Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Croeso i Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin

Mae Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn dod â phobl, natur a llesiant at ei gilydd.  

Gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin, Llywodraeth y DU, mae Cynefin yn cynnig gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur fel teithiau cerdded synhwyrol, gwneud tân a gwehyddu helyg – pob un wedi’u cynllunio i hybu llesiant a chysylltiad â natur. 

Cenhadaeth yr hwb iechyd gwyrdd sydd wedi’i redeg gan PCYDDS mewn partneriaeth â grwpiau lleol, yw helpu pobl i deimlo’n well drwy dreulio amser ym myd natur, symud mwy, a sylwi ar y byd o’u cwmpas ac ymgysylltu ag ef.  Mae tystiolaeth yn dangos bod treulio amser ym myd natur yn gwella iechyd meddyliol, corfforol a chymunedol - ac mae’r effaith hon yn amlwg gyda’r nifer o wahanol grwpiau o bobl sy’n cymryd rhan yn y gwaith hwn. 

Mae Cynefin yn ymwneud â pherthyn - i’n hunain, i’n cymunedau a’r byd naturiol.   I ddysgu mwy, gallwch wylio’r fideo byr a darllen yr erthygl hon. 

Beth sydd Ymlaen

Un o’r partneriaid allweddol yng ngwaith Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yw Coed Lleol.  

Mae Coed Lleol / Small Woods Wales yn cynnig gweithgareddau coedwig a natur i gefnogi llesiant.  Mae digwyddiadau mewn mannau gwyrdd prydferth ar draws Sir Gâr, gan gynnwys yn yr Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin.  Mae Coed lleol yn bartneriaid cyflawni allweddol gyda’r dasg o ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl i gysylltu, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chael hwyl yn yr awyr agored.  Mae’r digwyddiadau hyn yn addas i bawb ac yn cynnwys gweithgareddau megis byw yn y gwyllt, fforio, gwaith coed gwyrdd, celf a chrefft sy’n seiliedig ar natur a mwy.   Darperir yr holl offer ac mae’r Arweinwyr Gweithgareddau arbenigol yn estyn croeso cynnes i chi ymuno â nhw o amgylch y tân gwersyll.  

Tudalen Facebook Coed Lleol  

Teithiau Cerdded Pwrpasol

Bespoke Nature Walks

Rydym yn cynnig teithiau cerdded pwrpasol ym myd natur. Rydym wedi eu creu gyda phobl ag anableddau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol anabledd mewn golwg, er bod croeso i bawb ymuno ag un. 
Ar y teithiau cerdded hyn, gallwch archwilio’r byd o’ch cwmpas trwy olwg, arogl, clyw a chyffwrdd. 

Astudiaethau achos

Mae’n bleser gennym rannu’r straeon am sut rydym wedi helpu pobl leol i fod ym myd natur a’r effaith mae hyn wedi’i chael ar eu llesiant.  Mae’r fideos byr hyn yn crynhoi pam ei fod yn bwysig a sut y gallwn helpu pobl, cymunedau a sefydliadau i fod mor iach â phosibl. 

Gwaith sy’n seiliedig ar Natur/Llesiant

Tudalen Facebook Gwaith Cynefin Castell Nedd / Port Talbot

Lleoliad

Mae’r Hwb wedi’i lleoli llai na dwy filltir o ganol Caerfyrddin. Wedi’i lleoli mewn cae yng nghanol coetir a thir fferm ac yn edrych dros yr Afon Tywi, mae ein lleoliad tawel yn ddelfrydol i archwilio’r awyr agored, dysgu sgiliau ymarferol, neu eistedd wrth y llosgwr pren gyda’r nos.

Teithio

  • Mae lle parcio ar gael ar y safle. 

    Mewn car, mae’r Hwb bum munud o Gaerfyrddin, neu un awr o Abertawe gan ddilyn yr M4 a’r A48.

  • Mae gwasanaethau bws 226 a 227 Caerfyrddin yn stopio ar Heol Llansteffan, taith fer ar droed o’r Hwb. Nid ydynt yn rhedeg ar ddyddiau Sul. 

  • Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwelliannau i’n mynediad i bobl anabl. 

  • Gallwch gerdded i’r Hwb o Gaerfyrddin mewn tua 30 munud ar hyd llwybr troed sy’n dilyn yr Afon Tywi. 

Oriel