Cyfleusterau Dylunio Graffig
Cyflwyniad
Yng Ngholeg Celf Abertawe, mae Dylunio Graffig yn cyfuno offer digidol â phrosesau ymarferol. Gweithiwch ar draws stiwdios a gweithdai, wedi eich cefnogi gan staff arbenigol mewn cymuned greadigol glos, gydweithredol.
Cyfleusterau
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
- Labordy Mac
- Stiwdios
- Y Lolfa Raffig
- Llythrenwasg
- RISO
- Ystafell Argraffu
- Ffotograffiaeth a Cyfryngau
- Gwneuthuriad Digidol a Fformat Mawr
- Gweithdai a Rennir
- Oriel Arddangos
Labordy Mac
Ystafelloedd Mac o safon diwydiant â meddalwedd proffesiynol ac Adobe rhad ac am ddim. Mae mannau mynediad agored yn caniatáu i chi weithio’n hyblyg, gyda chymorth technegol wrth law pan fydd ei angen arnoch.
Stiwdios
Mannau stiwdio agored, egnïol ar gyfer cydweithio a gweithio’n annibynnol, gyda mynediad gyda’r nos ac ar ddydd Sadwrn fel bod syniadau’n gallu datblygu’n ôl eich amserlen chi.
Y Lolfa Raffig
Rhywle y gall myfyrwyr ymlacio, darllen a gweithio’n annibynnol gyda mynediad i lyfrau a chyfnodolion.
Llythrenwasg
Archwiliwch deipograffeg draddodiadol drwy ddefnyddio teip a gweisg ffisegol, dan arweiniad technegwyr sy’n cefnogi crefft, arbrofi, a gwneud â llaw.
RISO
Crëwch brintiau beiddgar, haenog trwy brosesau RISO arbrofol, gan adeiladu sgiliau technegol gydag arweiniad arbenigol.
Ystafell Argraffu
Gweithdy hyblyg ar gyfer printio sgrin, cerfwedd, a phrosesau cymysg, yn berffaith ar gyfer datblygu canlyniadau cyffyrddol, seiliedig ar brint.
Ffotograffiaeth a Chyfryngau
Cewch fynediad at gamerâu, goleuadau, ac offer fideo i ymestyn eich arfer i faes ffotograffiaeth a delwedd symudol.
Gwneuthuriad Digidol a Fformat Mawr
Gweithiwch gydag argraffu fformat mawr ac offer fel torrwyd laser i wthio eich syniadau’n ffurfiau ffisegol, gofodol ac arbrofol.
Gweithdai a rennir
Fe gewch fynediad i gyfleusterau ar draws yr ysgol gelf, gan annog gwaith trawsddisgyblaethol a chyfuno crefft traddodiadol â dylunio cyfoes.
Oriel Arddangos
Mannau pwrpasol ar gyfer arddangosfeydd.
Oriel
Mynediad a Rennir
Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.