Introduction
Mae’n bleser gennym eich croesawu i’r cyfleusterau chwaraeon ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. P’un a ydych yn athletwr profiadol neu’n awyddus i gadw’n heini, mae ein hystod eang o gyfleusterau wedi’u cynllunio i gefnogi eich taith ffitrwydd a gwella eich llesiant.
O’n campfa llawn offer a’n neuadd chwaraeon i’n cae awyr agored a dosbarthiadau ffitrwydd, rydym yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch i gyflawni eich nodau mewn amgylchedd bywiog a chefnogol. Rydym yn edrych ymlaen at eich helpu i wneud y gorau o’ch amser yma yn PCYDDS Caerfyrddin.
Campfa Canolfan Chwaraeon Caerfyrddin
Mae’r gampfa yn cynnwys amrywiaeth eang o beiriannau cardio a phwysau sy’n addas i bawb! Rydym yn estyn croeso i bawb, o’r dechreuwr pur i’r athletwr profiadol, i ddefnyddio’n cyfarpar a’n peiriannau.
Gallwch roi cynnig ar ddefnyddio ein campfa ar sail talu-wrth-fynd, neu gallwch ymaelodi.
-
- Wattbike
Mae ein sesiynau yn agored i feicwyr o bob gallu, gyda phawb yn gweithio ar lefel bersonol i wella eu sgiliau beicio a’u ffitrwydd cyffredinol.
Mae’r niferoedd yn cael eu cadw’n isel, fel bod pawb yn cael y sylw unigol sydd ei angen arnyn nhw.Dydd Llun a dydd Gwener 7 a.m. - 8 a.m. Mae angen archebu lle ymlaen llaw drwy’r ap.
- HIIT (Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel)
Mae’n cynnwys cyfnodau o ymarferion cardio a chryfder dwysedd uchel ynghyd â chyfnodau byr o adfer rhyngddyn nhw, ac mae’n ffordd wych o gael sesiwn ymarfer bwerus gyda nifer o fuddion a hynny mewn amser byr.
Dydd Llun 12:00 p.m. - 12:30 p.m. Mae angen archebu lle ymlaen llaw drwy’r ap.
- Sesiynau ymarfer eich hun
Os na allwch ddod i ddosbarth penodol, peidiwch â phoeni. Gallwch chi ddilyn un o’r cynlluniau ymarfer parod, gofynnwch am un wrth gyrraedd.
-
- Cyfarpar a Pheiriannau Cardiofasgwlaidd
- Tredmil Technogym
- Excite Top – Beicio llaw
- Beic Gorwedd Excite
- Peiriannau Croes-ymarfer Synchro
- Cyfarpar dringo
- Watt Bike Pro
- Watt Bike Atom
- Ffitrwydd Air Bike Elite Assault
- Ski Erg – concept 2
- Skillrow – Peiriant rhwyfo
- Skillmill
- Cyfarpar a Pheiriannau Gwrthiant
- Cyfarpar Gwasgau Brest
- Peiriant i Ymarfer Cyhyrau’r Cefn
- Cyfarpar deuol ymestyn/cyrliadau coesau
- Cyfarpar Gwasgau Coesau
- Gwasgau Ysgwyddau
- Cyfarpar i ymarfer cyhyrau’r abdomen
- Cyfarpar i ymarfer rhan uchaf y cefn
- Meinciau addasadwy
- Mainc Fflat Olympaidd
- Peiriant Smith - Aml-bŵer
- Pwli deuol addasadwy
- Dymbelau 4kg-42kg
- Bariau pŵer Olympaidd
Mae’r offer yn cael eu cyflenwi gan TechnoGym - The Wellness Company, Wattbike a Concept 2 Indoor Rower.
-
Pwll nofio dan do 20m x 7m wedi’u gynhesu.
Defnyddir y pwll nofio hefyd ar gyfer darlithoedd gan yr Ysgol Chwaraeon Iechyd ac Addysg Awyr Agored (diweddarwyd amserlen y pwll trwy ein App – UWSTD Sports)
Mae nofio yn ymarfer corff gwych i’r corff cyfan. Mae dŵr yn rhoi mwy o ymwrthedd i’ch grwpiau cyhyrau weithio yn ei erbyn ac yn cynnal rhywfaint o bwysau eich corff gan leihau’r straen ar eich cymalau.
Amseroedd Agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 8 am - 2 pm Dydd Sadwrn 10am – 1pm
Mae’r pwll nofio yn cael ei logi’n allanol yn ystod yr wythnos o 4:00pm ar gyfer gwersi nofio i blant. Am ragor o wybodaeth, ewch i Wefan Swim Champs.
