Skip page header and navigation

Cymorth â’r Rhyngrwyd yn y Cartref

Cyflymderau gwael neu ddim opsiynau band eang gartref?

Os ydych yn gweithio/astudio gartref a bod gennych gyflymderau rhyngrwyd gwael iawn neu ddim darpariaeth band eang yn eich ardal, bwriad y wybodaeth yma yw eich helpu chi.

Gwiriwch Gyflymder eich Band Eang

Yn gyntaf, gwiriwch pa gyflymder band eang y gall eich rhyngrwyd cartref ei gyrraedd trwy ddefnyddio’r gwiriwr band eang hwn. Gallwch drefnu’r canlyniadau yn ôl cyflymder i weld beth y dylech fod yn gallu ei gael.

  1. Os yw’r cyflymder yn fwy na 10Mb, gallwch wirio’ch cyflymder gwirioneddol trwy gynnal y prawf cyflymder band eang hwn. Ar ôl gwneud hynny, edrychwch ar ein cynghorion o ran rhyngrwyd yn y cartref.
     
  2. Os yw’r cyflymder yn llai na 10Mb, darllenwch ymlaen am opsiynau pellach.

Cyflymder is na 10Mb?

Os ydych chi’n byw mewn ardal lle nad oes band eang ar gael neu lle mae’r cyflymderau sydd ar gael yn isel iawn, mae opsiynau ar gael i chi.

  • Os na allwch gael cyflymder lawrlwytho o 10Mpbs, mae Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Llywodraeth y DU ar gyfer band eang yn caniatáu i chi ofyn am gysylltiad wedi’i uwchraddio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan BT neu drwy ffonio 0800 783 0223.
  • Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru’n darparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd ar gyfer eiddo unigol.
  • Gwiriwch â’ch awdurdod lleol i weld a oes ganddynt gynlluniau i gyflwyno band eang yn eich ardal gan ddefnyddio’r Gronfa Band Eang Lleol.
  • Os ydych yn rhan o gymuned wledig, gall cymorth fod ar gael gan Lywodraeth y DU i gysylltu â band eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid. Gall y rheiny sydd â chyflymderau is na 30Mbps fod yn gymwys am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau hyn.

Allwedd Band Eang Cymru

Mae’r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru, neu ariannu’r costau hynny’n rhannol. 

Sylwch - rhaid i gysylltiadau newydd drwy’r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder – gan o leiaf ddyblu eich cyflymderau lawrlwytho cyfredol. Er enghraifft, rhaid i gysylltiad cyfredol o 5Mbps wella i 10Mbps o leiaf.

Fel arfer, bydd y grant hwn yn talu am y costau gosod a chaledwedd ar gyfer technolegau amgen megis band eang ffonau symudol neu loeren ond ni fydd yn talu am unrhyw gostau misol parhaus ar gyfer y gwasanaethau a gynigir.

Rydym hefyd wedi creu rhestr isod o gyflenwyr lleol (a chenedlaethol) posibl y gallech ymchwilio iddynt a chysylltu â nhw. Nid yw unrhyw un o’r cyflenwyr hyn yn gysylltiedig â’r Brifysgol ond gall pob un ohonynt ddarparu gwasanaethau band eang amgen drwy system grant Allwedd Band Eang Cymru yn ôl eu gwefannau.

  • Band Eang Ffonau Symudol 
  • Band Eang Di-wifr 

Awgrymiadau a Chymorth ar Gyfer Defnyddio’r Rhyngrwyd Gartref

  • I gael y cyflymderau band eang gorau, defnyddiwch gebl ethernet i gysylltu’ch cyfrifiadur yn uniongyrchol â’ch llwybrydd yn hytrach na defnyddio wi-fi.
  • Lle bynnag y bo modd, ceisiwch beidio â defnyddio gwifren estyn teleffon, oherwydd gall y rhain achosi ymyrraeth a allai leihau eich cyflymder.
  • Cadwch eich llwybrydd ymlaen gymaint ag y gallwch. Gall troi eich llwybrydd ymlaen a’i ddiffodd yn gyson leihau cyflymderau cyffredinol oherwydd bydd darparwyr yn gweld hyn fel problemau llinell. 
  • Datgysylltwch ddyfeisiau. Po fwyaf o ddyfeisiau sydd wedi’u cysylltu â’ch wi-fi, yr isaf yw’r cyflymder a gewch. Mae dyfeisiau fel tabledi a ffonau clyfar yn aml yn gweithio yn y cefndir, felly ceisiwch ddiffodd derbyniad wi-fi ar y rhain pan nad ydych yn eu defnyddio. 

Ceisiwch ddechrau’r galwadau hynny ar amseroedd llai cyffredin, yn hytrach nag ar yr awr.

  • Lawrlwythwch fideos o flaen llaw os oes modd, yn hytrach na defnyddio gwasanaethau ffrydio pan fydd rhywun arall yn ceisio defnyddio’r rhyngrwyd.
  • Lleolwch eich llwybrydd rhyngrwyd mor bell â phosibl oddi wrth ddyfeisiau eraill a allai fod yn ymyrryd â’r signal ac mor uchel â phosibl, megis ar fwrdd neu silff yn hytrach nag ar y llawr.
  • Mae dyfeisiau a all ymyrryd â signalau llwybrydd yn cynnwys: ffonau di-wifr, monitorau babi, lampau halogen, switsys pylu, stereos, seinyddion cyfrifiadur, setiau teledu a monitorau.
  • Os ydych yn gwneud galwadau neu gyfarfodydd fideo, bydd diffodd y fideo a defnyddio sain yn defnyddio llawer llai o’ch cysylltiad â’r rhyngrwyd. 

Gwnewch alwadau ffôn ar linell ddaearol lle bynnag y bo modd, o ystyried y cynnydd yn y galw am rwydweithiau ffonau symudol.

  • Os oes angen i chi ddefnyddio eich ffôn symudol, ceisiwch ddefnyddio eich gosodiadau i droi galwadau wi-fi ymlaen, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â signal isel/gwael. 
  • Yn yr un modd, gallwch wneud galwadau llais dros y rhyngrwyd gan ddefnyddio apiau fel Facetime, Skype neu WhatsApp.
  • Os byddwch yn defnyddio cysylltedd Di-wifr, ceisiwch beidio â defnyddio microdon gerllaw oherwydd gall hyn effeithio ar y signal, gan achosi datgysylltiadau hyd yn oed.

Bwrsariaethau

Mae bwrsariaethau ac ysgoloriaethau ar gael i holl fyfyrwyr ac ymgeiswyr PCYDDS. 

Mae’r Fwrsariaeth Cysylltedd Digidol wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd angen cymorth gyda chostau cysylltedd digidol.