Cyfleusterau Celf Gain
Introduction
Caiff pob myfyriwr Celf Gain le stiwdio personol.
Ymhlith y cyfleusterau bydd:
Caiff pob myfyriwr Celf Gain le stiwdio personol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys gweithdai Cerflunio sy’n canolbwyntio ar weithdai metel, pren, a cherameg, ochr yn ochr â chyfarpar arbenigol megis torwyr laser a chwistrell ddŵr, rhithrealiti (VR), stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll ffotograffig, stiwdios sain a fideo, a chyfleusterau gwneud printiau.
Mae gan yr ardal gwneud printiau gyfarpar ar gyfer ysgythru, torri leino, monobrintio, printio â sgrin sidan a phrintio â riso. Mae’r gweithdy metel yn cynnig torwyr plasma, cyfleusterau weldio a sgwrio â thywod. Mae’r gweithdy resin yn cynnwys ardal blastr a gwneud mowldiau ac mae’n defnyddio prosesau diwydiannol. Mae’r odynau yn y stiwdio cerameg hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer ymdoddi gwydr.
Mae’r torrwr chwistrell dŵr yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio ac arbrofi ymhellach gyda metel, carreg, gwydr, pren a ffelt. Yn ogystal â’r ystafell darlunio bywyd, mae’r adran hefyd yn cynnwys stiwdios mawr a hyblyg ar gyfer pob myfyriwr.
Rydym yn unigryw o ran ein bod ni’n pwysleisio pwysigrwydd bywluniadu yn rhan o’r amserlenni wythnosol, gan ddysgu nid yn unig am dynnu llun, ond pwysigrwydd ‘edrych’.
Oriel
Mynediad a rennir
Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.