Skip page header and navigation

Pwy Ydym Ni?

Capel Prifysgol Dewi Sant


Mae’r Capel yn eiddo i fyfyrwyr a staff y Brifysgol ac rydym yn ymdrechu i fod yn gwbl gynhwysol yn ein croeso. Mae’r Capel ar agor y rhan fwyaf o’r amser ac mae croeso i unrhyw un ddefnyddio’r lle i fyfyrio’n dawel, gweddïo neu i gymryd hoe fach ynghanol prysurdeb y dydd.   

Caplaniaeth

I gysylltu â ni, cysylltwch â Mones Farah, sef yr unigolyn cyswllt presennol ar gyfer cymorth bugeiliol.

  • Sefydliad Anglicanaidd yw’r Capel o ran ei draddodiad. Mae’n rhan o’r Eglwys yng Nghymru, ac felly’n defnyddio defodau a seremonïau’r Eglwys yng Nghymru.


    Ond mae gweinidogaeth y Capel yn agored i bawb o unrhyw enwad neu sy’n ddi-enwad, ac mae croeso mawr i bawb i unrhyw un o wasanaethau’r Capel.


    Cynhelir y gwasanaethau yn ystod y tymor yn unig. Ein prif wasanaeth yn ystod yr wythnos yw’r Cymun Bendigaid ar ddydd Iau am 12:30p.m. Gweler hysbysfwrdd y capel neu cysylltwch â’r Caplan i gael gwybodaeth am y gwasanaethau eraill. 
     

  • Mae Ysgoloriaeth Organ gyda bwrsari ar gael hefyd i fyfyriwr cymwys priodol. Gan y bydd rhai gwersi organ yn cael eu darparu yn rhan o becyn yr ysgoloriaeth, gallai pianydd abl fod yn gymwys i’w derbyn hefyd.

  • Cysegrwyd y Capel gan yr Esgob Jenkinson o Dyddewi ar 23 Awst 1827, bron i chwe mis ar ôl i’r myfyrwyr cyntaf gael eu derbyn i Goleg Dewi Sant. Roedd gwasanaethau dyddiol yn cael eu cynnal o’r cychwyn cyntaf ac roedd yr holl staff a myfyrwyr yn eu mynychu. Roedd y rhain yn cynnwys ffurfiau byrrach o’r Weddi Foreol a’r Weddi Hwyrol yn ystod yr wythnos a gwasanaethau llawn y Weddi’r Foreol a’r Weddi Hwyrol ar y Sul. Byddai’r Cymun Bendigaid yn cael ei ddathlu unwaith y mis, fel oedd yn arfer yn y cyfnod hwn. Roedd tua hanner y gwasanaethau yn Saesneg a hanner yn Gymraeg.

    Yn wreiddiol, roedd y paentiad sydd bellach yn cael ei arddangos yn Eil yr Ymwelwyr, wedi’i osod y tu ôl i’r allor. Copi o’r Teulu Sanctaidd gan Correggio ydyw ac mae’r llun gwreiddiol yn Parma. Trwy gydol esgobaeth yr Esgob Jenkinson, ac am gyfnod helaeth o esgobaeth ei olynydd, Connop Thirlwall, y Capel oedd y lleoliad arferol ar gyfer ordeiniadau yn esgobaeth Tyddewi. Y Capel oedd un o’r addoldai Anglicanaidd cyntaf yng Nghymru i gyflwyno dathliad wythnosol o’r Cymun Bendigaid, a hynny erbyn y 1870au.

    Er mwyn dathlu jiwbilî aur Coleg Dewi Sant yn 1877 penderfynwyd ail-adeiladu’r Capel a oedd erbyn hynny’n cael ei ystyried yn annigonol. Cynlluniwyd y Capel newydd gan T. G. Jackson a daeth y gwaith pren ar gyfer seddi’r côr sydd â chanopi o’r Coleg Newydd, Rhydychen. Nid oedd ei gynlluniau yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pulpud, ond roedd un wedi ei osod erbyn 1901.

    Gwaith Jackson yw’r nenfwd sydd wedi ei beintio ond ni chafodd y sgrin y bwriedwyd ei rhoi rhwng prif gorff y Capel ac Eil yr Ymwelwyr fyth ei gosod. Cysegrwyd y Capel newydd ar 24 Mehefin 1880, a’r pregethwr yn y seremoni hon oedd yr Esgob Ollivant o Landaf, a oedd, ac yntau’n Is-brifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, wedi pregethu yng ngwasanaeth cysegru’r Capel gwreiddiol 53 mlynedd ynghynt.

