Skip page header and navigation

Chwaraeon yn y Drindod Dewi Sant

Group of sports students on the steps outside the Carmarthen campus

Darganfod Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant

Yn barod i gyflawni eich nodau chwaraeon? Mae ein cyfleusterau arbenigol yn cynnwys cyfleuster cryfder a chyflyru, ardal hyfforddi 3G, stiwdio ffitrwydd, labordai ffisioleg a biomecaneg, pwll nofio, ystafell dadansoddi chwaraeon, neuadd chwaraeon dan do, ac ystafelloedd therapi chwaraeon ac adsefydlu.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleusterau chwaraeon ardderchog ac ystod eang o weithgareddau at ddant bawb o athletwyr perfformiad uchel i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd yn gyffredinol. Dysgwch ragor am glybiau chwaraeon Undeb y Myfyrwyr, cyfleusterau chwaraeon, Academi Chwaraeon, cynlluniau aelodau a llawer rhagor.

Explore our Carmarthen Campus

Ydych chi’n dwlu ar chwaraeon cystadleuol? Byddwch y gorau y gallwch chi fod gydag Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd a chreu’r profiad prifysgol rydych wedi breuddwydio amdano erioed.

Students from the UWTSD Sports Academy wearing branded hoodies

Cyfleusterau Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored.

students running on artificial grass

Mae chwaraeon yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru ac mae mynd i ddigwyddiad neu i wylio gêm yn rhan hanfodol o astudio yn PCYDDS! Cymerwch gip ar y lleoliadau isod y gallwch chi ymweld â nhw pryd bynnag mae’r awydd yn codi.

Person swimming in a pool