Skip page header and navigation

Fyfyrwyr Partneriaeth a Benthycwyr Allanol

Partneriaeth

Caiff myfyrwyr mewn sefydliadau partner fynediad i rai o’r e-adnoddau y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, pan ganiateir hynny dan gytundebau trwyddedu. Mae’r e-adnoddau hyn yn rhoi mynediad i ystod eang o e-lyfrau, e-gylchgronau, cronfeydd data arbenigol, papurau newydd ar-lein a rhagor. Dylai myfyrwyr partneriaid gysylltu â’u sefydliad cartref i gael manylion mynediad ac am gymorth wrth ddefnyddio’r adnoddau hyn.

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Partneriaethau

  • Defnyddiwch ein Llyfrgell Ar-lein gyda’ch cyfrif TG yn y Drindod Dewi Sant.


     

  • Mae’n bosibl cael mynediad i’r adnoddau isod drwy fanylion mewngofnodi a chyfrinair gwahanol. Caiff myfyrwyr y manylion mewngofnodi gan y gwasanaeth llyfrgell yn eu sefydliad cartref. Sylwer ei bod yn bosibl nad oes mynediad gan bob partneriaeth i’r adnoddau hyn.

    Academic Search Premier

    Mae’r gronfa ddata amlddisgyblaethol hon yn darparu erthyglau testun llawn ar gyfer mwy na 4,600 o gylchgronau, yn cynnwys testun llawn ar gyfer bron iawn 3,900 o deitlau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae ôl-ffeiliau ar ffurf PDF ar gael hyd 1975 neu ymhellach ar gyfer ymhell dros gant o gylchgronau, a darperir cyfeiriadau dyfynedig chwiliadwy am fwy na 1,000 o deitlau.

    Business Source Complete

    Cronfa ddata ysgolheigaidd ddiffiniol ym maes busnes, sy’n darparu casgliad blaenllaw o gynnwys llyfryddol a thestun llawn. Mae’r gronfa ddata yn un gynhwysfawr gan gynnig mynegeion a chrynodebau ar gyfer y cylchgronau ysgolheigaidd pwysicaf ym maes busnes mor bell yn ôl â 1886. Hefyd darperir cyfeiriadau dyfynedig chwiliadwy ar gyfer mwy na 1,300 o gylchgronau.

    Education Source

    Education Source yw’r adnodd ar-lein mwyaf awdurdodol ar gyfer ymchwil addysg. Mae’n cynnig casgliad mwyaf a mwyaf cyflawn y byd o gylchgronau addysg â thestun llawn. Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys addysg ar bob lefel o blentyndod cynnar i addysg uwch, a phob arbenigedd addysgol, megis addysg amlieithog, addysg iechyd, a phrofion.

    Hospitality & Tourism Complete

    Mae Hospitality & Tourism Complete yn cwmpasu ymchwil ysgolheigaidd a newyddion y diwydiant yn gysylltiedig â phob maes o fewn lletygarwch a thwristiaeth. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys mwy na 828,000 o gofnodion, gan ddyddio’n ôl mor bell â 1965. Mae testun llawn ar gyfer mwy na 490 o gyhoeddiadau, gan gynnwys cylchgronau, adroddiadau cwmnïau a gwledydd a llyfrau.

    Humanities Source

    Bwriad Humanities Source yw diwallu anghenion myfyrwyr, ymchwilwyr ac addysgwyr sydd â diddordeb ymhob agwedd ar y dyniaethau. Mae Humanities Source yn cynnig cynnwys byd-eang yn gysylltiedig â’r meddylfryd llenyddol, ysgolheigaidd a chreadigol.

    Religion and Philosophy Collection

    Mae Religion and Philosophy Collection yn darparu deunydd helaeth yn gysylltiedig â phynciau megis crefyddau’r byd, prif enwadau, astudiaethau Beiblaidd, hanes crefyddol, epistemoleg, athroniaeth wleidyddol, athroniaeth iaith, athroniaeth foesol a hanes athroniaeth.

    SPORTDiscus with Full Text

    SPORTDiscus with Full Text yw ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y byd ar gyfer cylchgronau testun llawn ym meysydd chwaraeon a meddygaeth chwaraeon, gan ddarparu testun llawn ar gyfer 550 o gylchgronau sydd wedi’u mynegeio yn SPORTDiscus. Mae’r ffeil awdurdodol hon yn cynnwys testun llawn ar gyfer llawer o’r cylchgronau ym mynegai SPORTDiscus sy’n cael eu defnyddio fwyaf - heb unrhyw embargo. Mae’n cynnwys erthyglau testun llawn yn dyddio’n ôl i 1985, a SPORTDiscus with Full Text yw’r offeryn ymchwil diffiniol ar gyfer pob maes o fewn llenyddiaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon. 