-
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Chwaraeon Caerfyrddin, mae’r Clinig Cymal Ofal, sy’n eiddo i’r Ffisiotherapydd Siartredig Mark Brownless, yn cynnig clinigau ffisiotherapi arbenigol i drin anafiadau chwaraeon, problemau meinwe meddal a phob cyflwr orthopedig.
Ewch i Wefan Clinig Cymal Ofal am fwy o wybodaeth.
Clinig Cymal Ofal y Ganolfan Chwaraeon
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Canolfan Chwaraeon)
Caerfyrddin
SA31 3EP
Ffôn: 07970 657041
E-bost: info@jointcareclinic.co.uk“Ymunais i â’r gampfa dros 10 mlynedd yn ôl ar ôl ymweld â’r Clinig Cymal Ofal ar ôl cael anaf cas.
Cefais gyngor i ymuno â’r gampfa i fy helpu i wella. Fe ddilynais i’r raglen hyfforddi ges i gan staff y ganolfan chwaraeon i fy helpu wrth wella o fy anaf a dw i wedi bod yma ers hynny!
Mae ansawdd y cyfleusterau’n dda iawn ac yn berffaith addas i’r hyn rydw i eisiau ei wneud. Rwy’n teimlo bod cydbwysedd perffaith o ran peiriannau cardio a pheiriannau gwrthiant/pwysau.”
Dave Crawford -
Mae’r neuadd chwaraeon yn addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys pêl-fasged, badminton, pêl-droed, pêl-rwyd a dringo creigiau. Gellir llogi’r neuadd hefyd ar gyfer digwyddiadau heblaw chwaraeon megis cynadleddau.
Llogi ar gyfer Chwaraeon Unigol
Sport Price Tennis £10 yr awr Tennis Bwrdd £8 yr awr Badminton (ar gyfer 1 cwrt - mae 4 cwrt ar gael) £8 yr awr Pêl-fasged (Hanner Cwrt) £20 yr awr neu £4 y person yr awr ar gyfer defnydd unigol/ ymarfer personol (uchafswm o 4 person) Llogi Cyfarpar
£1.50 yr eitem (racedi tennis a badminton, peli, ac ati)Llogi ar gyfer Partïon
Bwriad y pecyn partïon yw hwyluso’r gwaith o drefnu parti pen-blwydd neu unrhyw ddathliad arall.Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau sy’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr gael hwyl dan ofal goruchwyliwr. Mae’r chwaraeon sydd ar gael yn cynnwys pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, pêl-foli a nifer o chwaraeon raced.
Os oes angen, mae modd trefnu lluniaeth yng Nghanolfan Halliwell i gwblhau’r dathlu.
Partïon yn y Pwll
Mae partïon yn y pwll nofio yn rhoi amser da i blant (a rhieni) o bob oed, dan oruchwyliaeth ein hachubwyr bywyd cymwysedig bob amser. Gallwch drefnu parti yn y pwll gyda fflotiau a theganau pwll – sy’n ddelfrydol i blant iau.- (Fel rheol gyffredinol, y gymhareb oedolion i blant yn y pwll yw un oedolyn i bob dau blentyn dan 8 oed).
Costau
Sylwch fod y prisiau’n amrywio yn dibynnu ar y gwasanaethau a chyfleusterau penodol rydych chi’n gofyn amdanynt. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i weddu i anghenion gwahanol, ac rydym yn hapus i ddarparu dyfynbris wedi’i deilwra yn seiliedig ar eich gofynion.
Canslo Archebion
Mae Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw archeb o ganlyniad i’r tywydd neu unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â defnydd arall o’r cyfleusterau ar y diwrnod archebu neu’n fuan wedi hynny.
Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i roi gwybod i’r llogwr ynglŷn â chanslo trefniadau gan roi cymaint o rybudd â phosibl.
Rhaid i’r llogwr roi rhybudd o wythnos am ganslo trefniadau (48 awr ar gyfer defnyddwyr achlysurol), a rhaid i’r Brifysgol dderbyn y rhybudd yn ysgrifenedig.
Caiff trefniadau llogi eu canslo os na fydd y grŵp yn bresennol am ddwy sesiwn yn olynol heb roi rhybudd ysgrifenedig.
Mae’r drefn ar gyfer newid trefniadau llogi yn dilyn yr un canllawiau â’r rhai ar gyfer canslo.Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar e-bost sportscentre@utwsd.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01267 676942. I logi’r neuadd chwaraeon, llenwch y Ffurflen Llogi’r Ganolfan Chwaraeon isod a’i hanfon atom ar e-bost.
