Cyflwyniad
Darganfyddwch sut mae symud o safon yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol er mwyn gosod sylfeini gweithgarwch corfforol, iechyd, llesiant a chanlyniadau academaidd.
“Credwn y dylai rhaglenni megis SKIP Cymru gael eu rhoi ar waith ledled y wlad i sicrhau bod pob plentyn yn datblygu’r Sgiliau Echddygol Sylfaenol hanfodol y mae eu hangen arnynt i’w harfogi ar gyfer blynyddoedd yn ddiweddarach yn eu hoes.”
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Senedd Cymru
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi ar gyfer ymarferwyr plentyndod cynnar, yn bwrpasol ar gyfer lleoliadau addysg a darpariaeth cyn ysgol yn ogystal â chyrsiau sydd wedi’u teilwra ar gyfer hyfforddwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau cymunedol. Gweler mwy am ein cyrsiau isod.
Ein Cyrsiau
Pam mae’r hyfforddiant hwn mor bwysig?
Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o anweithgarwch, gorbwysedd a gordewdra ymhlith plant, dirywiad mewn iechyd a chanlyniadau academaidd gwael.
Gall ymarferwyr o sefydliadau addysg, iechyd, cymunedol a theuluol gefnogi iechyd a llesiant plant drwy ddeall sut…
- Mae angen symud o safon yn y blynyddoedd cynnar ar gyfer datblygiad corfforol
- Mae symud yn ystod plentyndod cynnar yn creu cysylltiadau yn yr ymennydd ac yn cefnogi lleferydd, iaith a llythrennedd.
- Mae sgiliau symud hanfodol yn sail i weithgarwch corfforol ac iechyd yn ddiweddarach
- Ni chaiff pob sgil ei datblygu drwy chwarae’n unig ac mae angen eu haddysgu mewn ffordd ddatblygiadol briodol i fodloni anghenion penodol pob plentyn
- Mae datblygiad corfforol plant yn hanfodol i hunan-barch, hyder a gwydnwch, gan gefnogi iechyd meddwl a llesiant.