    ABI/Inform Collection (drwy ProQuest)

    Busnes, Rheolaeth a Masnach – erthyglau cyfnodolion ysgolheigaidd a masnach, traethodau hir, adroddiadau marchnad, adroddiadau diwydiant, achosion busnes a newyddion byd-eang a masnach.

    British Periodicals 1681 - 1939 (drwy ProQuest)

    Llenyddiaeth, athroniaeth, hanes, gwyddoniaeth, y celfyddydau cain, cerddoriaeth, drama, archaeoleg a phensaernïaeth a’r gwyddorau cymdeithasol – erthyglau cyfnodolion.

    Periodicals Archive Online (drwy ProQuest)

    Archifau cyfnodolion ysgolheigaidd testun llawn o’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

    ProQuest Central (drwy ProQuest)

    Daw’r adnodd hwn â chronfeydd data cyflawn at ei gilydd ar draws yr holl brif feysydd pwnc, gan gynnwys Busnes, Iechyd a Meddygol, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a’r Dyniaethau.

    ProQuest Dissertations and Theses Global (drwy ProQuest)

    The Vogue Archive (drwy ProQuest)

    Cynnwys llawn cylchgronau Vogue (cyfrol yr UD) mewn delwedd tudalen lliw llawn, i’r rhifyn cyntaf yn 1892 i’r presennol, gyda diweddariadau misol ar gyfer rhifynnau newydd.

Canllawiau Defnyddwyr Allanol

Gall myfyrwyr partneriaeth a benthycwyr allanol fenthyca eitemau gan lyfrgelloedd Y Drindod Dewi Sant trwy gynlluniau’r Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd neu Fynediad SCONUL.

  • Mae’r Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd yn galluogi unrhyw aelodau o wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro i fenthyca gan unrhyw un o’r sefydliadau a restrir yn y ddolen isod.

    I ymuno â’n llyfrgelloedd, bydd angen i chi lenwi ffurflen Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd, sydd ar gael gan eich llyfrgell gyhoeddus leol neu yn y ddolen uchod. Ar ôl ei llenwi, gallwch gyflwyno’r ffurflen yn Nesg Gymorth unrhyw un o’n llyfrgelloedd a chaiff cyfrif benthyciwr llyfrgell ei greu ar eich cyfer chi.

  • Gall defnyddwyr Pasbort Llyfrgelloedd a defnyddwyr mynediad SCONUL fenthyca hyd at 5 eitem.

  • Rhoddir eitemau am 1 wythnos a chânt eu hadnewyddu’n awtomatig am hyd at 1 flwyddyn, oni bai bod un o gwsmeriaid eraill y llyfrgell wedi gwneud cais amdanynt.

  • Gall aelodau’r cyhoedd neu staff neu fyfyrwyr ar ymweliad gyrchu detholiad o’n eAdnoddau gan ddefnyddio cynllun mynediad cerdded i mewn Cymru.

    Caiff Defnyddwyr Allanol fanteisio ar adnoddau ar-lein dethol drwy ein cynllun Mynediad Cerdded i Mewn Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfrifiaduron dynodedig ar ein campysau yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe; gwiriwch ein horiau agor cyn ymweld.

    ACM Digital Library

    ACM Digital Library yw’r gadwrfa testun llawn o bapurau o gyhoeddiadau sydd wedi’u cyhoeddi, eu cyhoeddi ar y cyd, neu’u marchnata ar y cyd gan yr Association for Computing Machinery ac mae’n cynnwys cylchgronau, trafodion cynadleddau, cylchgronau technegol, newyddlenni a llyfrau.

    ACLS Humanities E-books

    Testun llawn chwiliadwy o fwy nag 800 o lyfrau mewn nifer o feysydd hanes. Mae’r rhain yn weithiau sydd o bwysigrwydd mawr i astudiaethau hanesyddol a chyfeirir atynt yn aml.

    Bridgeman Education

    Mwy nag 1.2 miliwn o luniau o amgueddfeydd, orielau, casgliadau preifat ac artistiaid cyfoes.

    Brill Reference Works/ Classical World Online

    Mae’n darparu mynediad at New Jacoby, Jacoby Online (Fragmente der Griechischen Historiker), New Pauly (gwyddoniadur y byd clasurol) a’r Supplementum Epigraphicum Graecum ar-lein (catalog o arysgrifau newydd sydd wedi’u cyhoeddi).

    British Newspapers 1600-1900

    Casgliad digidol sylweddol o bapurau newydd hanesyddol Prydain.

    Early English Books Online 

    Mae’n cynnwys lluniau ffacsimili digidol o dudalennau bron iawn pob gwaith a argraffwyd yn Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Cymru a Gogledd America Brydeinig, ynghyd â gweithiau yn Saesneg a argraffwyd mewn lleoedd eraill o 1473 – 1700 - o’r llyfr cyntaf a argraffwyd yn Saesneg gan William Caxton, drwy oes Spenser a Shakespeare a chythrwfl Rhyfel Cartref Lloegr.

