Llety Abertawe
Llety yn Abertawe
Os ydych yn bwriadu byw oddi cartref tra byddwch yn y brifysgol, mae’n debyg mai llety sydd ar frig eich rhestr o ystyriaethau. Mae poblogaeth enfawr o fyfyrwyr yn byw yn Abertawe, ac felly bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn rhoi digon o ddewis i chi.
Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich tywys drwy eich opsiynau a chynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr gyda ni.
Bydd myfyrwyr sy’n aros mewn llety nad yw’n eiddo i’r brifysgol yn dal i allu defnyddio gwasanaethau fel y tîm iechyd meddwl, cyngor ariannol a mwy.
Bydd y swyddfa lety ar gael i gefnogi a rhoi cyngor ynghylch ble mae myfyrwyr PCYDDS yn aros er mwyn i chi allu bod o gwmpas myfyrwyr sy’n astudio gyda ni.
Watch our Swansea Student Living video.
Yr hyn sydd gan Lety Preifat yn Abertawe i’w Gynnig
Ar hyn o bryd rydym yn argymell y llety preifat canlynol yn Abertawe:
St Davids (Student Roost)
Crown Place
Wedi’i leoli yng nghanol Abertawe.
Mae amrywiaeth eang o lety myfyrwyr ar gael yn ein lleoliad yn Abertawe, o stiwdios chwaethus i ystafelloedd en-suite mawr, pob un â’r biliau wedi’u cynnwys.
Wedi’i leoli ar y glannau ac yn edrych dros Farina Abertawe ac Afon Tawe, mae Crown Place mewn lleoliad perffaith ar gyfer ein campws SA1.
Mae sawl math o ystafell i ddewis ohonynt. P’un ai eich bod eisiau preifatrwydd eich stiwdio eich hun neu gymysgu â myfyrwyr o’r un anian mewn clwstwr o ystafelloedd en-suite.
-
Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.
Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:
- Pecynnau Dillad Gwely
- Pecynnau Cegin
- Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
- Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
- Offer Trydanol
- Ategolion a llawer iawn mwy!
Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.
Beth sydd gan y Llety Preifat yn Abertawe i’w gynnig
Cysylltu â'r Tîm Llety
Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.