-
Mae’r cae 3G sy’n mesur tua 40m x 40m yn berffaith ar gyfer hyfforddiant rygbi a phêl-droed. Mae’n cwrdd â safonau diogelwch ac yn eu rhagori gan fod ganddo haen waelodol amsugno sioc cymeradwy Rygbi’r Byd, sy’n darparu amddiffyniad ychwanegol i chwaraewyr wrth wneud gweithgareddau cyswllt.
Cost llogi yw £50 yr awr neu £450 am archeb bloc o 10 wythnos (yr un diwrnod ac awr am 10 wythnos yn olynol).
-
Rydym yn darparu cyfle i blant o’r ardal leol gymryd rhan yn ein gwersylloedd chwaraeon yn ystod gwyliau ysgol.
Mae’r Gwersyllfa Chwaraeon sydd wedi’i gynllunio i ddarparu profiad cyfoethog i blant yn y gymuned leol, yn ogystal â theuluoedd staff a myfyrwyr yn cynnig cyfuniad perffaith o weithgareddau hwyliog ac ymarferion adeiladu sgiliau.
Mae’r sesiynau sydd wedi’u harwain gan staff profiadol a’u cefnogi gan fyfyrwyr brwdfrydig yn addo cyfuniad o ddysgu a hwyl. Bryn Jones, Cydlynydd Gwersyllfa Chwaraeon yn PCYDDS. Mae’r gwersylloedd yn cynnig cyfle gwych i blant lleol ddefnyddio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf tra bod ein myfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr yn gweithio mewn amgylchedd y maent yn angerddol yn ei gylch. Nid mater o gadw’n heini yn ystod y gwyliau’n unig yw hyn; mae’n ymwneud â meithrin datblygiad cyfannol.” Bryn Jones, Cydlynydd Gwersyllfa Chwaraeon yn PCYDDS.
Cadwch lygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer dyddiadau penodol.
Rydym wedi ein lleoli ar Gampws Caerfyrddin PCYDDS, mae’r gampfa yng Nghanolfan Chwaraeon Caerfyrddin.
Parcio
- 4 lle parcio i’r anabl ychydig bellter o’r brif fynedfa gyda chyrbiau isel a phalmentydd cyffyrddol.
- Rac beic safonol wrth ochr y brif fynedfa.
Prif Dderbynfa
- Drysau mynediad awtomataidd yn arwain at y dderbynfa.
Ystafelloedd Newid a Thoiledau
- Cyfleuster toiled pwrpasol ar gyfer yr anabl.
Prisiau Aelodaeth Campfa & Pwll
Myfyriwr PCYDDS |
Blynyddol - £125 Misol - £12 Talu wrth Ymarfer - £4 |
Staff PCYDDS |
Blynyddol- £144 Misol - £12 Talu wrth Ymarfer - £4 Staff a Phartner – Talu’n fisol – £24 Staff a Phartner – Talu’n flynyddol - £275 |
Myfyrwyr |
Blynyddol - £145 Misol - £20 Talu wrth Ymarfer - £4 |
Y Cyhoedd |
Blynyddol - £200 Misol - £25 Mis unigol - £30 Talu wrth Ymarfer - £5 Cyplau – Misol - £32 Cyplau – Blynyddol - £350 |
Corfforaethol |
Blynyddol - £190 Misol - £21 Talu wrth Ymarfer - £4.50 Cyplau – Misol - £29.50 Cyplau – Blynyddol - £275 |
Henoed (Dros 60) |
Misol - £20 Talu wrth Ymarfer - £5 |
Mae gan Ganolfan Chwaraeon Caerfyrddin y cyfarpar ar gyfer pob lefel, gan gynnwys campfa, a dwy neuadd chwaraeon. Hefyd, mae gennym bwll nofio ar y campws. Gydag amrywiaeth o opsiynau hyfforddi a dosbarthiadau ffitrwydd, mae ein cyfleusterau yn gyfle perffaith i ychwanegu ychydig o amrywiaeth at drefn arferol eich ymarfer corff. Er mwyn eich galluogi i gael y gorau o’n campfa, mae gan Ganolfan Chwaraeon Caerfyrddin amrywiaeth o opsiynau ar gyfer aelodaeth a dulliau talu.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ffôn: 07872423789
E-bost: Sportscentre@uwtsd.ac.uk
Instagram: uwtsd_sportscentrecarmarthen
Facebook: University of Wales Trinity Saint David Sports Centre Carmarthen