    EBSCOHost ebooks
    EBSCOHost databases
    • Academic Search Premier
    • Art & Architecture Source
    • ATLA Religion Database/ ATLA Serials
    • Business Source Complete
    • Education Source
    • GreenFILE
    • Hospitality & Tourism Complete
    • Humanities Source
    • PsycARTICLES
    • SPORTDiscus
    • Teacher Reference Centre
    IEET/ IET Electronic Library

    Mae’n darparu mynediad testun llawn i lenyddiaeth dechnegol o safon orau’r byd ym meysydd peirianneg drydanol, cyfrifiadureg, ac electroneg.

    John Johnson Collection

    Mae’n rhoi mynediad i luniau lliw chwiliadwy o 65,000 o eitemau yng Nghasgliad John Johnson o Effemera Argraffedig yn Llyfrgell Bodley, gan roi cipolwg unigryw ar natur gyfnewidiol bywyd pob dydd yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

    JSTOR 

    Gwasanaeth archifo cyfnodolion testun llawn sy’n rhoi mynediad i ôl-rifynnau’r holl gyfnodolion ysgolheigaidd sydd ar gael yn gyfredol yn JSTOR. Ni chynhwysir rhifynnau diweddar, fel arfer y 3-5 mlynedd ddiwethaf.

    19th Century British Library Newspapers

    Mae’n rhoi mynediad i bapurau newydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o Brydain yn ystod y 19eg Ganrif.

    Oxford University Press Publications
    • Oxford Dictionary of National Biography
    • Oxford Islamic Studies Online
    • Oxford Journals
    • Oxford Journals Archive
    • Oxford Reference Online
    • Oxford Scholarship Online
    ProQuest Databases
    • British Periodicals
    • Performing Arts Periodicals Database
    • Periodicals Archives Online
    • ProQuest Dissertation & Theses: UK & Ireland
    • UK Parliamentary Papers
    ScienceDirect

    Mynediad at filoedd o erthyglau o gyfnodolion a llyfrau a gyhoeddwyd gan Elsevier ar bynciau megis y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Iechyd a’r Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau.

    17th & 18th Century Burney Collection

    Mae’n rhoi mynediad i’r papurau newydd a’r pamffledi newyddion a gasglwyd gan y Parchedig Charles Burney (1757-1817).

    Times Digital Archive

    Yr archif ddigidol gyflawn o The Times (Llundain).

    Bydd angen i ddefnyddwyr gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth. Dewch ag un o’r dulliau adnabod canlynol gyda chi:

    • Pasbort/Cerdyn Adnabod Gwladolyn o’r UE
    • Trwydded yrru’r DU
    • Cerdyn neu lyfr budd-daliadau
    • Bil cyfleustodau
    • Cyfriflen banc neu gerdyn credyd
    • Cerdyn NUS neu gerdyn adnabod myfyriwr

    Wedi i chi gofrestru fe gewch fynediad i’r eAdnoddau. Sylwch y gallwch chwilio am gynnwys o fewn adnoddau unigol yn unig, nid y gwasanaeth cyfan.

    • I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rhaid i chi gydymffurfio â chyfreithiau hawlfraint fel y’u nodir yn Neddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 a chydymffurfio â darpariaethau’r holl gyfreithiau cyfredol yn y DU.
    • Rhaid cydymffurfio â Pholisi Defnydd Derbyniol y Brifysgol
    • Cewch fynediad at e-adnoddau o un o’r terfynellau cyfrifiadurol dynodedig yn unig yn y llyfrgelloedd.
    • Cewch chwilio o fewn pob e-adnodd, ond nid ydyn ni’n tanysgrifio i’r holl gynnwys ym mhob adnodd.
    • Gellir tynnu mynediad at e-adnoddau yn ôl unrhyw bryd.
    • Ddefnyddio’r gwasanaeth at ddibenion masnachol neu fusnes.
    • Rhannu unrhyw ddeunyddiau a gyrchir o gasgliadau e-adnoddau’r Brifysgol neu lawrlwytho gormod o gynnwys. Caiff defnyddwyr gadw copïau unigol o gynnwys e-adnodd i ddyfais storio gludadwy megis cofbin USB, ar yr amod bod swm yr hyn sy’n cael ei gopïo yn cyfateb i ‘ddelio teg’ ar gyfer ymchwil ac astudiaeth breifat.
    • Mynediad at unrhyw safleoedd, meddalwedd neu gymwysiadau (megis Microsoft Office neu e-bost) y tu allan i’r gwasanaeth hwn o’r derfynell hon.