Skip page header and navigation

Mwynhewch yr Awyr Agored yn Nhref Farchnad Hardd Caerfyrddin

Crwydrwch trwy’r Dref

Mae gan dref farchnad hanesyddol Caerfyrddin amrywiaeth fawr o gaffis, bariau a siopau gan gynnwys Pizza Express, Costa, Lush, a sinema chwe sgrin 3D cwbl ddigidol.    

Dywedodd myfyriwr yn ddiweddar mai’r bwyty lleol, Sloppy Joes, yw’r “lle i fynd am fyrgyr blasus o ansawdd da!” Peidiwch, da chi, âcholli’ch cyfle i fynd.  

Cadwch yn Heini

Myfyriwr yn taflu pêl rygbi

Cadwch yn Heini

Caerfyrddin yw ein campws egnïol! Mae digon i’w wneud ar ac oddi ar y campws.  Ar y safle, gallwch ddefnyddio’r gampfa, y pwll a’r neuadd chwaraeon, neu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon lle mae amrywiaeth eang o weithgareddau i’ch diddanu.

Oddi ar y campws gallwch gael blas ar yr hyn sydd gan Sir Gâr i’w gynnig, gyda gweithgareddau fel caiacio môr, arfordira, a dringo! 

Ewch am Noson Allan Wych 

Mae nifer o glybiau a thafarndai cyfeillgar yn y dref, ac mae ein myfyrwyr yn argymell Club XO, Cwrw, a thafarn y Friends Arms fel rhai o’r goreuon.

Ewch i Weld Sioe

Beth am fynd i Theatr y Lyric, testun y ffilm ‘Save the Cinema’. Fe welwch chi dalent leol yno, fel Opera Ieuenctid Caerfyrddin a’r Cylch, yn ogystal â chwmnïau teithiol o bob rhan o’r DU.  

Students chatting on sofa in Merlin, Carmarthen

Bywyd ar y Campws

Mae digonedd o bethau i’w gwneud ar ein campws yng Nghaerfyrddin. Mae llyfrgell, theatr, pwll nofio, campfa, neuadd chwaraeon, bar a chlwb undeb y myfyrwyr, yn ogystal â llety myfyrwyr ar y campws.  

Teimlo’n llwglyd? Beth am ginio yn ein bwyty Merlin neu baned a chacen yn Y Cwad? 

Ymhellach i Ffwrdd… 

Gallwch fynd am drip byr yn y car i bentref hyfryd Llansteffan. Gyda’i draeth a’i gastell hardd mae’n lle perffaith i chwarae pêl a chael barbeciw gyda ffrindiau!  

Mae mwy o draethau gogoneddus yn Sir Gaerfyrddin hefyd, yn ogystal â gwyrddni hyfryd cefn gwlad, gan gynnwys Cefn Sidan ym Mhen-bre, Pentywyn, Glanyfferi, Parc Arfordir y Mileniwm yn Llanelli, a Thalacharn, lle’r arferai Dylan Thomas fyw.  

Book an Open Day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.