.
Gallwch chi gefnogi ein myfyrwyr a’n darpar fyfyrwyr mewn nifer o ffyrdd.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os gallwch gynnig unrhyw gefnogaeth.
Ffyrdd o gefnogi
Cofrestrwch eich diddordeb i ddod yn fentor
Fel aelod o’n cymuned o gyn-fyfyrwyr, gallai eich gwybodaeth a’ch profiad chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr heddiw. Os ydych chi’n barod i helpu i lunio’r genhedlaeth nesaf o raddedigion PCYDDS, cofrestrwch eich diddordeb heddiw i fod yn rhan o’r rhaglen foddhaus hon.
Cyfrannu at yr arolwg Hynt Graddedigion
Drwy gwblhau’r arolwg Hynt Graddedigion, gall graddedigion newydd ein helpu i roi cipolwg i ddysgwyr y presennol a’r dyfodol ar gyfleoedd a chyrchfannau gyrfa posibl yn seiliedig ar yr hyn y byddwch yn dweud yr ydych yn ei wneud 15 mis ar ôl i chi orffen eich astudiaethau.
Sgwrs neu weithdy taith gyrfa
Rhannwch eich gwybodaeth a’ch profiadau trwy fynd yn ôl at eich cwrs neu ddisgyblaeth academaidd i gynnig darlith fel darlithydd gwadd neu weithdy i fyfyrwyr presennol. Efallai bod gennych stori yr hoffech chi ei rhannu am eich taith ar ôl graddio - mae’r effaith mae’r straeon hyn yn ei chael ar brofiad myfyrwyr yn amhrisiadwy. Maen nhw’n gallu agor drysau ac ysbrydoli.
Hysbysebu cyfleoedd swyddi
Oes gan eich cwmni swydd wag i’w llenwi? Beth am gefnogi cyn-fyfyrwyr eraill y Drindod Dewi Sant trwy bostio’r cyfleoedd hyn ar ein bwrdd swyddi sydd ar gyfer myfyrwyr a’r rheiny sydd wedi graddio o fewn y tair blynedd diwethaf. Crëwch gyfrif ‘cyflogwr’ a dilynwch y camau.
Carem i chi gwrdd â’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr presennol wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau gyrfaoedd a rhwydweithio ar ein campysau. Beth am ddod i un o’r rhain i hyrwyddo’ch cwmni a rhannu eich arbenigedd?
Cynnig profiad gwaith
Fel y gwyddoch bydd ein myfyrwyr yn elwa ar gymaint o brofiad â phosibl pan fyddant yn gadael y brifysgol. Os ydych yn berchennog busnes neu mewn sefyllfa o fewn eich cwmni i allu cynnig profiad gwaith neu interniaethau ac yn gallu cynnig profiad sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r cyrsiau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Rhannu eich stori trwy gyfweliad neu astudiaeth achos
Peintiwch ddarlun o fywyd ar ôl graddio ac ysbrydolwch y genhedlaeth nesaf trwy rannu’ch stori drwy newyddion, astudiaeth achos, neu flog y gellir ei ddefnyddio i farchnata a hyrwyddo’r Drindod Dewi Sant a’ch cwrs astudio.