    Yn 1879 gorchmynnodd yr Esgob Basil Jones o Dyddewi fod yn rhaid cael gwared o’r fersiynau byrrach o’r Weddi Foreol a’r Weddi Hwyrol a ddefnyddir yn ystod yr wythnos a chynnal gwasanaethau llawn bob dydd, i’w cymryd gan yr aelodau staff mewn urddau eglwysig yn eu tro, ac y dylid lleihau nifer y gwasanaethau Cymraeg.

    Yn yr 1880au byddai’r Weddi Foreol a’r Weddi Hwyrol yn cael eu cynnal ar ddyddiau’r wythnos am 8am a 5.30pm, ond ar brynhawn Gwener yn unig y byddai’r Gosber yn Gymraeg. Roedd gwasanaethau’r Sul yn cynnwys y Cymun Bendigaid am 8.30am, Boreol Weddi Gorawl am 11am, gyda Chymun ar Gân ar Sul cyntaf y mis, a’r Gosber am 7pm. Cyflwynwyd anthemau rheolaidd ar y Sul gan y codwr canu newydd, Edmund Tyrrell Green, yn 1895. Sefydlodd Green hefyd Gymdeithas Dewi Sant ar gyfer datblygiad ysbrydol staff a myfyrwyr.

    Yn 1906 comisiynwyd W D Caröe i gynllunio Capel newydd ond ni chafodd y cynllun fyth ei weithredu. Fodd bynnag, adnewyddwyd yr organ ar gost o £200, yn 1908. Yn 1914 cyflwynwyd dathliad o’r Cymun Bendigaid yn ystod yr wythnos, ar ddydd Mercher, a dathliad dyddiol yn 1925. Gwisgwyd urddwisgoedd ewcharistaidd am y tro cyntaf yn 1933 ac fe’u gwnaed yn orfodol yn ystod y Cymun ar Gân, ond nid mewn dathliadau llafar, yn 1934. Yn 1935 newidiwyd patrwm gwasanaethau’r Sul i Gymun Bendigaid am 8am, Boreol Weddi Gorawl am 10am, Pregeth am 10.30am, Cymun ar Gân am 11am a’r Gosber am 6.30pm. Roedd disgwyl i staff a myfyrwyr fynychu naill ai’r Weddi Foreol a Phregeth neu Bregeth a Chymun ar Gân ar foreau Sul.

    Yn 1922 dadorchuddiwyd carreg goffa i’r rhyfel a ddyluniwyd gan W. D. Caröe. Cyflwynwyd pulpud newydd, oedd hefyd wedi’i ddylunio gan Caröe, yn 1928 ac fe gysegrwyd reredos newydd yn 1934. Gwnaed gwaith atgyweirio i’r organ hefyd yn 1934 ac yn 1936 rhoddwyd blaen cerfiedig newydd i fwrdd yr allor. Roedd cyfanswm cost yr holl welliannau hyn bron yn £1400. Serch hynny, roedd y Capel yn dal i gael ei ystyried yn annigonol ar gyfer anghenion y coleg, ac awgrymwyd Capel newydd gan y Prifathro Archdall yn 1939.

    Rhoddodd Esgob Prosser o Dyddewi £1000 tuag at y Capel newydd yn 1943 a chomisiynwyd Ben Roderick o Aberdâr i baratoi cynlluniau ar gyfer y capel, neuadd ddiwinyddol a dau dŷ athrawol newydd, a fyddai wedi eu hadeiladu yn y llecyn agored rhwng Adeiladau Dewi Sant a Chaergaint. Roedd Capel newydd yn dal yn rhan o’r cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd yn 1948 ond ni ddaeth dim o’r cynlluniau hynny.

    Hyd at 1975 pan ymddeolodd J. R. Lloyd Thomas, y Prifathro olaf mewn urddau eglwysig, y Prifathro oedd yn gyfrifol am y Capel a’i wasanaethau. Wedi hynny penodwyd caplan llawn amser. Yn 2005-6 ail-drefnwyd y Capel yn sylweddol i’w wneud yn lleoliad mwy addas ar gyfer litwrgi ewcharistaidd newydd yr Eglwys yng Nghymru.

    Tynnwyd y pulpud oddi yno, a gosodwyd bwrdd allor a darllenfa newydd. Ar yr un pryd tynnwyd y rhan fwyaf o’r seddi yn Eil yr Ymwelwyr oddi yno ac yn eu lle gosodwyd cadeiriau y gellid eu defnyddio mewn ffordd mwy hyblyg ar gyfer gwasanaethau neu gyfarfodydd llai o gynulleidfa’r Capel.

  • Mae gan y Gaplaniaeth hefyd dîm o fyfyrwyr sy’n helpu i baratoi ar gyfer y gwasanaethau. Mae’r swyddi hyn ar agor i bawb, ac yn aml mae swydd wag ar gael ar ddechrau’r flwyddyn. Cysylltwch â’r Caplan os oes gennych ddiddordeb 01570 424 781.