Skip page header and navigation

Pwy Ydym Ni?

Mae’r hyfryd Barch. Sam Aldred ar gampws yn Abertawe, caplan cyntaf PCYDDS ar gyfer y campws yma.

Y Parch. Sam Aldred

Mae’r Parch. Sam Aldred yn gweithio’n llawn amser yn Eglwys y Santes Fair yng nghanol y ddinas ond mae ar gael i gwrdd yn y brifysgol bob dydd Llun ac mae modd cysylltu ag ef trwy e-bostio swanseachaplain@uwtsd.ac.uk

Mae’r Parch. Sam Aldred yn weinidog yn nhraddodiad Anglicanaidd y ffydd Gristnogol ond mae’n gobeithio bod yn bwynt cyswllt i bawb yn PCYDDS waeth beth fo’u ffydd, neu ddiffyg ffydd.  Os dewch chi ar ei draws (gallwch ei nabod wrth eiy goler fel arfer!)  yna dewch i ddweud helo.

  • Mae caplan yn rhywun y gallwch chi drafod cwestiynau mawr bywyd gyda nhw.  Pam ein bod ni yma? A oes Duw? Beth yw cariad? Beth mae Cristnogion yn ei gredu? Ble ydyn ni’n mynd pan fyddwn ni’n marw? Mae’r rhain yn gwestiynau na allwn ni eu hanwybyddu.


    Mae caplan yn bwynt cyfeirio ar gyfer prosiectau cymunedol. Bwydo’r newynog, dilladu’r noeth, cysuro’r rhai sydd mewn cystudd: gall y caplan eich cyfeirio at waith da sy’n digwydd yn y ddinas.


    Mae caplan yn glust i wrando. Straen gyda gwaith, tor-perthynas, dibyniaeth, salwch, marwolaeth. Weithiau mae angen i ni siarad, ac mae hynny’n rhan fawr o swydd y caplan.


    Mae caplan yn arwain yr addoli. Gall eich cyfeirio at eglwysi, a thrwy gydol y flwyddyn bydd yn arwain gwasanaethau yn y brifysgol sy’n agored i bawb. 

  • Ganed Sam yn 1987 a chafodd ei fagu yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Er iddo gael ei fagu’n anffyddiwr daeth i dderbyn ei fydd yn ei arddegau a chafodd ei fedyddio tra’n fyfyriwr israddedig yng Ngholeg Keble, Rhydychen, yn 2007.


    Cafodd Sam sawl swydd cyn penderfynu cael ei ordeinio. Bu’n werthwr persawr yn Kazakhstan, yn farchnatwr yn Llundain, ac yn athro ar hanes Rwsia yng Ngholeg Brighton. Yn 2014 dychwelodd i Rydychen i astudio ar gyfer MPhil mewn Hanes Eglwysig. Yn ystod y ddwy flynedd hynny, bu’n byw ac yn gweithio fel Sacristan yn Pusey House, caplaniaeth myfyrwyr Eingl-Gatholig yng nghanol Rhydychen. Yn 2016 aeth i St Stephen’s House yn Rhydychen am dair blynedd o hyfforddiant diwinyddol, gan gymhwyso ym mis Mehefin 2019. Cafodd ei ordeinio yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar y 29ain a dechreuodd ei weinidogaeth yn Eglwys y Santes Fair.


    Mae Sam yn gerddwr brwd, y mwynhau nofio yn y môr, ac yn effemerydd.  Priododd â Helen yn 2016 ac (ar adeg ysgrifennu hwn) maen nhw’n disgwyl eu plentyn cyntaf.